top of page
Search

Derwen Fawr Gregynog 


Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi mai Derwen Fawr Gregynog yw enwebiad Cymru ar gyfer cystadleuaeth y Woodland Trust ar gyfer Coeden y Flwyddyn.



Mae'r dderwen hynafol yn mesur naw metr mawreddog ar ei bwynt ehangaf a dyma’r unig goeden o Gymru sydd wedi'i henwebu ar gyfer cystadleuaeth y DU. Gallwch nawr bleidleisio dros Dderwen Gregynog ar-lein yn Goeden y Flwyddyn – Woodland Trust. Bydd y goeden, sy'n rhan o Goedwig Fawr Gregynog, yn cystadlu yn erbyn 11 derwen anhygoel arall ledled y DU. Mae'r bleidlais ar agor tan 11.59pm 21 Hydref a bydd y Woodland Trust yn cyhoeddi enillydd y DU eleni ar 29 Hydref. Yna bydd y goeden a fydd yn dod i'r brig yn mynd ymlaen i gystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn. Dywedodd Lydia Bassett, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Ymddiriedolaeth Gregynog: "Mae Derwen wych Gregynog yn sefyll ochr yn ochr â nifer o goed enfawr yn y Goedwig Fawr ar dir Neuadd Gregynog. Rydym mor gyffrous i gael ein henwi fel enwebiad Cymru ar gyfer Coeden y Flwyddyn ac mae Derwen Gregynog yn atgof o hanes anhygoel Gregynog ers i'r tŷ cyntaf gael ei adeiladu yma yn y ddeuddegfed ganrif.


"Mae ein coetir yn faes o Ddiddordeb Gwyddonol Penodol sy'n bwysig yn fyd-eang, gyda chennau cochion yn y goedwig dderw hynafol yn ogystal ag adar amrywiol sef tingoch, gwybedog brith a thri math o gnocell y coed.  Elusen yw Ymddiriedolaeth Gregynog a ddaeth yn gyfrifol am reoli’r Neuadd a'r Ystâd o Brifysgol Cymru yn 2019.  Mae’r Ymddiriedolaeth yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn i astudio’r fioamrywiaeth anhygoel ar yr ystâd.


"Gregynog yw un o barcdiroedd a chynefinoedd pori hynafol pwysicaf yng Nghymru. Mae'r coetir yn y Neuadd wedi derbyn statws o fod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru yn ddiweddar ac mae'r ystâd ar agor i bawb bob dydd gyda milltiroedd o lwybrau coetir i'w harchwilio (mae ffi barcio o £3 yn helpu i gynnal a chadw’r gerddi a'r coetir) a chaffi gwych hefyd!


Meddylir bod y dderwen yn bum ganrif oed o leiaf, mae'r dderwen drawiadol yn gartref i rywogaethau di-rif gan gynnwys cennau pwysig. Gwelwyd nifer o ymwelwyr uchel eu parch i'r Neuadd dros y blynyddoedd, mae’n bosibl bod Gustav Holst, George Bernard Shaw a’r Prif Weinidog Stanley Baldwin wedi edmygu'r goeden anhygoel hon. Mae llwybr troed i Dderwen Gregynog o'r Neuadd drwy'r Coedwig Mawr."  Adwaenir Neuadd Gregynog orau fel cartref Gwendoline a Margaret Davies, dwy ferch anhygoel o Gymru a oedd â gweledigaeth chwyldroadol i greu lle yng Nghymru a fyddai'n ganolfan ddiwylliannol a chelfyddydol wirioneddol.  Tra’r oeddent yn dal yn ifanc, fe wnaethant lwyddo i gasglu un o gasgliadau celf gwych yr 20fed ganrif.  Gadawyd 260 o Hen Feistri, paentiadau a cherfluniau Prydeinig, Argraffiadwyr ac Ol-Argraffiadwyr o’r 18fed a'r 19eg ganrif i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1951 a 1963, gan drawsnewid ei chasgliad celf o ran cymeriad, ansawdd ac ystod yn llwyr.

Gwnaeth eu cyflawniadau a'r digwyddiadau a gynhaliwyd yng Ngregynog helpu i luniohanes Cymru. Gwnaethant helpu i sefydlu prifysgol genedlaethol, sylfeini Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr, llyfrgell genedlaethol, amgueddfa genedlaethol, a chamau enfawr tuag at wella iechyd y cyhoedd a Chyngor Cynghrair y Cenhedloedd.

Comments


bottom of page