top of page
Search

Byddwch yn rhan o’r cyffro gyda seiclo a mwy: Taith Prydain i Ferched 2024 ym Mhowys

Paratowch i gychwyn ar daith hynod gyffrous wrth i’r cyffro ddechrau codi yn Nhrallwng, sef y dref lle y bydd Taith Prydain i Ferched yn dechrau yn ystod haf 2024.

Yn unol â’i hanes fel lleoliad canolog, bydd y Trallwng unwaith eto yn dwyn y sylw fel man cychwyn y ras urddasol hon, a hynny ar ôl chwarae rôl gyffrous fel y llinell derfyn ar gyfer rhan pedwar y Daith i Ferched yn 2022. Yma, gwnaeth Grace Brown o Awstralia (FDJ Nouvelle Aquitaine Futuroscope) rasio dros y llinell derfyn mewn sbrint dramatig i ennill y ras.

Gan osod y llwyfan ar gyfer her epig, bydd seiclwyr yn seiclo tua’r gogledd a thref arfordirol hardd Llandudno, gan ddechrau ar daith sy’n argoeli i fod yn un llafurus ond hudolus.


Bwyd a’r Bwrlwm

Cyn i chi fynd ati i gefnogi’r seiclwyr, beth am gael pryd o fwyd ffein neu ddiod flasus yn un o fannau gorau Powys? Dechreuwch eich diwrnod gyda brecwast Cymreig swmpus mewn caffi clyd yn Y Trallwng, sef tref farchnad hanesyddol ym Mhowys.

Wrth i’r cyffro gynyddu, ewch am dro hamddenol drwy strydoedd swynol Powys, lle mae ystafelloedd te a phoptai artisanal yn cynnig danteithion deniadol. Dewch i flasu bwyd Cymreig traddodiadol, cawliau sylweddol, a chawsiau Cymreig arobryn o ffermydd lleol. Gorffennwch eich pryd gyda pheint o gwrw wedi’i fragu’n lleol neu wydraid o seidr Cymreig, sy’n cyd-fynd yn berffaith â blasau bywiog Powys.


Dechrau Ysbrydoli

Mae Powys yn llawn cyffro, yn aros yn eiddgar am y beicwyr benywaidd elitaidd i gyrraedd o bedwar ban byd. Mae’r llwyfan wedi’i osod ar gyfer taith fythgofiadwy drwy galon Cymru, lle bydd bloeddiadau cefnogwyr i’w clywed a breuddwydion athletwyr uchelgeisiol i’w gweld ar bob cornel.


Arddangos Cryfder a Gwydnwch

Mwy na ras syml yn unig yw Taith Prydain i Ferched; mae’n ddathliad o gryfder, gwydnwch, a grym menywod mewn chwaraeon. Wrth i’r seiclwyr lywio eu ffordd trwy Bowys, byddant yn dod ar draws tir amrywiol a fydd yn profi eu sgiliau ac yn eu gwthio i’r eithaf. O ddringfeydd heriol i ddisgynfeydd gwefreiddiol, bydd pob milltir yn dyst i ysbryd anorchfygol yr athletwyr hyn.


Ysbryd Cymunedol ar ei Anterth

Mae Powys yn enwog am gynnig croeso cynnes a’r ymdeimlad cryf o gymuned, ac mae hefyd yn wir yn ystod y cyfnod yn arwain at Daith Prydain i Ferched. Mae busnesau lleol yn addurno eu siopau, tra bod gwirfoddolwyr yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod pob dim yn berffaith ar gyfer y diwrnod mawr. Mae’r gefnogaeth gan y gymuned yn holl amlwg, yn dyst i’r cyffro a’r balchder sy’n dod yn sgil y digwyddiad hwn.


Ysbrydoli’r Genhedlaeth Nesaf

Un o agweddau mwyaf cyffrous Taith Prydain i Ferched yw ei photensial i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o seiclwyr. Wrth i ferched ifanc wylio’r athletwyr elitaidd hyn yn concro ffyrdd Powys, byddant yn gweld drostynt eu hunain yr hyn sy’n bosibl gyda gwaith caled, ymroddiad ac angerdd. Nid cystadleuaeth yn unig mo’r daith; mae’n ffordd o baratoi’r ffordd ar gyfer cenedlaethau o fenywod mewn chwaraeon.


Ar Eich Beic

Ydych chi wedi’ch ysgogi i neidio ar feic a darganfod Powys ar ddwy olwyn?

Mae Powys yn cynnig tirwedd amrywiol a syfrdanol sy’n denu seiclwyr o bob lefel i archwilio ei llwybrau golygfaol a’i llwybrau heriol. O lonydd tawel yn y cefn gwlad i lwybrau mynyddig garw, mae rhywbeth i bob seiclwr ei fwynhau yn yr ardal brydferth hon o Gymru.

I’r rheiny sy’n chwilio am daith hamddenol, mae gan Bowys rwydwaith helaeth o lonydd gwledig tawel drwy fryniau a dyffrynnoedd gwyrddlas. Mwynhewch y golygfeydd godidog o gefn gwlad Cymru wrth i chi gerdded ar hyd llwybrau heddychlon, gyda phentrefi swynol a thirnodau hanesyddol.

I’r seiclwr mwy anturus, mae Powys yn gartref i rai o’r llwybrau beicio mynydd mwyaf cyffrous yn y DU. Profwch eich sgiliau ar lwybrau heriol oddi ar y ffordd sy’n ymdroelli trwy goedwigoedd trwchus, rhostir garw, a thirweddau mynyddig dramatig. Mae llwybrau enwog Coed y Brenin a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnig reidiau llawn adrenalin gyda golygfeydd godidog ar bob tro.

I seiclwyr y ffordd, mae Powys yn cynnig llu o lwybrau ar gyfer seiclwyr achlysurol a seiclwyr profiadol. Ewch ati i ddringo bylchau mynyddig eiconig fel Bwlch-y-Groes a Grisiau’r Diafol, neu archwiliwch y lonydd tawel cefn gwlad prydferth Sir Faesyfed.

Ni waeth ble mae eich anturiaethau beicio yn mynd â chi ym Mhowys, byddwch yn cael croeso cynnes, gweld golygfeydd syfrdanol, a phrofi cyfleoedd diddiwedd i archwilio harddwch Cymru ar ddwy olwyn. Felly ewch ar eich beic, dewiswch lwybr, a darganfyddwch bleserau beicio ym Mhowys.

Comentários


bottom of page