
Ysblenydd
Gwanwyn
Croeso i Bowys, ble mae’r gwanwyn yn llamu i’r llwyfan.
Wrth i'r gaeaf bacio’i fagiau rhewllyd yn gyndyn a dweud ffarwel, mae ein tirwedd yn dihuno mewn tapestri bywiog o liwiau —meddyliwch am gaeau o gennin Pedr yn dawnsio yn yr awel, blodau’r ceirios yn peintio’r coed yn binc golau, a’r dolydd gwyrddion wedi'u hysgeintio gan betalau blodau gwyllt.
Croeso i Bowys, ble mae’r gwanwyn yn llamu i’r llwyfan.
Wrth i'r gaeaf bacio’i fagiau rhewllyd yn gyndyn a dweud ffarwel, mae ein tirwedd yn dihuno mewn tapestri bywiog o liwiau —meddyliwch am gaeau o gennin Pedr yn dawnsio yn yr awel, blodau’r ceirios yn peintio’r coed yn binc golau, a’r dolydd gwyrddion wedi'u hysgeintio gan betalau blodau gwyllt.
Dyma dymor yr adnewyddu, pan fydd Powys yn dadorchuddio ei hochr fwyaf hudolus, lle mae pob fista yn addo syndod newydd a phob eiliad yn teimlo fel cymal yn symffoni natur. Felly, sychwch eich esgidiau glaw, cofleidiwch bersawr y gerddi blodeuog, a gadewch i Bowys ganu cân y gwanwyn i chi.
Deffroad Natur
Cerddwch lwybrau Bannau Brycheiniog, lle mae'r bryniau'n fyw gyda gwyrddni bywiog y tyfiant newydd a’r aer yn llawn arogl pêr y blodau. Archwiliwch ardd ac arboretum lle mae blodau’r rhododendron yn ffrwydro wrth flodeuo, neu grwydro ar hyd afonydd lle mae clychau'r gog yn carpedu llawr y goedwig fel stori dylwyth teg yn dod yn fyw.
Gwyliau a Dathliadau
Mae mwy i’r gwanwyn ym Mhowys na’r blodeuo’n unig—mae'n dymor o ddathlu! O sioeau amaethyddol yn Llanfair-ym-Muallt i wyliau bwyd yn Llandrindod, mae llu o ddigwyddiadau i ymroi iddynt. Samplwch gawsiau lleol, blasu cynnyrch wedi'i gynaeafu'n ffres, ac ymunwch yn nathliadau traddodiadol Calan Mai sy'n dyddio’n ôl i'r oes o’r blaen.
Bywyd Gwyllt a Chariad at Grwydro
Cadwch eich llygaid yn agored am arwyddion o fywyd gwyllt sy'n deffro o drwmgwsg y gaeaf. Sylwch ar yr ŵyn yn prancio yn y caeau, gwrandewch ar gân nodweddiadol y gog ar ôl iddi ddychwelyd o'i mudo, a gwyliwch y gloÿnnod byw yn dychlamu rhwng y blodau. Mae'r gwanwyn yn amser gwych i wylio adar hefyd, gyda rhywogaethau mudol yn mynd yn ôl i nythu yng gynefinoedd amrywiol y rhanbarth.
Encilion Clyd a Hudoliaeth Ddiwylliannol
Ar ôl diwrnod o anturiaethau awyr agored, dadebrwch mewn tafarn glyd o flaen tanllwyth o dân gyda chwrw lleol. Sgwrsiwch gyda’r bobl leol gyfeillgar sy'n awyddus i rannu straeon am hanes a llên gwerin cyfoethog Powys. Ymwedwch ag amgueddfeydd ac orielau sy'n arddangos treftadaeth artistig y rhanbarth a fforiwch gestyll canrifoedd oed sy'n sefyll fel gwylwyr mud dros y dirwedd.
Cynllunio Eich Dihangfa Wanwynol
P'un a ydych yn cael eich denu gan y reiat o liwiau natur, blasau’r coginio lleol, neu dawelwch fforio’r safleoedd hanesyddol, mae Powys yn cynnig profiad gwanwynol bythgofiadwy.
Paciwch eich esgidiau cerdded, eich camera i gael cipio harddwch natur, a'ch chwilfrydedd ar gyfer darganfod gemau cudd. Dewch i gofleidio hudoliaeth Powys yn y gwanwyn—tymor lle mae pob dydd yn dod â darganfyddiadau newydd, ac mae pob fista yn dyst i ryfeddodau cefn gwlad Cymru.