top of page

3 Days in Vyrnwy & the Berwyns

  • Writer: Discover Powys
    Discover Powys
  • Apr 23
  • 3 min read

Mae ymweld â Llyn Efyrnwy a Mynyddoedd y Berwyn fel camu i fyd cuddiedig lle mae natur yn hawlio’r sylw i gyd.  Gyda rhostiroedd, mynyddoedd garw, a chymoedd afonydd sy'n ymddangos fel pe baent yn ymestyn ymlaen am byth, dyma’r lle perffaith i’r sawl sy’n caru antur— a hynny heb y torfeydd. P'un a ydych am weld hebogiaid tramor yn hedfan uwchben neu ymlwybro drwy bentrefi cysglyd sy'n swatio ger bwrlwm yr afonydd, dyma heddwch a thawelwch heb eu hail. A pheidiwch ag anghofio Llyn Efyrnwy ei hun, rhyfeddod o wneuthuriad dyn wedi'i amgylchynu gan warchodfa natur 24,000 erw sy'n berffaith ar gyfer gwylwyr adar, seiclwyr, ac unrhyw un sy'n mwynhau awyr iach a golygfeydd cwbl odidog. Dyma'r math o le lle fyddwch yn colli trywydd amser – a hynny o’ch gwirfodd.


Diwrnod 1: Cyrraedd a Chrwydro o gwmpas Llyn Efyrnwy



Bore 

Cyrhaeddwch bentref Llanwddyn, sy'n gartref i Ganolfan Ymwelwyr yr RSPB. Dechreuwch eich diwrnod gydag ymweliad â'r ganolfan i ddysgu am y bywyd gwyllt sy'n byw yn y warchodfa natur 24,000 erw o amgylch Llyn Efyrnwy.  

Llwybr Cerfluniau RSPB: Ewch am dro hamddenol ar hyd y llwybr unigryw hwn sy'n cyfuno celfyddyd â natur. Sylwch ar wahanol gerfluniau wrth i chi gerdded drwy goetiroedd godidog.


Cinio

Mwynhewch ginio mewn caffi lleol yn Llanwddyn, lle gallwch roi cynnig ar brydau lleol ac efallai siopa am grefftau lleol.


Prynhawn  

Llogwch feic neu gerdded y llwybr cylchol 11 milltir o amgylch Llyn Efyrnwy. Ar hyd y ffordd, mwynhewch olygfeydd syfrdanol, edmygu'r argae Fictoraidd, a edrychwch allan am hebogiaid tramor a bywyd gwyllt arall.  

I'r rhai sydd â diddordeb mewn chwaraeon dŵr, gallwch hefyd rentu canŵ neu gaiac i grwydro’r llyn o'r dŵr.


Gyda’r nos

Ewch i gael pryd mewn bwyty sy'n edrych dros Lyn Efyrnwy a mwynhau'r lleoliad heddychlon wrth i'r haul fachlud. Arhoswch dros nos yn un o'r lletyau clyd, yn y Gwesty neu'r tai llety cyfagos.



Diwrnod 2: Natur ac Antur ym Mynyddoedd y Berwyn


Bore 

Ar ôl brecwast, ewch tuag at Fynydd y Berwyn. Dechreuwch wrth fynd am dro i Gadair Berwyn, y copa uchaf yng Nghymru y tu allan i barc cenedlaethol (830m). Mae'r dro heriol hwn yn eich gwobrwyo gyda golygfeydd panoramig trawiadol o rostiroedd, dyffrynnoedd a'r bryniau pell.


Cinio

Paciwch bicnic neu fwynhau cinio mewn tafarn gyfagos yn un o'r pentrefi prydferth ar hyd y ffordd, fel Llanfyllin.


Prynhawn  

Crwydrwch o gwmpas Llanfyllin ac ymweld â'r Wyrcws Fictoraidd. Dysgwch am hanes yr adeilad unigryw hwn a'i drawsnewidiad yn ganolfan gymunedol a chelfyddydol. Os ydych chi'n ymweld yn ystod Gŵyl Gerdd Glasurol Llanfyllin**, gallwch weld perfformiad a phrofi’r diwylliant cerddorol o fri.  

Fel arall, ewch am reid ymlaciol wrth farchogaeth ceffyl drwy Lwybrau Enfys Coedwig Dyfnant, gyda'i thirweddau hardd a'i hamgylchedd heddychlon.


Gyda’r nos  

Dychwelwch i Lyn Efyrnwy am noson dawel, ac efallai mwynhau ychydig o fwyd lleol mewn tafarn gyfagos neu ymlacio wrth danllwyth o dân yn eich llety.



Diwrnod 3: Pentrefi Golygfaol ac Antur Stêm-Bwerus


Bore 

Dechreuwch eich diwrnod gyda thaith olygfaol gan yrru drwy olygfeydd ar hyd afonydd a chymoedd afonydd Efyrnwy, Tanat, a Banw, gan fynd heibio pentrefi bach, prydferth sy’n closio at y bryniau. Fe ddewch o hyd i ddigon o fannau perffaith i fynd am dro boreol neu am ffotograffiaeth natur.  

Ewch tuag at Lanfair Caereinion, pentref hyfryd ym mhen gorllewinol Rheilffordd y Trallwng a Llanfair.


Cinio  

Ar ôl crwydro’r pentref, ewch am ginio i Lanfair Caereinion. Rhowch gynnig ar brydau Cymreig traddodiadol mewn caffi neu dafarn leol.


Prynhawn 

Neidiwch ar drên Rheilffordd Y Trallwng a Llanfair ar gyfer taith hyfryd sy'n cael ei phweru gan ager drwy fryniau mwyn a chymoedd y rhanbarth. Dyma ffordd ymlaciol o fwynhau golygfeydd trawiadol Mynydd y Berwyn.  Sicrhewch fod eich camera yn barod ar gyfer y golygfeydd nodweddiadol hynny o gefn gwlad Cymru.



Gyda’r nos

Mwynhewch eich swper olaf mewn bwyty lleol cyn mynd adref neu arhoswch noson arall yn yr ardal.


Gweithgareddau Dewisol:

- Gwylio adar yng Ngwarchodfa Natur Llyn Coed y Ddinas.

- Crwydro Ffordd Glyndŵr 135 milltir o hyd

Llwybrau Cenedlaethol am opsiynau cerdded ychwanegol.

- Ymweld â Rhaeadr Y Pistyll gerllaw, un o'r rhaeadrau talaf yng Nghymru.

 
 
 

Comments


Screenshot 2023-10-05 at 16.03.52.png

Send us a message
and we’ll get back to you shortly.

Thanks for submitting!

Rhannwch eich Taith gyda ni tagiwch ni @MidWalesMyWay 

  • Facebook
  • Instagram

Datganiad Hygyrchedd

© 2023 Canolbarth Cymru Fy Ffordd

Logos Powys a Llywodraeth Cymru
bottom of page