top of page
Search

Gŵyl y Gelli 



Cafodd tref fach y Gelli Gandryll ei gosod ar fap byd-eang drwy gyfrwng llyfrau – a gŵyl enwog a gynhelir bob haf. Lleolir y drefn hon ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr; mae ganddi 2,000 o breswylwyr yn unig ac mae hi’n wirioneddol unigryw. Mae’n werth bwrw golwg rhwng cloriau’r Gelli a phlymio ymhellach i mewn i'w stori – fe ddewch o hyd i fwy na llyfrau yn unig.  


Mae’r Gelli Gandryll yn fwy na thref yn unig; mae’n gyrchfan i’r chwilfrydig, y creadigol a’r anturus. Boed yn ymweld â Gŵyl y Gelli, fforio drwy’r strydoedd hanesyddol neu bori yn ei siopau llyfrau, mae’r Gelli Gandryll yn cynnig profiad gwirioneddol gofiadwy. Felly dewch i grwydro drwy ei lonydd troellog a darganfod hud a lledrith ei pharadwys lenyddol drosoch chi eich hun.


Gŵyl y Gelli: Dathliad o Syniadau 

Mae enw da byd-eang gan Ŵyl y Gelli fel cynulliad o feddyliau a dathliad o lenyddiaeth, syniadau a diwylliant. Mae awduron, meddylwyr ac artistiaid o bob cornel o’r byd yn cydgyfeirio at y dref fach Gymreig hon i rannu treiddgarwch, cymryd rhan mewn trafodaethau sy’n pryfocio’r meddwl, ac ysbrydoli cynulleidfaoedd â’u creadigrwydd. O sgyrsiau awduron i ddarlleniadau barddoniaeth, trafodaethau panel i berfformiadau cerddorol, mae’r ŵyl yn cynnig casgliad amrywiol o ddigwyddiadau sy’n cyfareddu cynulleidfaoedd â diddordebau o bob math. 


Yr hyn sy’n gwneud Gŵyl y Gelli yn wirioneddol unigryw yw ei lleoliad. Cyfeirir yn annwyl at y Gelli Gandryll fel “Tref y Llyfrau” ac mae’n nefoedd i lyfr-garwyr. Mae siopau llyfrau ar hyd a lled ei strydoedd hudolus ynghyd â chaffis ac orielau sy’n creu awyrgylch cyfareddol a gwahoddgar. Gall ymwelwyr grwydro drwy ddrysfa o drysorau llenyddol y dref a darganfod popeth o gyhoeddiadau cyntaf prin i’r clasuron mwyaf cyfarwydd. 


Ond nid yw Gŵyl y Gelli wedi ei chyfyngu i leoliadau dan do yn unig; mae’n cofleidio prydferthwch naturiol ei hamgylchiadau hefyd. Caiff digwyddiadau eu cynnal mewn lleoliadau awyr agored, gan gynnwys pebyll mawr a llwyfannau awyr agored, fel bod y sawl sy’n dod i’r ŵyl yn gallu mwynhau golygfeydd godidog cefn gwlad Cymru wrth iddynt fwynhau trafodaethau a pherfformiadau bywiog. 





Tref y Llyfrau

Nid cyrchfan gŵyl yn unig yw’r Gelli Gandryll – y mae hefyd yn gyrchfan i’r sawl sy’n caru llyfrau drwy gydol y flwyddyn. Mae yno blethora o siopau llyfrau o’r siop annibynnol hynod i’r emporiwm llenyddol mawr, mae’r dref yn cynnig rhywbeth i bob darllenwr. P’un a ydych chi’n chwilio am rywbeth prin i'w gasglu neu’n pori’n hamddenol am ffefryn i’w ddarllen nesaf, mae’r cyfan gan y Gelli Gandryll. 


Ond mae gymaint yn fwy na llyfrau ar gynnig gan y Gelli Gandryll hefyd. Mae cymuned fywiog o grefftwyr ac entrepreneuriaid gan y dref sydd wedi ei gweddnewid i fod yn ganolfan greadigol ac arloesol. O siopau antîcs i orielau celf, bwtîcs fintij i gaffis arbenigol, fe ddewch o hyd i rywbeth newydd rownd pob cornel. 





Dewch yma’n Llwyglyd 

Boed yn ymddiddori mewn bwydydd neu ar grwydr am eich antur goginiol nesaf neu’n chwilio am bryd blasus i’ch cadw chi i fynd wrth i chi fforio drwy drysorau llenyddol y Gelli Gandryll, byddwch chi’n dod o hyd i ddigon i demtio eich archwaeth yn y dref hudolus hon. Felly dewch yma’n llwglyd a pharatowch i fynd ar daith goginiol sy’n siŵr o roi pleser a boddhad i chi. O gaffis clyd i dai bwyta gourmet mae’r dref fach hon yn ymfalchïo mewn sîn fwyd sy’n llawer yn fwy na’r disgwyl. 


Rhowch ddechrau da i’ch diwrnod gyda brecwast swmpus yn un o gaffis hudolus y Gelli Gandryll, ble y cewch loddesta ar gacennau crwst yn syth o’r ffwrn, coffi crefftus, ac wyau ffres o’r fferm. Efallai bod man bach clyd yng nghornel caffi wrth eich bodd neu ar y llaw arall deras prysur yn yr awyr agored, pa bynnag un, fe ddewch o hyd i ddigon o opsiynau i roi cychwyn ar eich bore mewn steil. 


Beth am fentro allan i un o dai bwyta hyfryd y dref a blasu seigiau bendigedig o gynhwysion lleol. O gawl swmpus a brechdanau i salad creadigol a phlatiau bach, does dim prinder o ddanteithion coginiol i fwydo eich archwaeth am fwyd. 


Wrth iddi nosi, dewch am brofiad ciniawa cofiadwy yn un o dai bwyta cymeradwy’r Gelli Gandryll. O fistro clyd a’i brydau cysur clasurol i rywle sy’n arddangos ciniawa coeth a choginio arloesol, fe ddewch o hyd i ddigon o ddewis sy’n gweddu pob hwyl ac achlysur.


Rhaid peidio ag anghofio am bwdin! Gallwch foddhau eich dant melys wrth ymweld ag un o boptai crefftus y Gelli Gandryll neu ei siopau hufen ia a sawru danteithion cartref a hyfrydwch blasus sy’n codi archwaeth. 


Cofleidio Newid 

Mae taith y Gelli Gandryll o fod yn dref wledig ar y ffin i fod yn fangre ddiwylliannol sy’n ffynnu, yn destament o bŵer ailddyfeisio.  Diolch i weledigaeth pobl fel Richard Booth, sydd wedi urddo’i hun yn “Frenin y Gelli”, mae’r dref wedi cofleidio ei threftadaeth lenyddol a gweddnewid ei hun i fod yn gyrchfan i bobl greadigol ac anturus fel ei gilydd. 


Heddiw, mae’r Gelli Gandryll yn gymuned liwgar sy’n dathlu ei gorffennol wrth edrych tua’r dyfodol hefyd. Mae ei thirnodau hanesyddol fel Castell y Gelli, wedi cael eu hadnewyddu’n ofalus, gan anadlu bywyd newydd i dreftadaeth bensaernïol gyfoethog y dref. Yn y cyfamser, mae ei strydoedd prysur yn llawn egni pobl leol ac ymwelwyr sydd wedi eu huno gan gariad at ddrama ac hangerdd at fforio. 





Fforio yn y Gelli Gandryll 

Dyma ychydig o bethau y gallwch chi eu prynu wrth siopa yn y Gelli Gandryll: berfa, chandeliers, hen fapiau, dodrefn ffug Louis XV, gwrtaith, dillad vintage, LPs y 60au, anifeiliaid wedi eu stwffio, celf (o bob math), ffasiwn sydd mewn vogue, esgidiau, crisialau Oes Newydd, bath tun, ceir tun, ceffyl siglo, sgrepan, nwyddau seramig, beiciau antîc, siacedi Barbour, lafant Cymreig, ac, o ie...llyfrau.  

 

Mae ymweliad â’r Gelli Gandryll yn antur ynddi ei hun. Dechreuwch eich diwrnod ym Marchnad Menyn y Gelli, ble y gallwch bori drwy’r stondinau sy’n gwerthu popeth o nwyddau lleol i grefftau cartref. Yna, archwiliwch waliau hanesyddol Castell y Gelli, sy’n ganolfan gelfyddydau, diwylliant a dysgu bellach. Nesaf, mwynhewch dirlun llenyddol y dref wrth ymweld â’i siopau llyfrau niferus. O siopau annibynnol clyd i’r emporiwm llyfrau mawreddog, does dim prinder o drysorau llenyddol i’w darganfod. Byddwch yn siŵr o alw hebio’r Glôb yn y Gelli, lleoliad hudolus ar gyfer perfformiadau byw a mynegiant creadigol. 


Ar ôl hynny, ewch am dro hamddenol ar hyd glannau’r afon, ble y gallwch drwytho ym mhrydferthwch naturiol Dyffryn Gwy. Ar hyd y daith byddwch yn dod ar draws cerfluniau pren a gemau cudd sy’n cynnig cipolwg o dreftadaeth naturiol gyfoethog y dref. 


I orffen eich dydd, ewch i ymweliad â Chanolfan Crefftau’r Gelli, ble y gallwch grwydro drwy amrywiaeth o siopau ac orielau sy’n arddangos crefftwyr lleol a’u gwaith. O emwaith wedi’i grefftio â llaw i anrhegion unigryw, rydych chi’n siŵr o ddod ar draws cofrodd i gofio am eich amser yn y Gelli Gandryll. 


Comments


bottom of page