Mae Powys yn falch o groesawu Eisteddfod yr Urdd 2024 i Faldwyn ac yn edrych ymlaen at gwrdd â llawer o ymwelwyr yn ein sir brydferth dros chwe diwrnod cyffrous y digwyddiad hwn.
Ond a ydych chi’n barod i droi eich antur yn yr Urdd i fod yn ddarganfyddiad epig o Bowys?
Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop ac yn ddigwyddiad arwyddocaol o ran diwylliant Cymru. Caiff ei threfnu’n flynyddol gan Urdd Gobaith Cymru, sefydliad ieuenctid Cymreig. Mae’r Eisteddfod yn dathlu’r Gymraeg, llenyddiaeth, cerddoriaeth, dawns, drama, a’r celfyddydau gweledol.
Dychmygwch wythnos lawn a bywiog o ddathlu pan fo plant o bob cwr o Gymru’n cystadlu ac arddangos eu talentau. O ganu a dawnsio i farddoniaeth a drama, mae’n chwa o greadigrwydd a diwylliant. Yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd mae ieuenctid Cymru’n disgleirio ar eu mwyaf gloyw, gyda bloeddiadau a chymeradwyaeth eu cefnogwyr balch yn eu hamgylchynu.
Nid cystadlu yn unig sydd yno; mae’n ŵyl lawen, ac yn ffrwydrad lliwgar o bopeth sy’n gwneud Cymru’n arbennig.
Ac nid dyna’r cyfan...
Mae yna fyd cyflawn arall o gyffro yn aros amdanoch chi y tu hwnt i Faes yr Eisteddfod ei hun. O weithgareddau gwefreiddiol i atyniadau hudolus, mae yna rywbeth i bawb ei fwynhau.
Felly beth am i ni ymbaratoi a phlymio i mewn i’r hwyl...
(Mae’r holl weithgareddau ac atyniadau tua awr o hyd i ffwrdd o Feifod.)
Castell a Gerddi Powis: Dewch i gerdded o gwmpas ysblander Castell Powys a’i erddi syfrdanol. Bydd plant ac oedolion fel ei gilydd yn caru darganfod hanes cyfoethog y castell a cherdded o gwmpas y tiroedd prydferth.
Llyn Fyrnwy: Dewch i dreulio diwrnod ble y gallwch fwynhau picnic, cerdded a seiclo a hyd yn oed chwaraeon dŵr fel caiacio a phadlfyrddio. Mae’r golygfeydd darluniadol yn berffaith ar gyfer gwibdaith anturus i’r teulu.
Rheilffordd Llanfair: Ewch ar daith lawn golygfeydd prydferth ar Reilffordd Llanfair, trên stêm ar lein fach gul drwy gefn gwlad prydferth Sir Drefaldwyn. Dyma antur y bydd teuluoedd yn ei mwynhau ar drên stêm, gyda rhai o’r teithiau trên yn dilyn thema hefyd.
Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant Yr Arian: Dewch i ymweld â’r ganolfan goedwigaeth a gwarchodfa natur hon i fynd am dro gyda’r teulu, dilyn llwybrau beiciau mynydd a chael cyfle i wylio’r barcud coch yn cael ei fwydo. Dyma aderyn oedd yn wynebu difodiant ar un adeg ond sydd i’w gweld yn hedfan yn rheolaidd bellach uwch ben Canolbarth Cymru.
Prosiect Gweilch Dyfi yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Dyfi: Rhowch gynnig ar antur wyllt gyda gwibdaith i Ganolfan Gweilch Dyfi, sy’n dafliad carreg yn unig i ffwrdd o Fachynlleth. Mae’r hafan bylwyd gwyllt ffantastig hon, sy’n cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn, yn dathlu gwychder y gwalch – aderyn sy’n bysgotwyr medrus iawn. Dewch i baratoi am ddiwrnod llawn cyffro gyda fideos bwydo a theithiau tywys, ble fyddwch chi yng nghanol tiriogaeth y gwalch.
Hefyd, ceir rhaglenni addysgiadol ardderchog ac arddangosion a fydd yn cyffroi’r teulu i gyd wrth i chi ddysgu am fioleg y gwalch, ei arferion diddorol, a’r ymdrech i’w ddiogelu. Mae llawer o hwyl yn aros amdanoch a llawer i’w ddarganfod yng Nghanolfan Gweilch Dyfi, sef y cyrchfan gorau i deuluoedd sy’n caru natur ac antur!
Camlas Trefaldwyn: Dewch i fwynhau tro hamddenol neu seiclo ar eich beic ar hyd llwybr tynnu Camlas Trefaldwyn, ble gallwch weld bywyd gwyllt a mwynhau’r wlad heddychlon o’ch cwmpas.
Trefi Marchnad Lleol: Dewch i gerdded o gwmpas trefi marchnad hyfryd fel Llanidloes, Y Trallwng, Trefaldwyn, Llanfyllin a’r Drenewydd, ble y gallwch bori mewn siopau annibynnol, ymweld ag atyniadau lleol a blasu bwyd a diod blasus Cymru.
Anturiaethau Awyr Agored: Mae Sir Drefaldwyn yn baradwys i’r sawl sy’n frwd dros yr awyr agored, gan gynnig cyfleoedd cerdded, seiclo, pysgota, marchogaeth, chwaraeon dŵr, a gweld bywyd gwyllt ar y bryniau, yn y dyffrynnoedd, afonydd, llynnoedd a fforestydd amgylchynol.
Mythau a Chwedlau Canolbarth Cymru: Perffaith i Dywysogion a Thywysogesau bach, sydd am dreulio’r pnawn yn darganfod rhagor am stori Pennant Melangell, tywysoges Wyddelig a ffôdd i gwm Pennant Melangell a’r enw da enillodd hi fel un a oedd yn diogelu bywyd gwyllt. Neu Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru, arweinydd a gwrthryfelwr eiconig a arweiniodd wrthryfel rhyfeddol yn erbyn y Saeson yn gynnar yn y 15 ganrif. Erbyn hyn mae e’n symbol parhaus o annibyniaeth Cymru a’i balchder cenedlaethol.
Llety Addas i’r Teulu: Arhoswch mewn llety addas i’r teulu fel bythynnod clyd, gwersylloedd neu lety gwely a brecwast ble y gallwch ymlacio a dadebru ar ôl diwrnod o anturio.
コメント