Y Ddraig Goch: Y Ddraig Goch Chwedlonol Cymru
Y Ddraig Goch:
Wrth ymweld â Chymru, rhaid chwilio am y Ddraig – symbol nerthol y genedl.
Mae’r Ddraig Goch, yn cynrychioli cryfder a mawredd cyffredinol ac mae’n greadur sy’n gysylltiedig â chwedlau diwylliannau ar draws y byd.
Yn ôl y chwedl Gymreig, mae hanes y Ddraig Goch yn ymwneud â hanes y brenin Celtaidd, Gwrtheyrn.
Wrth fynd ati i adeiladu castell mawreddog, dewisodd Gwrtheyrn fryn Dinas Emrys fel y safle delfrydol. Er hynny, waeth pa mor galed roedd ei ddynion yn gweithio, byddai seiliau’r castell yn cwympo i’r ddaear trwy ryw ryfeddod, bob nos.
Ac yntau’n ysu am gael atebion, aeth Gwrtheyrn i chwilio am eiriau doeth bachgen ifanc – tybir mai Myrddin oedd hwn, y dewin enwog o chwedlau’r Brenin Arthur. Dywedodd Myrddin wrtho fod dwy ddraig – un wen ac un coch – wedi eu cloi mewn trwmgwsg yn dilyn brwydr anferthol mewn llyn tanddaearol o dan y safle a ddewiswyd gan Gwrtheyrn.
Yn sgil cyngor Myrddin, aeth dynion Gwrtheyrn ati i gloddio i’r ddaear a darganfod y llyn cudd. Wrth i ddyfroedd y llyn gilio, deffrodd y dreigiau, yn llawn dicter ac yn barod i frwydro unwaith eto. Cafwyd brwydr arswydus a brawychus; ac wrth i’r frwydr barhau, llwyddodd y ddraig goch i ddefnyddio’r nerth oedd ganddo’n weddill, a threchu ei elyn.
Ystyriwyd fod buddugoliaeth y ddraig goch o arwyddocâd mawr, a’r ddraig yma fyddai’n cynrychioli Cymru o hyn allan. Hyd heddiw, mae’r Ddraig Goch yn addurno baner Cymru, yn arwydd o gydnerthedd a buddugoliaeth.
Gyda’r nos mae’r ddraig yn serennu ymhlith y sêr yn arwydd o fuddugoliaeth, a phob mis Hydref, bydd yn rhyddhau sêr tanllyd o’i geg ar ffurf Draconidiaid—cawod o sêr gwib sy’n dathlu nerth a mawredd parhaus.