3 days in the Cambrian Mountains
- Discover Powys
- Apr 23
- 4 min read
Mynyddoedd Cambria yw cyfrinach orau Cymru, maes chwarae garw, gwyllt lle mae'r golygfeydd yn adrodd straeon, a chredwch fi, mae ganddynt lawer i’w hadrodd.
Mae’r creigiau hynafol mor hen ag amser ac mae’r cymoedd wedi'u cerfio gan rewlifoedd enfawr. Byddwch chi’n teimlo’n fach wedi’ch amgylchynu gan y cewri hyn. Yma, mae natur ar ei phuraf, heb unrhyw lygredd.
P'un a ydych yn cerdded, seiclo neu’n syllu’n geg-agored ar y golygfeydd ysgubol, mae Mynyddoedd Cambria yn cynnig heddwch, tawelwch, a sawl barcud coch fry uwchben. Ac os oes angen seibiant arnoch o'r holl dawelwch hwnnw, galwch heibio i dref brysur gerllaw am beint neu bryd o fwyd godidog; wedi'r cyfan, bydd angen tanwydd arnoch ar gyfer eich antur!
Diwrnod 1: Calon Mynyddoedd Cambria
Bore
Dechreuwch ar eich antur yn Llanidloes, tref farchnad hyfryd ac unigryw. Ewch i Neuadd hanesyddol yr Hen Farchnad, un o'r adeiladau ffrâm bren hynaf yng Nghymru, i fwynhau sîn gelf a chrefft fywiog y dref.
Dylech geisio mynd ar hyd Llwybr Hafren am daith gerdded hamddenol ar lan yr afon. Llanidloes yw'r dref gyntaf ar Afon Hafren, felly dyma'r lle perffaith i archwilio dechreuadau afon hiraf Prydain.

Cinio
Mynnwch ginio yn un o gaffis neu dafarndai clyd Llanidloes, lle gallwch samplo cynhwysion lleol a seigiau traddodiadol Cymru.
Prynhawn
Ar ôl cinio, ymlwybrwch tuag at Bumlumon Fawr, y copa uchaf ym Mynyddoedd Cambria a ffynhonnell chwe afon fawr, gan gynnwys Afon Hafren a Gwy. Darganfyddwch chwedlau diddorol y tair chwaer a'u teithiau epig i'r môr.
Nesaf, mwynhewch harddwch naturiol Coedwig Hafren. Cerddwch drwy ei llwybrau hudolus i ddatgelu rhaeadrau trawiadol a thirweddau hynafol. P'un a ydych chi'n hen law ar gerdded neu’n grwydrwr achlysurol, mae'r goedwig yn cynnig llwybrau sy'n darparu ar gyfer pob lefel o antur.
Gyda’r nos
Gyrrwch i Raeadr Gwy, y dref gyntaf ar Afon Gwy, ar gyfer eich arhosiad gyda'r nos. Mwynhewch lond plataid o ginio yn un o dafarndai neu fwytai traddodiadol Rhaeadr Gwy, y mae llawer ohonynt yn gweini bwyd Cymreig gwobrwyedig.
Diwrnod 2: Cwm Elan – Tir Llynnoedd Cymru
Bore
Dechreuwch eich diwrnod drwy grwydro o gwmpas Ystâd Cwm Elan, a elwir yn aml yn "Dir Llynnoedd Cymru”. Mae'r ystâd enfawr hon yn gartref i gyfres o gronfeydd dŵr ac argaeau Fictoraidd, wedi'u gosod ymhlith tirweddau dramatig.
Dechreuwch gydag ymweliad â Chanolfan Ymwelwyr Cwm Elan, lle gallwch ddysgu am y ryfeddodau peirianneg a drawsnewidiodd yr ardal hon yn ffynhonnell ddŵr hanfodol i Birmingham.
Ar ôl hynny, gyrrwch o amgylch y cronfeydd dŵr i weld y golygfeydd neu gallwch fwynhau un o'r llu o lwybrau cerdded neu seiclo sydd ar hyd a lled yr ardal.
Cinio
Mwynhewch bicnic i ginio wrth edrych dros un o'r cronfeydd dŵr prydferth, neu ewch yn ôl i Raeadr Gwy am bryd o fwyd yn un o lefydd bwyta lleol y dref.

Prynhawn
Ar ôl cinio, archwiliwch Fywyd Gwyllt Mynyddoedd Cambria. Mae Rhaeadr Gwy yn fan cychwyn gwych ar gyfer adnabod rhywogaethau eiconig fel y barcud coch. Gallwch ymweld â Gorsaf Fwydo’r Barcud Coch gerllaw yn Fferm Gigrin a syllu ar yr adar gosgeiddig hyn yn agos wrth iddynt blymio i lawr am eu porthiant dyddiol.
Fel arall, ewch ar daith gerdded neu seiclo ar hyd Llwybr y Mynaich, llwybr hynafol sy'n torri drwy rostir a chymoedd Mynyddoedd Cambria, gan gynnig golygfeydd panoramig ac ymdeimlad o hanes dwfn.
Gyda’r nos
Ewch i Lanwrtyd, sy'n adnabyddus am ei digwyddiadau chwaraeon hynod fel snorclo dan gorsydd a chystadleuaeth marathon Dyn vs. Ceffylau. Arhoswch dros nos yn un o dafarndai croesawgar neu lety gwely a brecwast y dref, a mwynhewch bryd o fwyd gyda'r nos mewn bwyty gwobrwyedig.
Diwrnod 3: Hanes a Ffosiliau ym Mynyddoedd Cambria
Bore
Dechreuwch eich diwrnod yn Llanfair-ym-Muallt, cartref y Sioe Frenhinol, un o'r digwyddiadau amaethyddol mwyaf yn Ewrop. Os ydych chi'n ymweld yn yr haf, mae'r sioe brysur hon yn brofiad gwych. Os na, mae'n werth crwydro’r dref o hyd am ei swyn hanesyddol a'i llwybrau cerdded cyfagos.
O Lanfair-ym-Muallt, ewch tuag at Lwybr Ffosiliau Cambria, lle gallwch archwilio un o safleoedd ffosil trilobeit gorau'r byd. Mae'r ardal rhwng Llanfair-ym-Muallt a Llandrindod yn enwog yn rhyngwladol am ei darganfyddiadau cynhanesyddol, ac yn gyrchfan hanfodol i’r sawl sy’n frwd dros ffosiliau.
Cinio
Mwynhewch ginio yn Llandrindod, tref sba Fictoraidd gyda phensaernïaeth elfennol a pharciau hardd. Ewch am dro o amgylch Llyn Llandrindod ac ymlacio yn un o gaffis hyfryd y dref.

Prynhawn
Ar ôl cinio, ewch i Amgueddfa Sir Faesyfed yn Llandrindod, sy'n arddangos hanes cyfoethog y rhanbarth, o'i darddiad cynhanesyddol i'w rôl fel cyrchfan sba ffasiynol.
Gyda’r nos
Treuliwch y noson yn Llandrindod neu ewch yn ôl i Lanwrtyd neu Lanfair-ym-Muallt ar gyfer eich noson olaf. Ewch am ginio lleol mewn tafarn cefn gwlad a myfyrio ar eich anturiaethau drwy'r rhanbarth hardd a garw hwn.
Gweithgareddau Dewisol:
Ymwelwch â chartref Tywysog Cymru yn Llwynywermod, sydd yng nghesail Mynyddoedd Cambria, neu arhoswch yn un o fythynnod hyfryd yr ystâd.
Mae Menter Mynyddoedd Cambria yn cefnogi cymunedau lleol a thwristiaeth gynaliadwy yn yr ardal hon, felly mae eich ymweliad hefyd yn cyfrannu at ymdrechion cadwraeth.
Archwiliwch Lwybrau'r Enfys ar gyfer marchogaeth drwy Goedwig Dyfnant, ychydig i'r dwyrain o Fynyddoedd Cambria.
Ewch ar daith drwy’r golygfeydd ar hyd Pas Abergwesyn, un o'r ffyrdd mwyaf dramatig ac anghysbell yng Nghymru. Dyma gyfle i weld golygfeydd dros rostir a chymoedd a fydd yn eich gadael yn geg-agored.
Comentários