top of page
Search

Hydref Hwyl




Wrth i’r Hydref gyrraedd am flwyddyn arall, ac mae’r dail yn dechrau troi’n lliwiau coch ac aur hyfryd, bydd Powys yn trawsnewid yn faes chwarae godidog o bleserau’r tymor hwn.

Mae cyfoeth o ddigwyddiadau ar eich cyfer ym mis Hydref, sy’n dathlu’r awyr iach, y lliwiau bywiog a llawennydd y tymor. 

Os taw bwydgarwr ydych sy’n chwilio am eich antur flasus nesaf, neu os taw diwylliant sy’n mynd â’ch bryd chi ac rydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth greadigol, neu unigolyn sy’n mwynhau trip bach unigryw ydych, mae gan Bowys rywbeth at ddant pawb. Felly gwisgwch yn addas, a byddwch yn barod i ddarganfod rhyfeddodau’r Hydref trwy’r crynodeb o ddigwyddiadau gwych sy’n digwydd y mis hwn!


Penwythnos Antur yr Hydref – 26 a 27 Hydref 2024 

Ymunwch â ni am benwythnos llawn cyffro ym mhrydferthwch Cwm Elan yn y Canolbarth! O leinin sip a beicio mynydd i wehyddu helyg a syllu ar y sêr, mae rhywbeth i bawb. P'un a ydych chi'n frwd dros yr awyr agored neu'n chwilio am hwyl addas i‘r teulu,  deuluoedd, mae'r cyfan ar gael gyda’r digwyddiad hwn!


Mae'r gweithgareddau'n cynnwys:  Fferm dros dro gyda Fferm Pentre, ystafelloedd dianc symudol gyda Beyond Breakout, teithiau beicio mynydd gyda Pippa Boss, rhaffau a chaiacio gyda EV Lodge, ffotograffiaeth nos a syllu ar y sêr, Crefftio, creu masgiau a mwy!


 HEFYD: Disgownt unigryw ar Fferm Gigrin i wylio barcutiaid coch!  Defnyddiwch y cod PCC24 ar gyfer disgownt ar archebion a wneir o 1-28 Hydref. Dilys ar gyfer y Maes Gwylio a’r Cuddfannau Safonol.


Peidiwch â cholli allan—archebwch eich tocynnau heddiw a phrofi'r gorau o antur a natur yn y Canolbarth!





5ed Hydref  

Gŵyl Fwyd Bannau Brycheiniog  

Lleoliad: Neuadd y Farchnad, Stryd y Farchnad, Aberhonddu LD3 9DA  

Tref agosaf: Aberhonddu  

Bwydgarwyr, byddwch lawen! Mae Gŵyl Fwyd Bannau Brycheiniog ar y gorwel, achlysur i brofocio eich blasbwyntiau, a llenwi’ch stumog gyda’r blasau lleol gorau oll. Dychmygwch grwydro’r rhesi o stondinau llawn selsig blasus, llysiau organig, siocledi crefftwyr, a chwrw crefft.  Nid gŵyl fwyd yn unig yw hon – ond antur goginiol gydag arddangosiadau coginio byw a gweithdai rhyngweithiol sy’n troi bwyd yn ge





5ed a 6ed Hydref  

Ffair Hydref Canolbarth Cymru  

Lleoliad: Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair ym Muallt LD2 3SY  

Tref agosaf: Llanfair ym Muallt  


Bydd Ffair Hydref Canolbarth Cymru’n gyfle ichi fynd i rigol yr Hydref; does dim diwedd ar yr hwyl yma! Mae’r ŵyl hon yn dathlu popeth sy’n gysylltiedig â’r Hydref, megis cerddoriaeth fyw sy’n achosi ichi dapio’ch traed, a gweithdai celf a chrefft i ysgogi’ch gallu creadigol, ynghyd ag arddangosfa o’r bwydydd a diodydd gorau oll trwy Gymru gyfan. Gallwch ryfeddu hefyd ar yr hen dractorau, ceir o dras a hyd yn oed fferm mwytho anifeiliaid. Os ydych chi awydd gael ychydig o antur, beth am herio eich hunan mewn un o ystafelloedd dianc ‘Beyond Breakout’. Gyda chymaint o bethau i’w gweld a’u gwneud, bydd yn benwythnos llawn hwyl i’r teulu cyfan a phleserau’r tymor hwn!





Picnic Tedi Bêr ar Reilffordd Y Trallwng a Llanfair  

Lleoliad: Llanfair Caereinion, Powys  


Yn galw ar bawb sy’n hoff o’u tedi bêr! Dewch â’ch hoff dedi bêr i ymuno â ni ar gyfer antur llawn pleser ar Reilffordd Y Trallwng a Llanfair. Bydd y daith hon ar drên ager trwy wlad odidog gogledd Powys yn berffaith ichi a’ch cymar cyfforddus. Gallwch gwtsio yn y cerbydau clyd, a mwynhau golygfeydd bendigedig, a gadael i swyn y picnic tedi bêr yma greu atgofion i’w mwynhau am flynyddoedd. Pawb ar fwrdd am daith i gynhesu’r galon a mwynhau’r golygfeydd!



11eg Hydref  

Gŵyl Lyfrau, Celf a Cherddoriaeth Tref-y-clawdd  

Nodwch y dyddiad hwn ar eich calendr – penwythnos llawn creadigrwydd a diwylliant sy’n eich disgwyl! Mae Gŵyl Tref-y-clawdd, sy’n rhedeg rhwng 11eg – 13eg Hydref, yn barod i’ch diddanu gyda llwyth o weithgareddau. Bydd yr achlysur yn dechrau gyda phrynhawn o farddoniaeth a cherddoriaeth i’ch ysbrydoli. Trwy gydol y penwythnos, gallwch fwynhau amrywiaeth o gyflwyniadau gan awduron, ffilm ddiddorol, ffair lyfrau a chelf, a gweithdy ysgrifennu. A pheidiwch ag anghofio am uchafbwynt y penwythnos – cynhyrchiad gwefreiddiol o Twelfth Night gan grŵp Theatr Glôb yr Helyg. Digwyddiad i ddathlu popeth sy’n ymwneud â’r celfyddydau a llenyddiaeth yn nhref hudolus Tref-y-clawdd!




11eg – 14eg Hydref  

Baróc Aberhonddu  

Lleoliad – Amrywiol yn Aberhonddu  

Tref agosaf: Aberhonddu  


Cymerwch gam i’r gorffennol a mwynhau ceinder cerddoriaeth faróc yng Ngŵyl Baróc Aberhonddu. Sefydlwyd yr ŵyl gan y feiolinydd enwog Rachel Podger; gŵyl ar gyfer pobl sy’n caru cerddoriaeth yw hon. Gallwch fwynhau cyngherddau penigamp mewn lleoliadau llawn awyrgylch, sy’n eich cludo i fyd godidog y 17eg a’r 18fed ganrif. Gyda cherddorion o’r radd flaenaf ym maes cerddoriaeth faróc yn dangos eu doniau, mae’r Ŵyl hon yn cynnig profiad cerddorol gwirioneddol a swynol – ni fyddwch am ei cholli.

Felly, nodwch y dyddiadau uchod ar eich calendr a gofalwch nad ydych chi’n colli’r holl ddigwyddiadau gwych hyn yn ystod yr Hydref eleni ym Mhowys! 

コメント


bottom of page