Anturiaethau’r Pasg: Parchu, Diogelu, a Mwynhau ein Cefn Gwlad Odidog
- Discover Powys
- Apr 14
- 3 min read
Gyda gwyliau’r Pasg ar y gorwel, a’r dyddiau’n ymestyn, does dim gwell amser i
ddarganfod tirweddau trawiadol Powys—o fryniau eang a dyffrynnoedd i barciau
heddychlon a mannau agored gwyllt. Os taw diwrnod allan i’r teulu sydd gennych mewn golwg, penwythnos o gerdded, neu daith feicio, estynnir gwahoddiad ichi ddarganfod yr arlwy sydd ar gael ar draws ein rhanbarth ni.
Dyma ychydig o ganllawiau i fanteisio i’r eithaf ar eich amser yn yr awyr agored godidog dros y gwanwyn eleni:

Parch
Gwagle cyffredin yw Powys—mae’n gartref i gymunedau lleol, ffermwyr a chyd-
anturiaethwyr.
Byddwch garedig, rhannwch y gwagle, a chofiwch ddweud helo wrth bobl eraill y dewch ar
eu traws.
Peidiwch â rhwystro gatiau neu dramwyfeydd—meddyliwch cyn parcio.
Cadwch at y llwybrau troed a llwybrau gydag arwyddion—cofiwch barchu arwyddion a
chanllawiau lleol.
Ffermio, Bywyd Gwyllt a Da Byw
Mae cefn gwlad yn llawn bywyd—gofynnwn ichi ein helpu ei gadw felly.
Cofiwch roi digon o le i anifeiliaid, a pheidiwch â’u bwydo neu eu haflonyddu.
Cadwch eich ci ar denyn yn ymyl da byw, ac yn ystod tymor nythu’r adar.
Cofiwch gau gatiau ar eich ôl – neu gadewch nhw yn yr un cyflwr.
Teithio a Pharcio
Mae cyrraedd ein rhanbarth yn rhan o’r antur—gadewch inni wneud hynny mewn ffordd
ddiogel a gofalgar.
Gyrrwch yn araf ac yn ofalus ar ffyrdd gwledig.
Defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus lle gallwch (cymerwch gip ar Traveline Cymru ar
gyfer manylion).
Cofiwch adael lle i gerbydau brys wrth barcio.

Perchnogion Cŵn—‘Dan ni’n eu hoffi hefyd!
Estynnir croeso i gŵn—ond rhaid ichi gadw rheolaeth arnynt.
Cadwch eich ci ar denyn neu yn eich golwg.
Cofiwch lanhau ar eu hôl—defnyddiwch fag, ei roi mewn bin, neu ewch ag ef adref.
Gwyliwch allan am arwyddion ynghylch cyfyngiadau tymhorol neu barhaol.
Diogelu’r Amgylchedd
Trysor naturiol yw Powys—gadewch inni ei gadw felly.
Ewch â’ch sbwriel adref gyda chi. Ni ddylech adael unrhyw olion o’ch ymweliad.
Caniateir Barbeciw dim ond mewn llefydd dynodedig. Ni chaniateir tannau agored.
Cofiwch beidio difrodi coed, planhigion neu nodweddion hanesyddol os gwelwch yn dda.

Cofiwch Flaengynllunio, a Chadwch yn Ddiogel
Gydag ychydig o baratoi ymlaen llaw, mae’r anturiaethau’n well.
Cofiwch wirio rhagolygon y tywydd a’ch darpar lwybr cyn cychwyn ar eich taith.
Cofiwch wisgo’n addas ar gyfer y tymor—mae haenau dillad, dillad diddos ac esgidiau cadarn yn hanfodol.
Cofiwch adael i rywun arall wybod lle rydych chi’n bwriadu mynd, yn enwedig os byddwch mewn ardal ddiarffordd.
Mwynhewch eich Ymweliad
Mwynhewch y golygfeydd, yr awyr iach, a chreu llu o atgofion.
Byddwch yn barchus.
Byddwch yn gyfrifol.
A chofiwch adael yr ardal mewn cyflwr gwell na’r adeg wnaethoch chi gyrraedd.
Dros y Pasg eleni, os byddwch yn mwynhau harddwch gwyllt Cronfeydd dŵr Cwm Elan, neu’n cerdded rhan o Lwybr enwog Clawdd Offa, neu’n beicio o gwmpas glannau heddychlon Llyn Efyrnwy, mae Powys yn cynnig gwledd o anturiaethau a heddwch.
Ond beth am fentro tu hwnt i’r llwybrau cyfarwydd?
Gallwch brofi tawelwch hudol Llyn Clywedog, gyda’i argae trawiadol a safleoedd nythu gweilch y pysgod. Neu gallwch ddilyn y ffordd ddeniadol sydd ychydig yn dawelach i gronfa ddŵr Craig Goch, y gronfa ym “mhen uchaf” Cwm Elan —sy’n cynnig golygfeydd bendigedig adeg yr awr aur.
Gallwch grwydro trwy ddolydd Gwarchodfa Natur Gilfach, a’i gwledd o flodau, neu wylio’r barcutiaid yn esgyn uwchben trefi Llanidloes a Rhaeadr Gwy, neu fentro i fwynhau hud tawel Trefaldwyn, a gweddillion y castell, a sgwâr y farchnad bendigedig.
Dewis arall fyddai dringo Cadair Berwyn i fwynhau’r golygfeydd panoramig dros
fynyddoedd y Berwyn, neu deithio i Fynydd Breidden a Philer Rodney ar gyfer taith
gerdded sy’n addas i’r teulu, lle ceir golygfeydd gwych dros dir y gororau.
Ble bynnag yr ewch dros y Pasg eleni, boed ar eich traed, olwynion neu ar y dŵr —
byddwch yn sicr o gael croeso gan Bowys gyda’r holl awyr agored, llwybrau troellog, a mannau tawel i’r enaid gael heddwch.
Gadwch inni gydweithio er mwyn parchu, diogelu a mwynhau’r dirwedd ryfeddol hon—er mwyn sicrhau ei fod yn lle gwych i bobl fyw, ymweld a dychwelyd iddo dro ar ôl tro.
Комментарии