top of page
Search

Croeso i Chwefror 


vase of yellow daffodils

Wrth i ni gamu i mewn i ail fis y flwyddyn, does dim amser gwell i ddweud - Croeso i Bowys


Os taw ymwelydd sy’n dychwelyd ydych neu os ydych chi’n darganfod yr ardal drawiadol hon am y

tro cyntaf erioed, mae Canolbarth Cymru’n barod iawn ei chroeso ichi, i’r tirweddau godidog a

phrofiadau bythgofiadwy.

map of the county of powys

Darganfod Powys

Mae Canolbarth Cymru, a leolir yng nghalon y wlad, yn gyfoeth o ddiwylliant Cymreig, hanes a

harddwch naturiol trawiadol. O drefi marchnad heddychlon megis Machynlleth a Thref-y-clawdd i

harddwch gwyllt, naturiol Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd Cambrian, mae stori ynghlwm wrth

bob cwr o’r ardal yma.

Trwy fynd am dro yn ystod y gaeaf trwy goetiroedd hynafol, gyda haenen o rew, gallwch ddarganfod

pentrefi hudolus lle ymddengys nad yw amser yn newid, neu beth am fentro i dafarn draddodiadol i

fwynhau bowlen o gawl hyfryd — does dim diwedd i’r posibiliadau.


Mentrau ar gyfer Eneidiau o Bob Math

Mae ffynhonnell ddiddiwedd o ysbrydoliaeth ar gael yng Nghanolbarth Cymru ar gyfer anturwyr,

haneswyr a phobl sy’n caru natur fel ei gilydd. Os taw mynd ar ôl gwefr sy’n mynd â’ch bryd neu

heddwch a thawelwch, gallwch ddod o hyd i’r ddihangfa berffaith ichi yma. Ar ddechrau blwyddyn

newydd beth am roi cynnig ar:



  •  Ddarganfod Cwm Elan: Gallwch ryfeddu at yr argaeau a chronfeydd dŵr sy’n dyddio o oes Victoria mewn tirwedd o fryniau godidog, sy’n berffaith ar gyfer heicio, beicio neu bicnic â golygfa wych.


  • Cerdded Llwybr Clawdd Offa: Gallwch ddilyn y llwybr sy’n dilyn y ffin hanesyddol a mwynhau golygfeydd trawiadol o’r wlad o’ch cwmpas gan gysylltu â chanrifoedd o hanes yr un pryd.


  • Darganfod Trefi Marchnad: Wrth grwydro trwy drefi megis Aberhonddu, Llanidloes, a Machynlleth, lle mae amrywiaeth o siopau annibynnol, marchnadoedd ffermwyr a chaffis clyd yn disgwyl amdanoch.


  •  Syllu ar y Sêr ym Mannau Brycheiniog: Fel Gwarchodfa Awyr Dywyll, mae Canolbarth Cymru’n cynnig cyfleoedd digyffelyb i ymgolli yn rhyfeddod awyr y nos.


  •  Mwynhau’r Dŵr: Gallwch gaiacio neu badlfyrddio ar hyd Afon Gwy, neu fwynhau llonyddwch un o’r nifer fawr o lynoedd ac afonydd sydd i’w cael ar hyd y rhanbarth.


Mae llu o ddigwyddiadau ar draws Powys trwy gydol y flwyddyn, sy’n cynnig rhywbeth at ddant

pawb. Yn amrywio o sioeau amaethyddol bywiog a gwyliau bwyd llawn bwrlwm i berfformiadau cerddorol clyd ac ailgreadau, mae’r sir yn dathlu ei chyfoeth o dreftadaeth ac ysbryd y gymuned mewn steil. Ymhlith yr uchafbwyntiau tymhorol mae’r marchnadoedd bywiog sy’n dangos crefftau a chynnyrch lleol, anturiaethau awyr agored megis teithiau cerdded dan arweiniad a digwyddiadau beicio, ac achlysuron diwylliannol sy’n rhoi bywyd i gelf, llenyddiaeth a cherddoriaeth. 


Alyn Wallace photograph of man standing on a hill under a starry sky
image by Alyn Wallace

Hafan Awyr Dywyll

Wrth i’r haul machlud, mae Canolbarth Cymru’n trawsnewid yn baradwys i unigolion sy’n mwynhau

syllu ar y sêr. Yma ceir nifer o Warchodfeydd Awyr Dywyll, gan gynnwys Bannau Brycheiniog a Chwm Elan, mae’r awyr ym Mhowys ymhlith rhai o’r rhai mwyaf clir ledled y DU. Felly gwisgwch yn gynnes, ewch allan i’r nos, a gallwch ryfeddu at y Llwybr Llaethog sy’n ymestyn ar draws yr wybren. Mis Ionawr yr un o’r misoedd gorau trwy gydol y flwyddyn i fwynhau’r sêr, felly peidiwch â cholli’chcyfle!







Mwynhau Blasau Lleol

Ni fyddai unrhyw ymweliad â Chanolbarth Cymru’n gyflawn heb fwynhau rhai o’n pleserau coginiol.

O gaws crefftwyr a bara brith sy’n cael ei bobi’n ddyddiol, i gwrw a gynhyrchir yn lleol a chig oen

penigamp, mae gwefr yn disgwyl eich blasbwyntiau. Beth am bicio heibio caffi, tafarn neu fwyty lleol

a phrofi’r lletygarwch digyffelyb, a’r blasau sy’n diffinio’r ardal.


Cychwyn eich Antur yn chwefror


Wrth estyn Croeso i chwefror, rydym yn estyn gwahoddiad ichi hefyd sicrhau fod y flwyddyn hon yn

flwyddyn o ddarganfod, cysylltu a rhyfeddu yng Nghanolbarth Cymru. Os byddwch yn treulio

diwrnod, wythnos neu hirach yma, gadewch i’ch hunan gael eich ysbrydoli gan harddwch a

chynhesrwydd y rhanbarth.


Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich helyntion yng Nghanolbarth Cymru! Felly cofiwch rannu

eich straeon, lluniau a’ch hoff lefydd gyda ni ar gyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio

Ymlaen felly i ddechrau o’r newydd, anturiaethau diddiwedd, a swyn bythgofiadwy Canolbarth

Cymru. Croeso i Bowys - Welcome to Powys.

Comments


Screenshot 2023-10-05 at 16.03.52.png

Send us a message
and we’ll get back to you shortly.

Thanks for submitting!

Rhannwch eich Taith gyda ni tagiwch ni @MidWalesMyWay 

Dolen Facebook Canolbarth Cymru Fy Ffordd
Logo Twitter
Logo Youtube
Logo Instagram

Datganiad Hygyrchedd

© 2023 Canolbarth Cymru Fy Ffordd

Logos Powys a Llywodraeth Cymru
bottom of page