top of page

4 diwrnod ym Mannau Brycheiniog

  • Writer: Discover Powys
    Discover Powys
  • Apr 23
  • 5 min read

Mae ymweld â Bannau Brycheiniog fel camu i gerdyn post.

Caiff yr anturiaethwr mewnol sydd ynoch chi gyfle i ddringo Pen-y-Fan, y copa uchaf yn ne Prydain.

Yma, eich pryder mwyaf yw penderfynu rhwng cerdded, canŵio, neu syllu’n stond ar olygfeydd godidog. Gydag awyr dywyll mor glir, byddwch yn camgymryd y llwybr llaethog am osodiad celf, a’r tafarndai lleol yn gweini prydau bwyd sy’n ddigon swmpus i fwydo’r anturiaethwr mwyaf llwglyd, dyma ffordd natur o ddangos ei hun—a phwy ydym ni i ddadlau?


Diwrnod 1: Dwyrain Bannau Brycheiniog –  Mynydd Du a'r Gelli Gandryll


Bore

Dechreuwch eich taith yn nhref lyfrau hyfryd Y Gelli Gandryll, sy'n enwog am ei siopau llyfrau niferus a Gŵyl Lenyddiaeth y Gelli sy'n enwog yn fyd-eang. Ewch am dro hamddenol drwy'r dref, gan ymweld â siopau llyfrau annibynnol, orielau a chaffis gwych.  


Gall y rhai sy’n ymddiddori mewn hanes edrych o gwmpas Castell y Gelli, caer Normanaidd sydd wedi ei hadfer yn ddiweddar. Mae'n cynnig golygfeydd gwych dros gefn gwlad cyfagos.


Cinio

Ewch am bryd o fwyd hyfryd yn un o fwytai neu gaffis y Gelli Gandryll, lle gallwch brofi'r gorau o gynnyrch ffres, lleol. Boed yn bryd sy’n llond plataid o goginio cartref neu’n greadigaeth o goginio cain, mae'r bwytai hyn yn cynnig amrywiaeth o opsiynau blasus wedi'u gwneud gyda chynhwysion sy'n dathlu blasau cyfoethog y rhanbarth. O fistros clyd sy'n cael eu rhedeg gan deuluoedd i fwytai cain sy'n canolbwyntio ar arbenigedd tymhorol, daw pob bwyty â'i gyffyrddiad unigryw ei hun i'r bwrdd, gan wneud eich profiad bwyta yn un cofiadwy a boddhaol.


Prynhawn

Ar ôl cinio, anelwch am Fynydd Du gerllaw a mynd am dro braf yn yr awyr agored. Mae'r bryniau mwyn hyn yn berffaith ar gyfer cerdded ac maen nhw’n cynnig golygfeydd godidog ar draws Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.  

 

Rhowch gynnig ar Daith Gerdded Twmpa, llwybr cylchol 7 milltir poblogaidd sy'n mynd â chi hyd at un o gopaon uchaf Mynydd Du, gan gynnig golygfeydd panoramig syfrdanol.


Gyda’r Nos

Setlwch am y noson yn Nhalgarth, tref farchnad brysur gerllaw. 

Ymwelwch â Melin Talgarth, melin ddŵr wedi'i hadfer sy'n parhau i gynhyrchu blawd, a mwynhau pryd hamddenol gyda'r nos yn un o'r tafarndai neu mewn gwely a brecwast lleol.


Diwrnod 2: Y Bannau Canolog – Pen-y-Fan a Thu Hwnt


Bore 


Codwch yn gynnar i fynd am dro gyda’r wawr i fyny Pen-y-Fan, y mynydd uchaf yn ne Prydain, a dechrau eich diwrnod ag antur syfrdanol. 

Mae meysydd parcio Storey Arms a Phont ar Daf yn fannau cychwyn poblogaidd ar gyfer y daith gerdded eiconig hon. Byddwch yn siŵr o wisgo esgidiau priodol a gwisgo haenau i aros yn gyfforddus wrth i chi ddringo. Mae'r esgyniad yn heriol ond yn werth chweil, gan gynnig golygfeydd panoramig trawiadol ar draws Bannau Brycheiniog, yn enwedig ar ddiwrnod clir. 

Gyda'r haul yn codi dros y copaon, byddwch yn profi dechrau gwirioneddol ysblennydd ac ysgogol i’ch diwrnod. 


Os ydych chi'n chwilio am rywbeth llai caled yn gorfforol, gallwch fwynhau taith gerdded o amgylch Llyn Cwm Llwch, llyn rhewlifol hardd wrth droed Pen-y-Fan.



Cinio

Ar ôl bod am dro, ewch i mewn i dref Aberhonddu am ginio haeddiannol. Mae Aberhonddu'n adnabyddus am ei swyn hanesyddol, gyda digon o dafarndai, bwytai a chaffis i ddewis ohonynt.


Prynhawn

Ewch i grwydro o gwmpas cynigion diwylliannol Aberhonddu, fel Eglwys Gadeiriol Aberhonddu ac Amgueddfa Gatrodol y Cymry Brenhinol, sy'n rhoi cipolwg diddorol iawn ar hanes milwrol y rhanbarth.  

Os ydych chi'n ymweld ym mis Awst, peidiwch â cholli Gŵyl Jazz enwog Aberhonddu, sy'n dod â cherddorion o'r radd flaenaf i'r dref Gymreig fach ond bywiog hon.


Gyda’r nos

Ar ôl diwrnod o grwydro, mwynhewch ginio yn Aberhonddu cyn mynd allan i brofi statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol y Parc Cenedlaethol. Mae'r diffyg llygredd golau yn yr ardal yn ei wneud yn un o'r lleoedd gorau i syllu ar sêr yn y DU. Ewch i Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol i ddysgu rhagor am y sêr y byddwch yn  eu gweld yn awyr y nos.



Diwrnod 3: Gorllewin Bannau Brycheiniog – Fforest Fawr a Dan-yr-Ogof


Bore

Treuliwch eich bore yn archwilio tir hela brenhinol hynafol y Fforest Fawr, tirwedd a gydnabyddir fel Geoparc Ewropeaidd am ei ffurfiant daearegol eithriadol.  


Am rywbeth gwirioneddol gofiadwy, ystyriwch Ogofâu Dan-yr-Ogof, un o'r systemau ogof gorau yn Ewrop. Archwiliwch y gyfres o ogofâu ac afonydd tanddaearol neu edrychwch ar y Ganolfan Ogofâu Genedlaethol gyfagos gyda'i pharc deinosor a'i fferm.


Cinio 

Mwynhewch ginio yng Nghastell Craig-y-Nos, cyn-gartref i'r gantores opera Adelina Patti, sydd bellach yn westy â hanes cyfoethog. Mae’n llecyn perffaith i fwynhau pryd o fwyd gyda golygfeydd o gefn gwlad cyfagos.


Prynhawn

Ar ôl cinio, ewch ar daith drwy olygfeydd y Bannau gorllewinol i dref Ystradgynlais. Mae gan yr hen dref haearn hon hanes diwydiannol cyfoethog ac mae'n cynnig cyfleoedd gwych i ddysgu am dreftadaeth yr ardal.  


Am ragor o antur awyr agored, stopiwch ger Bro’r Sgydau, lle gallwch gerdded ar hyd Taith Gerdded y Pedwar Rhaeadr a gweld rhai o'r rhaeadrau mwyaf trawiadol ac enwog yng Nghymru.


Gyda’r nos

Diweddwch eich diwrnod yng Nghrug Hywel, tref hardd yng nghesail Dyffryn Wysg. Arhoswch dros nos yn un o'r llefydd gwely a brecwast clyd, ac os ydych yn ymweld ym mis Awst, efallai y byddwch yn ddigon lwcus i gael tocynnau i Ŵyl y Dyn Gwyrdd, sy'n dod ag actaau cerddoriaeth ryngwladol i gefn gwlad hardd Cymru.



Diwrnod 4: Antur ac Ymlacio ym Mannau Brycheiniog


Bore

Dechreuwch eich diwrnod drwy farchogaeth ceffyl drwy dirwedd syfrdanol Bannau Brycheiniog. Mae nifer o stablau lleol yn cynnig treciau tywys, a gallwch fwynhau taith heddychlon drwy'r mynyddoedd, gan fwynhau’r awyr iach a'r golygfeydd panoramig.


Cinio 

Mwynhewch ginio mewn tafarn neu ystafell de wledig yn un o bentrefi bach Bannau Brycheiniog. Mae'r ardal yn adnabyddus am giniawa o’r fferm i'r bwrdd, a byddwch yn dod o hyd i ddigon o opsiynau sy'n cynnwys cynnyrch lleol.




Prynhawn

Gorffennwch eich taith gydag ymweliad â Thal-y-bont ar Wysg am daith gerdded hamddenol ar hyd Camlas Mynwy ac Aberhonddu. Mae'r ardal yn berffaith i'r rhai sy'n chwilio am dro mwy hamddenol i ddod â'u hymweliad i ben.  

Os ydych chi'n teimlo'n anturus, llogwch ganŵ neu gaiac a threulio peth amser yn padlo ar hyd y gamlas.


Gyda’r nos

Ymlaciwch a dadflino mewn tafarn neu fwyty lleol, gan fwynhau eich pryd olaf yn amgylchedd heddychlon Bannau Brycheiniog.



Gweithgareddau Dewisol:


Ogofa: Rhowch gynnig ar ogofa yn un o'r systemau ogofâu tanddaearol niferus, megis ogof Porth yr Ogof, sy'n adnabyddus am ei afon sy'n llifo drwy'r ogof.


Paragleidio: I’r sawl sydd am gael gwefr,  mae paragleidio yn ffordd gyffrous o gael gweld y Bannau o’r awyr. 


Am dro yn Hay Bluff: Ewch am dro i fyny Hay Bluff i weld machlud  bythgofiadwy dros Fynydd Du.


Fforio’r Geoparc: Ar gyfer rhai sy'n frwdfrydig am ddaeareg, treuliwch fwy o amser yn archwilio ffurfiant creigiau unigryw Geoparc y Fforest Fawr

 
 
 

Comentarios


Screenshot 2023-10-05 at 16.03.52.png

Send us a message
and we’ll get back to you shortly.

Thanks for submitting!

Rhannwch eich Taith gyda ni tagiwch ni @MidWalesMyWay 

  • Facebook
  • Instagram

Datganiad Hygyrchedd

© 2023 Canolbarth Cymru Fy Ffordd

Logos Powys a Llywodraeth Cymru
bottom of page