top of page

Llandrindod

  • Writer: Discover Powys
    Discover Powys
  • Apr 23
  • 3 min read

Llandrindod: Diwrnod â Naws Fictoraidd i’ch Syfrdanu a’ch Rhyfeddu

Croeso i Landrindod, lle mae oes Fictoraidd mor fyw ag erioed - ac o bryd I'w gilydd yn sipian ar ddŵr haearn! Mae troedio’r dref sba hyfryd hon fel camu i mewn i beiriant amser, ond heb y risg o baradocsau teithio amser na ffigurau hanesyddol annymunol. Yn swatio yng nghanol Canolbarth Cymru, mae’n fan lle mae gwaith haearn addurnedig a phensaernïaeth hynod yn cystadlu am eich sylw, a lle y gallai blasu’r dŵr ffynnon sy’n blasu fel hoelion wedi rhydu fod yn brofiad cyffrous (ond hei lwc, mae’n dda i chi!).

P'un a ydych chi yma i edrych ar ei hadeiladau hanesyddol crand neu i archwilio ei ryfeddodau hyfryd - fel yr orsaf reilffordd fwyaf prydferth ym Mhrydain neu'r cwrs golff gorau nad oeddech chi'n gwybod bod ei angen arnoch - mae Llandrindod yn addo diwrnod o bleserau a darganfyddiadau annisgwyl.  Felly, cydiwch yn eich het sidan, cywirwch eich crinolin, a pharatowch ar gyfer antur ecsentrig ysblennydd mewn tref a oedd yn cynrychioli pob delfryd Fictoraidd!



Bore:

Dechreuwch eich diwrnod ar Llyn Cychod hyfryd Llandrindod, ehangder tawel 14 erw sy'n berffaith ar gyfer bore hamddenol. Edmygwch y cerflun o ddraig ddŵr arswydus a mwynhewch fynd am dro o amgylch y llyn neu daith hamddenol ar gwch. Os ydych chi'n teimlo'n anturus, beth am logi beic ac chrwydro'r ardal prydferth? Peidiwch ag anghofio am adfeilion hynafol Capel Maelog gerllaw, trysor cudd yng nghanol y coed.

Nesaf, ewch i'r Amgueddfa Feicio Genedlaethol sydd wedi'i lleoli yn y Palas Automobile Art Deco nodedig. Hyd yn oed os nad ydych chi’n angerddol am feicio, mae casgliad amrywiol yr amgueddfa o feiciau - o'r Hobby Horse hynod i ryfeddodau modern - yn siŵr o’ch ddiddori.


Cinio:

Am ginio hyfryd, ewch i gaffi clyd neu fistro yng nghanol y dref. Mwynhewch amrywiaeth o brydau blasus o ffynonellau lleol a mwynhewch saib ymlaciol. Mae lleoliadau ar hyd a lled y dref yn cynnig awyrgylch cynnes ac amrywiaeth o opsiynau i bob chwaeth. 

Ar ôl cinio, beth am ymestyn eich coesau ar hyd y stryd fawr a mwynhau peth o’r arlwy yn y siopau annibynnol hudol ar Stryd Middleton, Perffaith am gipolwg funud olaf o’r siopau.


Prynhawn:

Ar ôl cinio, cerddwch draw i Amgueddfa Sir Faesyfed, lle cewch eich cludo yn ôl mewn amser gydag amrywiaeth gyfoethog o eitemau Fictoraidd cofiadwy, arteffactau lleol, ac arddangosion hanesyddol. Mae’r drysorfa hon o hanes lleol yn rhoi cipolwg byw ar orffennol Llandrindod a rhanbarth ehangach Sir Faesyfed.

Yna, ewch am dro byr i Barc y Creigiau a’r Sba. Crwydrwch drwy’r parc hyfryd hwn, sy’n llawn llwybrau troellog, gwyrddni toreithiog, a nodweddion hudolus fel casgliad o ddrysau tylwyth teg, olion traed anferth, Lover’s Leap a’r ystafell bwmpio hanesyddol. Yma, gallwch flasu’r dŵr ffynnon haearn enwog, er efallai fydd raid i chi baratoi eich hun ar gyfer ei flas unigryw!


Swper:

Am swper, ewch i un o dafarndai clyd Llandrindod, gorffwyswch yn yr heulwen yng ngerddi’r Llannerch neu gwyliwch pobl tra byddwch yn mwynhau bwyd gwych yn yr Hampton. Ble bynnag y byddwch yn dewis gallwch fod yn sicr o bryd o fwyd blasus mewn lleoliad croesawgar.


Gyda’r Nos:

Wrth i'r nos nesáu, ymgollwch yng nghuriad calon ddiwylliannol Llandrindod trwy fynd i Bafiliwn Canolbarth Cymru neu Neuadd Albert. Y lleoliadau hyn yw perlau creadigol y dref, sy’n cynnal amrywiaeth o berfformiadau sy’n arddangos talentau leol ac yn diddanu ymwelwyr gyda cherddoriaeth fyw, dramâu hudolus, neu gomedïau digri. Edrychwch ar eu hamserlenni i weld sioe sy’n apelio atoch neu sy’n asio â'ch tueddiadau artistig – dyma ble mae curiad calon diwylliannol bywiog Llandrindod yn dod yn fyw.

Ar ôl cyffro adloniant gyda’r nos, ymlaciwch wrth fynd am dro hamddenol drwy harddwch Gerddi’r Deml.. Wrth i'r cyfnos feddalu'r dirwedd, mae'r gerddi hardd hyn yn cynnig dihangfa dawel. Crwydrwch ar hyd y llwybrau troellog, mwynhewch yr awyrgylch heddychlon, a myfyriwch ar anturiaethau'r dydd yng nghanol y gwyrddni toreithiog a’r safle seindorf hyfryd. Mae’n ffordd berffaith o gloi diwrnod llawn ysblander Fictoraidd a hyfrydwch lleol, gan eich adael ag ymdeimlad o dawelwch a mymryn o swyngyfaredd.

 
 
 

Comments


Screenshot 2023-10-05 at 16.03.52.png

Send us a message
and we’ll get back to you shortly.

Thanks for submitting!

Rhannwch eich Taith gyda ni tagiwch ni @MidWalesMyWay 

  • Facebook
  • Instagram

Datganiad Hygyrchedd

© 2023 Canolbarth Cymru Fy Ffordd

Logos Powys a Llywodraeth Cymru
bottom of page