Yng nghanol cefn gwlad Cymru mae Powys, sef rhanbarth sy’n enwog am ei golygfeydd syfrdanol, ei thirwedd fynyddig, a’i threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog. Ac yma, bydd un o ddigwyddiadau mwyaf rhyfeddol y calendr chwaraeon yn cael ei gynnal: Dyn yn erbyn Ceffyl.
Prawf Gwydnwch a Golwg Benderfynol
Ras flynyddol yw Dyn yn erbyn Ceffyl sy’n gosod rhedwyr yn erbyn marchogion wrth i gystadleuwyr brofi eu gwydnwch, eu stamina a’u dyfalbarhad. Ers y ras gyntaf yn 1980 yn nhref hardd Llanwrtyd ym Mhowys, mae’r digwyddiad eiconig hwn wedi dwyn sylw athletwyr a gwylwyr fel ei gilydd.
Mae’r cyfranogwyr yn dilyn cwrs heriol sy’n ymestyn tua 22 milltir trwy gefn gwlad Cymru. Y dyn cyntaf i groesi’r llinell derfyn sy’n ennill i Dîm Dyn, tra bo’r ceffyl a marchog cyntaf i orffen yn sicrhau’r fuddugoliaeth i Dîm Ceffyl.
Mae’r cwrs ei hun yn syfrdanol ond yn anodd, gan dywys cyfranogwyr trwy rai o dirweddau mwyaf eiconig Powys. O fryniau serth a llwybrau creigiog i rostir gwasgarog a choedwigoedd trwchus, mae pob milltir yn cyflwyno rhwystr newydd (a golygfa anhygoel).
Dathliad
Mae Dyn yn erbyn Ceffyl yn fwy na ras syml. Mae hefyd yn ddathliad bywiog llawn gyfeillgarwch ac antur sy’n uno athletwyr, gwylwyr, a thrigolion lleol. Mae strydoedd Llanwrtyd yn llawn cyffro wrth i redwyr a marchogion ymgasglu i groesawu heriau tir garw Cymru.
Er bod y gystadleuaeth rhwng dyn a cheffyl yn ganolog i’r digwyddiad, mae ysbryd sbortsmonaeth a pharch yn holl amlwg. Mae’r cyfranogwyr yn gwthio eu hunain i’r eithaf, gyda chefnogaeth gwylwyr sy’n eu hannog nhw yn eu blaen, a chan wybod eu bod yn rhan o rywbeth gwirioneddol ryfeddol.
I wylwyr, mae’r ras Dyn yn erbyn Ceffyl yn cynnig sioe wefreiddiol sy’n arddangos camp ysbryd dyn, gyda chefndir golygfeydd godidog Powys. P’un a ydych chi’n gweiddi’ch cymorth ar ochr yr heol neu’n dilyn y digwyddiad ar-lein, bydd drama a chyffro’r ras yn sicr o roi argraff barhaol.
Darganfod Llanwrtyd a Thu Hwnt
Wrth i chi fod ym Mhowys ar gyfer y ras Dyn yn erbyn Ceffyl, manteisiwch ar y cyfle i grwydro tref swynol Llanwrtyd a’i hatyniadau cyfagos:
Llanwrtyd: Darganfyddwch nodweddion unigryw’r dref hynod hon, sy’n adnabyddus am ei chroeso cynnes a’i swyn mympwyol. Archwiliwch y siopau lleol, y caffis, a’r tirnodau hanesyddol, gan gynnwys y cerflun eiconig o’r barcud coch yn y prif sgwâr.
Antur yn yr Awyr Agored: Cychwynnwch ar eich antur eich hun yn yr awyr agored a’r wlad, gyda chyfleoedd i heicio, beicio mynydd, a marchogaeth ceffylau ar dirwedd syfrdanol Powys.
Treftadaeth Leol: Ymgollwch yn hanes a threftadaeth gyfoethog Llanwrtyd yng Nghanolfan Treftadaeth a Chelfyddydau Llanwrtyd a’r Cyffiniau, lle mae arddangosfeydd rhyngweithiol yn datgelu hanes hynod ddiddorol y dref.
Treftadaeth Sba: Talwch deyrnged i dreftadaeth sba Llanwrtyd gan ymweld â’r safle sba gwreiddiol, lle darganfuwyd ffynnon fyrlymus gan y ficer lleol yn y 18fed ganrif. Archwiliwch y llwybr glan yr afon a’r parcdir ger Afon Irfon, gan fwynhau harddwch tawel y wlad o’ch cwmpas.
Comentários