top of page
Illustration of Maen Llia

Maen Llia

 


Mae Maen Llia yn fonolith enfawr o’r Oes Efydd sy’n sefyll mewn man cyfriniol ac ynysig ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae chwedl yn dweud pryd bynnag y bydd ceiliog yn canu, mae'r garreg yn symud i ffwrdd i yfed yn Afon Nedd. Yn ôl stori arall, mae'r garreg yn ymweld â'r Afon Mellte fore canol haf.

​

Dywed Chwedl arall fod y garreg yn mynd i lawr at yr afon, Afon Llia i yfed weithiau. Mae’r stori hon yn debygol o awgrymu bod cysgod y garreg yn cael ei daflu ar draws y bryn cyn belled â’r afon pan fo’r haul yn isel yn awyr y nos.

Pa bynnag adeg o'r dydd y cewch eich ysbrydoli i ymweld â Maen Llia byddwch yn cael eich swyno gan y maen hir trawiadol sy'n ddeuddeg troedfedd o uchder ac ar ffurf diemwnt. Mae'n gymharol hawdd dod o hyd iddo ac ymweld ag ef gan ei fod ychydig bellter o'r ffordd fach sy'n arwain o Ystradfellte yng ngwlad y Sgydau i bentref Heol Senni ac yna ymlaen i Aberhonddu.  

Mae rhai pobl yn ei ddisgrifio fel Carreg Dduwies, mae'n sicr yn gain. Wedi'i ffurfio o Hen Dywodfaen Coch gyda gwasgariad o fwsogl fe'ch denir gan ei egni chwedlonol i'w gyffwrdd. Ni ellwch farnu ei raddfa yn iawn nes nesau at ei thraed; yna rydych chi'n pendroni ar ewyllys anhygoel y bobl a'i rhoddodd yno. Mae'n 3.7m (12 troedfedd) o uchder, 2.8m (9tr) o led, ond dim ond 0.6m (2tr) o drwch. Mae'n pwyntio o'r gogledd i'r de ar hyd Dyffryn Llia. Mae’n debyg bod o leiaf chwarter i draean o’r garreg o dan y ddaear, felly mae wedi llwyddo i sefyll hyd at filoedd o flynyddoedd o dywydd gwyllt Cymreig.

​

Saif ar ei phen ei hun ar gyffordd dau gwm ac mae ei gwelededd am gryn bellter yn awgrymu y gallai fod wedi bod yn farciwr tiriogaethol. Gallai hefyd nodi llwybr hynafol ar draws y Bannau gan dywys teithwyr yn ddiogel dros y trothwy, mewn ffordd debyg i’r garreg i’r gogledd o gylch Maen Mawr ychydig dros 2 filltir i’r de. Yn y 1940au, roedd rhai arysgrifau Lladin ac Ogam gwan i'w gweld o hyd ar wyneb y garreg. Ar uchder chwedlonol o 573m credir mai dyma'r maen hir uchaf yn Ne Cymru.

Set arall o feini yfed yw'r Four Stones ger Walton, ger yr A44. Dywed pobl leol eu bod yn nodi beddau pedwar marchog a bod y cerrig yn mynd i Bwll Hindwell gerllaw i'w hyfed yn y nos.

Rhannwch eich Taith gyda ni tagiwch ni @MidWalesMyWay 

  • Instagram
  • Facebook
Logos Powys a Llywodraeth Cymru

© 2023 Canolbarth Cymru Fy Ffordd

bottom of page