top of page
Search

Digwyddiadau'r gaeaf



Gwyddom ei bod hi braidd yn gynnar… ond mae’r tymor dathlu ar ei ffordd i Bowys, a dyma ni’n barod i ledu llawenydd gyda llwyth o hwyl Nadoligaidd Gymreig ei natur! Os ydych chi’n chwilio am anrhegion unigryw a wneir yn lleol, neu awydd diod o seidr cynnes, neu am fwynhau goleuadau’r Nadolig, mae rhywbeth at ddant pawb ar gael ar draws ein rhanbarth i wneud i bawb deimlo mor glyd â siwmper Nadolig. O farchnadoedd hudolus Trefaldwyn i noson cynnau Goleuadau Nadolig

Llanidloes, mae pob digwyddiad yn rhan o wledd y tymor, gyda thalp go iawn o gynhesrwydd


Canolbarth Cymru, sydd heb ei ail.

Mae ein trefi a’n pentrefi’n mynd ati go iawn, yn addurno eu hadeiladau (a’u strydoedd!) gydag ysbryd y tymor, ac yn dathlu popeth o ffeiriau crefftau a chyngherddau carolau i gyfleoedd i gwrdd â Siôn Corn ei hun. Ac wrth gwrs, fel arfer, bydd ein tywydd braidd yn oerllyd, ond mae croeso’r cymunedau yn llawn cynhesrwydd! Felly beth am ymuno â ni i greu atgofion bythgofiadwy eleni,

trwy ymweld ag un o ryfeddodau Nadoligaidd Powys?


Oes gennych chi ddigwyddiad ar y gweill y gallwn ei ychwanegu at ein rhestr? Cysylltwch â ni yma events@powys.gov.uk, a byddwn yn rhoi sylw i’ch digwyddiad chi hefyd. Edrychwn ymlaen at Nadolig llawn hwyl, hud a phopeth sy’n unigryw i Gymru!





**Marchnad Gaeaf Unigryw Cwrt Tretŵr **  

*9–10 Tachwedd, Cwrt Tretŵr*  

Cyfle i brofi marchnad neilltuol gyda 50 o stondinau lleol, gwin cynnes, coffi ffres a phitsa, sydd ar

gael o ganol dydd. Beth am gychwyn eich siopa gyda rhoddion unigryw a wneir â llaw.


---


**Noson Siopa Nadolig yng Nghanolfan Gymunedol Tref-y-clawdd**  

*14 Tachwedd, Canolfan Gymunedol Tref-y-clawdd*  

Noson i fwynhau pori 20 o stondinau sy’n cynnig nwyddau’r tymor, o ddanteithion melys i

addurniadau’r cartref. Bydd mins peis ar gael a chyfle i fwynhau ysbryd y tymor wrth siopa.


---


**Marchnad Nadolig Trefaldwyn**  

*16 Tachwedd, Neuadd Ysgol Trefaldwyn | 11 am–3 pm*  

Cyfle i brynu rhoddion a chrefftau Nadolig ym marchnad Nadolig Trefaldwyn, yng nghalon y

gymuned.


** Ffair Grefftau Nadolig y Bwâu **  

*16 Tachwedd, Canolfan Hamdden Rhaeadr Gwy | 10 am–2 pm*  

Cyfle i brynu rhoddion a chrefftau’r Nadolig ym marchnad Grefftau Nadolig y Bwâu,


**Gŵyl Nadolig Ystradgynlais**  

*23 Tachwedd, Parc yr Orsedd, Ystradgynlais*  

Ymunwch â’r hwyl yn Ystradgynlais ar gyfer Gŵyl y Nadolig a seremoni i gynnau’r goleuadau.


---


** Cyngerdd Nadolig Only Men Aloud**  

*23 Tachwedd, Neuadd Albert, Llandrindod*  

Mwynhewch ddoniau lleol Only Men Aloud yn eu cyngerdd Nadolig hir ddisgwyliedig; bydd y

rhaglen yn cynnwys emynau Cymreig a chaneuon clasurol.


---


**Ffair Nadolig Llanandras**  

*29 Tachwedd, Eglwys Andreas Sant, Llanandras | O 3:30 pm*  

Cyfle i gwrdd â Sion Corn, mwynhau siocled poeth a seidr cynnes, a chrwydro stondinau llawn

rhoddion y tymor. Bydd unrhyw elw’n mynd i gefnogi prosiectau ysgolion lleol.


---


**Cynnau Goleuadau Nadolig y Gelli Gandryll**  

*29 Tachwedd, Y Sgwâr, Y Gelli Gandryll | 5:00–7:00 pm, cynnau’r goleuadau am 6:30 pm*  

Beth am fentro i ysbryd yr ŵyl trwy ganu carolau, mwynhau gwin cynnes, stondinau bwyd a

chynnau goleuadau’r Nadolig!


---

**Marchnad Nadolig Llandrindod **  


*30 Tachwedd, Llandrindod *  

Bydd Llandrindod yn croesawu pawb i’w marchnad Nadolig cyntaf, sy’n cynnwys 60+ o stondinau,

cerddoriaeth fyw, ffair, ac unigolion yn diddanu ar y stryd. Diwrnod i’r teulu cyfan!


---


**Cynnau Goleuadau Nadolig a Ffair Nadolig Llanidloes**  

*30 Tachwedd, Llanidloes | 5 pm*  

Gallwch ddathlu’r tymor yn Llanidloes a mwynhau cynnau’r goleuadau a’r ffair Nadolig, llawn hwyl

yr ŵyl a siopau lleol.


---


**Dathliadau’r Nadolig – Y Drenewydd**  

*30 Tachwedd*  

Dechrau dathliadau’r Nadolig yn y Drenewydd wrth gynnau goleuadau’r Nadolig, marchnad

Nadolig, adloniant a gweithgareddau i’r teulu.


---


**Nadolig Dicksenaidd | Castell Powis**  

*30 Tachwedd – 5 Ionawr, Castell Powis*  

Cyfle i fwynhau profiad Nadolig oes Fictoria yng Nghastell Powis, gyda’r *Christmas Carol* yn

ysbrydoliaeth.

---


**Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol**  

*25–26 Tachwedd, Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd*  

Mwynhewch hwyl yr ŵyl yn y Ffair Aeaf, sioe sy’n dangos y da byw gorau, a chyfle i siopa ar gyfer

yr Ŵyl a blasu danteithion amrywiol.


---

**Ras Siôn Corn Trefaldwyn**  


24 Tachwedd, Canolfan Gweithgareddau Trefaldwyn | Cofrestru am 9:45 am, Ras yn cychwyn

10:30 am*  

Gallwch gefnogi Ffrindiau Ysgol Trefaldwyn gyda Ras Siôn Corn ar gyfer y teulu cyfan! Rydym yn

annog gwisgoedd y tymor, a bydd gwobrwyon ar gyfer y gwisgoedd gorau.


---


**Clychau Aberhonddu**  

*24 Tachwedd, Daeargell Neuadd y Farchnad, Aberhonddu*  

Dewch i ddathlu noson Nadoligaidd Aberhonddu gyda stondinau, bwyd a diod, gweithgareddau i

blant, a Groto Siôn Corn; bydd y goleuadau’n cael eu cynnau am 6 pm.


---


**Penwythnos Gaeaf Gŵyl y Gelli**  

*28 Tachwedd–1 Rhagfyr, Y Gelli Gandryll*  

Ymunwch â hwyl Penwythnos Gaeaf Gŵyl y Gelli gyda digwyddiadau awduron, cerddoriaeth,

comedi, gweithdai, a marchnadoedd tymhorol mewn lleoliad godidog y gaeaf.


**Carolau yng Ngolau Cannwyll**  

*1 Rhagfyr, Gwesty’r Metropole, Llandrindod*  

Dewch i ddathlu’r tymor gyda Chôr Meibion Rhaeadr Gwy mewn awyrgylch golau cannwyll ar

gyfer noson o gerddoriaeth y Nadolig.


**Groto Coedwigol y Gaeaf**  

*7, 8, 14, 15, 20, 21, 22, & 23 Rhagfyr, Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan*  

Dewch â’r teulu ar gyfer profiad Groto Coedwigol hudol y Gaeaf gyda Siôn Corn, crefftau’r Nadolig

ac antur goedwigol i gael hyd i goblyn sydd ar goll.

---


**Taith Tractorau’r Trallwng**  

*8 Rhagfyr, Marchnad Da Byw’r Trallwng*  

Dewch i ryfeddu ar orymdaith tractorau trwy’r Trallwng. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn codi

arian er budd Rhwydwaith y Gymuned Ffermio.


---


**Cadwch y Dyddiad: Cynnau Goleuadau Coeden Nadolig Ystradgynlais**  

*13 Rhagfyr, Clwb Rygbi Ystradgynlais | O 6 pm*  

Dewch ynghyd gyda’r gymuned i ddathlu cynnau Goleuadau Coeden Nadolig Ystradgynlais, yn

ogystal â chôr, band pres, bwyd tymhorol a charolau.

---


**Ras Ceirw Rhaeadr Gwy**  

*14 Rhagfyr, Rhaeadr Gwy*  

Ymunwch â Ras Ceirw Nadoligaidd trwy dref Rhaeadr Gwy, digwyddiad 5k sy’n codi arian ar gyfer

Ymddiriedolaeth Bracken. Gwisgwch yn addas a mwynhewch ysbryd yr ŵyl!


----


**Carolau o gwmpas y Goeden**  

23 Rhagfyr, Tŵr Cloc Rhaeadr Gwy  7:30pm 

Dewch ynghyd ger tŵr cloc Rhaeadr Gwy i fwynhau noson hyfryd a thymhorol o ganu carolau i

ddathlu ysbryd y Nadolig.

-----

**Rheilffordd Y Trallwng a Llanfair | Trenau Mins Peis**  

*28–30 Rhagfyr, Rheilffordd Y Trallwng a Llanfair*  

Cyfle i fwynhau taith ar drên ager gyda mins peis i oedolion a bisgedi sinsir ar gyfer y plant ar daith

hyfryd 8 milltir o hyd.

留言


bottom of page