Y peth cyntaf a welwch ar eich ffordd mewn i’r dref yw ei lleoliad - yng nghanol bryniau coediog gwyrdd, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, mae’n dref bert. Mae’n gwneud argraff gadarnhaol arnoch ar unwaith, wrth ichi gyrraedd canol y dref. Mae strydoedd canoloesol yn troelli allan o dŵr y cloc trawiadol, sy’n dyddio o’r 19eg ganrif, yn gyfoeth o adeiladau hanesyddol sy’n ymestyn yn ôl dros y canrifoedd. Un o’r ffyrdd hawsaf i deithio trwy amser yw trwy grwydro’r strydoedd hyn.
Er bod hanes y dref yn amlwg iawn, mae’n llawn bwrlwm a phrysurdeb heddiw hefyd. Cynhelir marchnad da byw yma bob wythnos, pan ddaw ffermwyr o’r ardal leol i brynu a gwerthu da byw a dal fyny gyda newyddion yr ardal. Ac os nad yw defaid a buchod o ddiddordeb ichi, mae’r stryd fawr yn llawn orielau, caffis a siopau bwyd unigryw ochr yn ochr â siopau mwy traddodiadol tref farchnad, megis cigyddion, siop nwyddau haearn a thafarndai gwledig deniadol.
Ar y Ffin
Mae Tref-y-clawdd yn enwog oherwydd ei safle ar Glawdd Offa. Ar un adeg roedd y clawdd hwn, o ffosydd a chloddiau sy’n dyddio o’r 8fed ganrif yn ymestyn o ‘fôr i fôr’ o’r gogledd i’r de rhwng Cymru a Lloegr. Cafodd ei adeiladu gan Y Brenin Offa o Fersia fel ffin swyddogol cyntaf er mwyn diogelu ei diroedd; erbyn heddiw mae iddo rôl ddeuol, fel safle archeolegol unigryw a llwybr cerdded enwog (sy’n mesur 177 milltir/285km o hyd).
Gallwch ddysgu am y ddau yng Nghanolfan Clawdd Offa yn y dref, sy’n adrodd hanes creu’r clawdd (tasg enfawr oedd yn golygu defnyddio miloedd o weithwyr), ei ail-ddarganfod a’i ddadeni trwy gyfres o arddangosfeydd hynod ddiddorol.
Os hoffech weld y llwybr a’r clawdd eich hun, croeswch y caeau chwarae wrth y canolfan. Yma fe welwch faen hir sy’n cofnodi agor y llwybr ym 1971 a darn o’r clawdd hynafol lle gallwch grwydro ar ei hyd, sydd mewn cyflwr da (na phoenwch, ni fydd disgwyl ichi gerdded y llwybr cyfan).
Hanes lleol
Mae’n anodd dychmygu gwell ffordd i ddod i adnabod Tref-y-clawdd go iawn, na thrwy ymweld ag Amgueddfa Tref-y-clawdd. Mae’r archif yn seiliedig ar roddion gan drigolion y dref, sy’n golygu ei fod yn gasgliad gwirioneddol eclectig o arddangosfeydd.
Trwy chwilota trwy’r cofnodion, fe welwch ddogfennau cyfreithiol o’r 18fed ganrif sy’n cofnodi gwerthu darnau tir lleol, hen deganau tun, poteli meddyginiaeth Fictoraidd o hen fferyllfa’r dref, offer cerddorol, a ffonau symudol enfawr, yn debyg i frics, o’r 1980au (peth hollol newydd i ymwelwyr iau, sydd wedi arfer â ffonau llawer mwy cyfleus y dyddiau hyn).
Ond y peth gorau oll, nid yw gwydr yn diogelu’r arddangosfeydd hyn. Mae polisi’r amgueddfa (a’r staff gwybodus a chyfeillgar) yn annog ymwelwyr i ryngweithio gyda’r arteffactau. Mae’n debyg i chwilota yn atig cyffredin y dref. Un eithriad nodedig i’r rheolau hyn yw injan dân hynafol yr amgueddfa, sy’n cael ei dynnu â llaw. Ei enw cyfarwydd yw ‘Old Squirter’ ac yn dyddio o 1780, hwn yw un o ddau sy’n goroesi hyd heddiw o offer ymladd tân anghyffredin i’w gweld yn y DU.
Bach a Mawr
Mae rhwydwaith strydoedd troellog Tref-y-clawdd yn haeddu ymweliad, ond mae gwrthgyferbyniad perffaith rhwng dau ohonynt. Y Stryd Lydan yw prif stryd y dref, ac yn gartref i ddewis o siopau, orielau, tafarndai a llefydd bwyta, lle gallwch brynu popeth o offer cerddorol a chig lleol, i flodau ffres a chelf gain.
Yn arwain o’r Stryd Lydan, y mae’r Stryd Fawr, sydd yn fwy cul, a elwir hefyd ‘The Narrows’ (am resymau amlwg). Hwn oedd y prif lwybr ar gyfer cerbydau wrth deithio trwy’r dref, ond bellach fe’i neilltuwyd ar gyfer cerddwyr yn unig. Mae llu o siopau diddorol yn llenwi’r adeiladau o’r 17eg ganrif, ar naill ochr y stryd a’r llall - gan gynnwys nifer fawr sy’n gwerthu teganau a modelau.
Tri mewn un
Mae Eglwys Edward Sant yn sefyll ar ben y bryn, gyda Choedwig Kinsley oddi tano, ar ochr ogleddol (dim gwobrau am hyn) Stryd yr Eglwys. Credir taw hon yw’r unig eglwys trwy Gymru a gysegrwyd i’r Sant yma, mae wedi bod yn destun tri cham datblygu hollol wahanol.
Fe’i sefydlwyd yn wreiddiol yn ystod y canoloesoedd, a chafodd ei ail-adeiladu unwaith yng nghanol y 1700au cyn cael ei ail-adeiladu’n llwyr fwy neu lai, yn ystod cyfnod Victoria. Mae’r mwyafrif o’r hyn sy’n weddill heddiw yn dyddio o gyfnod datblygu diweddaraf yr eglwys, ar wahân i’r tŵr sgwâr sydd â sylfaen o’r 14eg ganrif, ac estyniad uwch a ychwanegwyd yn y 18fed ganrif.