Cytser Telyn Arthur – Telyn Hudol Morgan
Cytser Telyn Arthur – Telyn Hudol Morgan
Yn ôl chwedlau Cymreig, mae hanes am ddyn gyda’r enw Morgan oedd yn enwog am ganu’r delyn yn ddrwg iawn. Roedd ei gerddoriaeth mor ofnadwy, roedd yn gyrru ei gymdogion yn wallgof bron. Ond roedd Morgan yn hollol anymwybodol o’i fethiant fel telynor, ac yn argyhoeddedig am ei allu wrth ganu’r offeryn tu allan, a hynny’n achosi diflastod i bawb o’i gwmpas.
Un diwrnod, gyda ffawd yn cymryd rheolaeth, daeth cerddor proffesiynol ar draws perfformiad poenus Morgan, a dyma fo’n chwerthin yn groch ac yn ei wawdio.
Heb yn wybod i Morgan, roedd tri bod hudol o’r Tylwyth Teg yn gwylio’r hyn oedd yn digwydd, yn llawn diddordeb. Y noson honno, aeth y tylwyth teg, yn cogio bod yn deithwyr blinedig, i ymweld â chartref Morgan. Dyma nhw’n curo’r drws, ac egluro eu bod wedi blino’n lân ac eisiau bwyd, trwy erfyn arno â’u llygaid. Heb oedi dim, dyma Morgan yn eu gwahodd i’w dÅ·, gan gynnig bwyd a diod iddynt, ac yn eu hannog i orffwys yn ei gartref.
Roedd caredigrwydd Morgan yn amlwg drwy hyn, ac i ddiolch iddo am ei haelioni a’i garedigrwydd, dyma’r tylwyth teg yn cyflwyno telyn aur hudol iddo. Gyda’r ddawn newydd fendigedig yma, cafodd cerddoriaeth Morgan ei thrawsnewid yn rhywbeth gwyrthiol. Roedd ei ddawn newydd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos, a bydden nhw’n dawnsio ac yn canu gyda llawenydd yn ei gyngherddau.
Un diwrnod, digwyddodd y cerddor proffesiynol ddod ar draws perfformiad hynod Morgan unwaith eto, a chafodd ei synnu’n llwyr.
Gan fanteisio ar y cyfle i dalu’r pwyth yn ôl rhywfaint, defnyddiodd Morgan y delyn hudol i wneud i’r cerddor proffesiynol ddawnsio’n hollol afreolus a gwneud iddo edrych yn hurt.
Syrthiodd Morgan i’r llawr dan chwerthin, gan ddal ei ochrau wrth i’r cerddor ddawnsio o gwmpas y dref yn hollol hurt.
Dyma’r tylwyth teg, ar ôl gweld eu rhodd yn cael ei gamddefnyddio, yn penderfynu gweithredu. Yr eiliad y syrthiodd y delyn o fysedd Morgan wrth iddo rolio chwerthin ar y llawr, dyma’r tylwyth teg yn cymryd y delyn aur yn ôl a’i gosod yn uchel yn yr wybren ymhlith y sêr, gan sicrhau y byddai tu hwnt i’w gyrraedd am byth, ac y byddai’n cael ei defnyddio at ei ddiben hudolus yn unig.
Felly, y tro nesaf y byddwch yn gwylio’r sêr yng Nghymru, cofiwch fod stori ynghlwm wrth bob cytser, yn aros amdanoch.