Crickhowell
- Discover Powys
- Apr 23
- 3 min read
Croeso i Crug Hywel, tref fach â phersonoliaeth fawr!
Mae Crug Hywel yng nghesail trawiadol Ddyffryn Wysg, ac yng nghoflaid Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Crug Hywel yw'r math o le sy'n gwneud i chi feddwl tybed a ydych wedi baglu i gerdyn post prydferth neu set ffilm hyfryd. Ond peidiwch â chael eich twyllo gan ei hymddangosiad hyfryd, ‘bocs siocled’ – mae llond lle o bersonoliaeth a ffraethineb gan y dref sy’n cydweddu â’i phensaernïaeth Sioraidd hardd.
Anghofiwch am y ‘malls’ siopa a strydoedd siopa mawr y ddinas, mae Stryd Fawr Crug Hywel wedi ennill gwobrau a dyma’r lle perffaith am brofiad siopa gwahanol. Yma, fe welwch cybolfa hyfryd o siopau annibynnol sydd mor unigryw â'r dref ei hun. Dychmygwch siop adrannol a ddechreuodd fel gwasanaeth dosbarthu paraffin yn y 1930au ac sydd bellach yn gwerthu popeth o ddodrefn moethus i gadwyni llif. Ie, dyna chi, rydym yn sôn am Webbs, bonesig fawreddog sîn siopa Crug Hywel, lle mae ansawdd a gwasanaeth personol yn tra-arglwyddiaethu. Teimlo’n llwglyd? Mae Gwesty'r Bear, gyda'i gorneli clyd wedi bod yn perffeithio shabby chic ers cyn iddo fod yn cŵl. Bu’n croesawu teithwyr ers dros 500 o flynyddoedd gyda’i danllwyth o dân agored a'i soffas cyfforddus i’w gwneud yn fan delfrydol i ailwefru ac amsugno peth hanes lleol.

Nid gwledd i'r llygaid a hafan i siopwyr yn unig yw Crug Hywel– y mae hefyd yn dref sy'n ymfalchïo yn ei gwobrau. Cafodd ei henwi'n 'Lle Gorau i Fyw' yng Nghymru gan The Sunday Times yn 2019 a'i galw’n ‘Knightsbridge ar lannau’r Wysg’ gan The Times am ei phrydferthwch rhyfeddol. Mae Crug Hywel yn haeddu dangos ei hun. Ac eto, er gwaetha’r ffanffer, mae'n parhau i fod yn lle braf a diymhongar. Mae hyn oherwydd bod Crug Hywel wedi esblygu’n organig, heb ail-ddyfeisio’i hun dros nos. Yn lle hynny, fe ddatblygodd yn osgeiddig, fel y gwyrddni sy’n ei hamgylchynu. Gyda’r esgyniad naturiol a graddol hwn at ei henwogrwydd mae pob ymweliad â’r dref yn teimlo fel ymweliad ag adref.
Amserlen Diwrnod yng Nghrug Hywel
Bore
CRiC (Canolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crughywel)
Dechreuwch eich diwrnod yma i gael mapiau, tywyslyfrau, ac awgrymiadau lleol gan y staff cymwynasgar. Archwiliwch yr oriel gelf a chrefft a mwynhewch gwpanaid o goffi yn y caffi.
Castell Crug Hywel
Cerddwch i adfeilion Castell Crughywel, cadarnle Normanaidd o'r 13eg ganrif. Archwiliwch y tŵr dwyreiniol a rhan o'r porthdy a mwynhewch y lle gwyrdd a'r iard chwarae o'u cwmpas.
Eglwys Sant Edmwnd
Ewch i Eglwys Sant Edmwnd, sy'n adnabyddus am ei thwr tal a miniog a'i thu mewn hardd. Edmygwch henebion a delwau’r Fonesig Sybil Pauncefote a'i gŵr, Syr Grimbald.

Yn Ddiweddarach yn y Bore
Siopa ar y Stryd Fawr
Treuliwch rywfaint o amser yn crwydro Stryd Fawr wobrwyedig Crug Hywel. Peidiwch â cholli:
Webbs of Crickhowell: Siop adrannol unigryw.
Nicholls: Adnabyddus am ei ffasiwn a nwyddau amrywiol.
Natural Weigh: siop sero-wastraff gyntaf Cymru.
Ymhlith y siopau eraill mae bwtique ffordd o fyw CwCw, Book-ish, siop groser Grenfell a’i feibion a mwy.
Cinio
Cinio yng Ngwesty'r Bear
Mwynhewch lond plataid o fwyd yng Ngwesty'r Bear, tafarn hanesyddol sy'n adnabyddus am ei hawyrgylch cysurus, tân agored, a bwyd blasus.
Taith Gerdded Glan yr Afon
Ar ôl cinio, ewch am dro ar hyd y llwybr troed tua'r gogledd o bont Wysg. Mwynhewch y golygfeydd bendigedig o’r dyffryn gwyrdd a mynydd. Am dro hirach, cerddwch y lŵp 4.5 milltir drwy Ystâd Glanusk.
Camlas Mynwy ac Aberhonddu
Croeswch i bentref cyfagos Llangatwg am daith gerdded llawn golygfeydd ar hyd llwybr tynnu Camlas Mynwy ac Aberhonddu.
Parc y Castell
Ewch i Barc y Castell am seibiant ymlaciol. Mae’n bosibl y gwelwch gêm griced yn yr haf. Mwynhewch naws heddychlon a golygfeydd y parc o adfeilion Castell Crug Hywel.
Bullpit Meadow
Trowch i lawr Stryd y Bont, â’i rhes o fythynnod hyfryd o'r 18fed ganrif, i Bullpit Meadow, man gwyrdd deniadol arall ger Afon Wysg.
Gyda’r Nos
Cinio ac Ymlacio
Diweddwch eich diwrnod gyda chinio yn un o dafarndai neu fwytai hyfryd Crug Hywel.
Gwyliau a Digwyddiadau
Gŵyl y Dyn Gwyrdd
Os byddwch yn ymweld yn yr haf, peidiwch â cholli Gŵyl y Dyn Gwyrdd a gynhelir ar Ystâd Glanusk gerllaw.
Gwyliau Cerdded, Llenyddol a Cherddoriaeth Glasurol
Gwiriwch galendr digwyddiadau'r dref ar gyfer gwyliau a digwyddiadau eraill yn ystod eich ymweliad.

Hynodion a Syrpreisys
Crug Hywel: Y mynydd gwastad sy'n gorwedd dros Grug Hywel.
Arwyddocâd Hanesyddol Gwesty'r Bear: Mae ei rôl flaenorol fel arosfa’r goets fawr a'i hamserlen hanesyddol y tu mewn.
Cysylltiad Everest Syr George: Y Syrfëwr Cyffredinol a oedd yn byw yn Gwernvale.
Beddrod Siambr Neolithig: Cerrig hynafol yng Ngwesty'r Maenordy.
Pont Crug Hywel: Rhith optegol ei bwâu.
Ardal Cysgodi Glaw: Mantais hinsoddol unigryw CrugHywel.
Yorumlar