Llanfair Caereinion: Gem Gudd Gymreig Hyfryd
- Discover Powys
- Apr 23
- 5 min read
Mae Llanfair Caereinion wedi ei lleoli yng nghesail y Canolbarth. Mae’n drysorfa o hanes a chyfaredd. Yn y lle hwn gall cyflymder bywyd fod mor hamddenol ag injan stêm ar ei thaith ar hyd rheilffordd gul. Dyna LanfaIr Caereinion i chi—hafan brydferth sy’n cyfuno cynnwrf hanesyddol a harddwch naturiol.
Yma, byddwch yn darganfod tref sy'n ymfalchïo yn ei hynodrwydd hanesyddol a'i straeon lleol unigryw. Mae’n enwog fel pen taith llinell reilffordd hanesyddol Rheilffordd Ysgafn y Trallwng a Llanfair ac am ei rôl fel y dref gyntaf i ddefnyddio goleuadau trydan cynnar. Mae Llanfair Caereinion yn llawn straeon diddorol. Roedd y dref arfer cael ei galw’n ‘Llanfair Ddisglair’ am ei goleuadau stryd arloesol; ac yno, gwnaeth gwneuthurwr clociau greu bron i 400 o glociau tad-cu wedi'u cerfio'n gain. Dyma'r fan lle daw ffeithiau anarferol o’r fath yn fyw.
P'un a ydych chi'n hanesydd brwd, neu’n frwdfrydig dros natur, neu'n rhywun sy'n chwilio am ddiwrnod hamddenol allan, mae Llanfair Caereinion yn cynnig cymysgedd hyfryd o brofiadau a fydd yn eich cyfareddu ac yn eich gwneud i awchu am fwy. Felly, dewch am y trenau stêm ac aros am y straeon; Mae Llanfair Caereinion yn aros i rannu ei chyfrinachau gyda chi!
Bore:
Rheilffordd Ysgafn Y Trallwng a Llanfair

Dechreuwch eich diwrnod gyda thaith i'r gorffennol ar Reilffordd Ysgafn y Trallwng a Llanfair. Mae'r rheilffordd gul hardd hon, a adeiladwyd ar ddechrau'r 20fed ganrif, yn ffordd hyfryd o fwynhau bryniau mwyn a thirweddau golygfeydd y Canolbarth. Mae'r daith gylchol 2 awr o hyd i'r Trallwng ac yn ôl yn rhoi digon o amser i chi fwynhau’r golygfeydd prydferth, tra bo taith fyrrach yn cynnig blas cyflymach ar deithio fintij. Os nad yw amser yn caniatáu taith lawn, mae'n werth ymweld â'r orsaf hanesyddol ei hun. Mwynhewch baned a thamaid i'w fwyta yn y caffi, lle gallwch wylio'r injans stêm ac ail-fwynhau awyrgylch amseroedd a fu.
Casgliad Ceir Model yn Amgueddfa Moduron Cloverlands ac Amgueddfa Cysylltiadau Llanfair
Ar ôl eich antur reilffordd, plymiwch i hanes Rheilffordd Ysgafn y Trallwng a Llanfair yn amgueddfa ‘Cysylltiadau Llanfair’, sydd wedi'i lleoli wrth ymyl yr orsaf. Mae'r ganolfan hon yn cynnwys arddangosfeydd diddorol ar orffennol y rheilffordd a'i hadfywiad fel atyniad i dwristiaid. Am ragor o hwyl, edrychwch ar Gasgliad Ceir Amgueddfa Moduron Cloverlands, sy’n arddangos dros 5,000 o gerbydau bach wedi'u curadu gan wraig leol Gillian Rogers, sy'n frwdfrydig am geir bach. O geir fintij Grand Prix i fodelau milwrol, mae pob arddangosiad yn dyst i oes o gariad at foduro.
Prynhawn:
Taith Gerdded Glan yr Afon
Ar ôl i chi grwydro o gwmpas y rheilffordd a'r ceir model, ewch ar daith gerdded heddychlon ar lan yr afon. Croeswch y bompren hen ffasiwn gyferbyn â'r orsaf drenau a dilyn Afon Banwy drwy'r dref. Bydd eich llwybr yn eich arwain at Arboretwm Cae’r Afr, gwarchodfa natur dawel gyda dros 25 o rywogaethau coed brodorol. Wrth i chi grwydro, chwiliwch am blaciau gwybodaeth cynhwysfawr am bob coeden ac edmygu Cerrig yr Orsedd, sy'n coffau cynnal Eisteddfod Powys yn Llanfair Caereinion. Os bydd amser yn caniatáu, estynnwch eich taith gerdded drwy Goetir Deri ar daith 2 filltir gylchol, gan fwynhau golygfeydd coetir ychwanegol a llonyddwch.
Crwydro'r Strydoedd
Wrth iddi ddechrau nosi, crwydrwch drwy strydoedd cyfareddol Llanfair Caereinion. Mae llethrau troellog ffyrdd y dref yn gartref i amrywiaeth o siopau, tafarndai a bwytai. I gael blas ar fwyd lleol, ewch i hen neuadd y farchnad, sydd bellach yn gweini pysgod a sglodion blasus. Mae'r strydoedd yn gymysgedd o arddulliau pensaernïol, sy'n adlewyrchu hanes ac esblygiad cyfoethog y dref. Dyma gyfle perffaith i godi cofroddion unigryw neu fwynhau awyrgylch croesawgar y dref fach Gymreig hon.
Gyda’r nos:
Eglwys y Santes Fair
Gorffennwch eich diwrnod gydag ymweliad ag Eglwys y Santes Fair, tirnod canolog yn Llanfair Caereinion. Wedi'i lleoli mewn mynwent fawr, mae strwythur presennol yr eglwys i raddau helaeth yn dyddio o 1868, ond mae wedi cadw elfennau o'i hanes cynharach, gan gynnwys bedyddfan o'r 13eg ganrif a cherflun carreg o'r 15fed ganrif o farchog. Crwydrwch o gwmpas y fynwent ac ymweld â Ffynnon y Santes Fair, ffynnon sanctaidd sy'n adnabyddus am honiadau o iachau. Mae'r safle hwn wedi denu ymwelwyr ers canrifoedd, hyd yn oed cyn i'r eglwys gael ei hadeiladu.
Opsiynau Bwyd:
Drwy gydol eich diwrnod yn Llanfair Caereinion, fe welwch amrywiaeth o opsiynau bwyta sy’n gweddu amrywiol chwaethau. Dechreuwch eich bore gyda choffi a byrbryd yng nghaffi’r rheilffordd, lle gallwch fwynhau golygfeydd o'r injans stêm. Am ginio, ystyriwch ymweld â thafarndai neu gaffis lleol, lle gallwch sawru bwydydd traddodiadol Cymreig. Mae hen neuadd farchnad y dref, sydd bellach yn siop bysgod a sglodion, yn lle gwych i gael pryd o fwyd anffurfiol a blasus. Gyda'r nos, edrychwch ar fwy o opsiynau bwyta ar strydoedd troellog y dref, o dafarnau clyd sy'n gweini llond plataid o fwyd, i fwytai hyfryd sy'n cynnig amrywiaeth o brydau bwyd lleol a rhyngwladol. Mae sîn fwyta Llanfair Caereinion yn adlewyrchu awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar y dref, gan sicrhau eich bod yn cael profiad bwyd hyfryd i ategu anturiaethau eich diwrnod.
Ambell i syrpreis a phethau hynod:
Ambell i syrpreis a phethau hynod
Stiwdios y Foel: Ar gyfer y sawl sy'n frwdfrydig am gerddoriaeth neu'r rhai sydd ag ychydig mwy o amser, mentrwch ychydig filltiroedd i'r de-orllewin o'r dref i Stiwdios y Foel. Mae hen hanes i’r stiwdio recordio enwog hon gyda bandiau nodedig o'r DU a rhyngwladol, gan gynnwys The Stranglers a James. Mae'n drysor cudd i'r rhai sydd â diddordeb yn etifeddiaeth gerddorol yr ardal.
Arloeswyr Goleuadau Trydan: Darganfyddwch honiad Llanfair Caereinion ei bod yn lle enwog fel un o'r lleoedd cyntaf yn y DU i gael goleuadau stryd drydan. Sefydlwyd gan Gymdeithas Goleuadau Trydan y dref ym 1914, ac arweiniodd y defnydd cynnar hwn o dechnoleg at lys enw arbennig i Lanfair Caereinion sef ‘Llanfair Ddisglair’. Mae'n ffaith hanesyddol hynod sy'n ychwanegu at gyfaredd y dref.
Hanes Arwrol: Dysgwch am stori ingol Victor M Jones, a aberthodd ei fywyd yn ceisio achub ffermwr o Afon Banwy. Mae cofeb ger yr orsaf drenau yn anrhydeddu ei ddewrder ac yn ein hatgoffa o hanes lleol.
Samuel Roberts, y gwneuthurwr clociau: Archwiliwch etifeddiaeth Samuel Roberts, ffermwr lleol o'r 18fed ganrif a ragorodd hefyd fel gwneuthurwr clociau. Crefftodd Roberts bron i 400 o glociau tad-cu wedi'u cerfio'n addurniadol, ac mae rhai ohonynt bellach yn eitemau gwerthfawr i gasglwyr. Mae ei grefftwaith yn cael ei ddathlu fel rhan nodedig o dreftadaeth Llanfair Caereinion.
Etifeddiaeth Lenyddol: Darganfyddwch ddylanwad Islwyn Ffowc Elis, cyn-breswylydd a llenor o Gymro mawr ei barch. Enillodd Elis, a wasanaethodd fel gweinidog Presbyteraidd yn Llanfair Caereinion yn 1950, y fedal ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1951 a chyhoeddodd waith dylanwadol, gan gynnwys ei nofel gyntaf Cysgod y Cryman. Mae ei gyfraniadau at lenyddiaeth Gymraeg yn destun balchder i'r dref.
Komentáře