Sioeau Amaethyddol a Gwledig
Sioeau Amaethyddol a Gwledig ym Mhowys
Gallwch brofi naws ac enaid Powys trwy’r amrywiaeth o sioeau amaethyddol a gwledig bywiog a gynhelir yma. Mae’r digwyddiadau hyn yn ddathliad go iawn o fywyd gwledig, ac yn dangos ffermio, crefftau ac ysbryd cymunedol ar eu gorau. O ryfeddodau gwlân yn sioe Gwyrthwlan Cymru i ddathliadau bywiog Sioe a Charnifal Tref-y-clawdd, mae rhywbeth at ddant pawb.
Os taw’r da byw sy’n mynd â’ch bryd, neu os ydych chi’n hoffi cynnyrch lleol, neu’n chwilio am ddiwrnod allan i’r teulu cyfan, mae sioeau amaethyddol Powys yn cynnig gwledd unigryw sy’n rhoi cipolwg ichi ar gyfoeth treftadaeth a bywyd cymunedol prysur y sir.
Gallwch brofi’r traddodiadau, mwynhau bwydydd a diodydd lleol, a chymryd rhan yn y gwyliau hyn sy’n golygu fod sioeau amaethyddol a gwledig Powys yn brofiad bythgofiadwy!
CFfI Maesyfed
Gwefan: https://www.radnoryfc.org.uk/
Tref agosaf: Llandrindod Wells
Mae Clybiau Ffermwyr Ifainc Maesyfed (CFfI) wrth galon y gymuned amaethyddol, ac yn hyrwyddo sgiliau amaethyddol a bywyd gwledig. Mae eu digwyddiadau, cystadlaethau a sioeau’n ddigwyddiadau bywiog, sy’n dod â ffermwyr ifainc at ei gilydd i ddangos eu doniau ac i ddathlu treftadaeth wledig.
Sioe a Charnifal Tref-y-clawdd
Gwefan: www.facebook.com/groups/795794811792651/
Dyddiad: 24/08/2024
Lleoliad: Tref-y-clawdd LD7 1BT
Tref agosaf: Tref-y-clawdd
Mae Sioe a Charnifal Tref-y-clawdd yn ddigwyddiad llawn hwyl sy’n cyfuno arddangosfeydd amaethyddol gyda chyffro’r carnifal. Gallwch fwynhau’r ddau fyd ar eu gorau, gyda chystadlaethau da byw, stondinau crefftau, ac awyrgylch fywiog y carnifal - perffaith ar gyfer diwrnod allan i’r teulu cyfan.
Sioe Aberriw
Dyddiad: 24/08/2024
Gwefan: https://www.berriewshow.com/
Lleoliad: Upper Rectory, Aberriw, Y Trallwng SY21 8AN,
Tref agosaf: Y Trallwng
Mae Sioe Aberriw yn achlysur lleol hudolus, sy’n dathlu bywyd gwyllt gydag arddangosfeydd o dda byw, cystadlaethau garddwriaethol, a chrefftau traddodiadol. Mae’n ffordd wych i brofi ysbryd y gymuned a threftadaeth amaethyddol y pentref deniadol hwn.
Cymdeithas Sioe Amaethyddol Llangynidr
Dyddiad: 25/08/2024
Gwefan: https://www.llangynidrshow.org/
Lleoliad: Neuadd Bentref Llangynidr a’r Caeau cyfagos NP8 1L
Tref agosaf: Crughywel
Mae Sioe Llangynidr yn gymysgedd hyfryd o arddangosfeydd amaethyddol a gweithgareddau cymunedol. Yn amrywio o dda byw rhagorol i grefftaua chynnyrch lleol, mae’n dangos cyfoeth traddodiadau amaethyddol a balchder cymunedol y pentref.
Sioe Arddwriaethol a Chwaraeon Llanfechain
Dyddiad: 26/08/2024
Lleoliad: Parc Bodfach, Llanfyllin
Tref agosaf: Llanfyllin
Mae’r digwyddiad hwn yn gyfuniad o ragoriaeth arddwriaethol a hwyl campau amrywiol. Ceir yma cynnyrch garddio, arddangosfeydd o flodau, ac amrywiaeth o gystadlaethau chwaraeon - dathliad bywiog o fywyd gwledig ac ysbryd cymunedol Llanfechain.
Ffair Hydref Canolbarth Cymru
Dyddiad: 5-6/10/2024
Gwefan: https://midwalesautumnfayre.co.uk/
Lleoliad: Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair ym Muallt, LD2 3SY
Tref agosaf: Llanfair ym Muallt
Mae Ffair Hydref Canolbarth Cymru’n ddathliad tymhorol o gynnyrch, crefftau a bywyd gwledig lleol. Mae’n cynnwys stondinau amrywiol, arddangosfeydd bwyd, a gweithgareddau i’r teulu, ac yn cyfleu hanfod tymor yr hydref yng Nghanolbarth Cymru.
Nid digwyddiadau’n unig yw sioeau amaethyddol a gwledig Powys; maent yn ddathliadau bywiog o dreftadaeth wledig ac ysbryd y gymuned. Os taw unigolyn lleol neu ymwelydd ydych, mae’r sioeau hyn yn cynnig cipolwg unigryw ar galon ac enaid yr ardal.
Ffair Aeaf CAFC
Dyddiad: 25-26/11/2024
Gwefan: https://rwas.wales/winter-fair/
Lleoliad: Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair ym Muallt, LD2 3S
Tref agosaf: Builth Wells
Mae’r Ffair Aeaf yn arddangos cynnyrch amaethyddol Cymru ar ei orau, ac yn cyfuno’r da byw, bwyd a chrefftau gorau wrth ddathlu tymor y gaeaf. Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru sy’n ei threfnu, a dyma un o uchafbwyntiau’r flwyddyn ar gyfer ffermwyr ac ymwelwyr, lle cynigir awyrgylch gynnes a Nadoligaidd.
Gwyrthwlan Cymru
Dyddiad: 26-27/04/2025
Gwefan: https://www.wonderwoolwales.co.uk/
Lleoliad: Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair ym Muallt, LD2 3SY
Tref agosaf: trallwng
Mae Gwyrthwlan Cymru yn dathlu gwlân ym mhob ffordd posibl. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn hanfodol ar gyfer pobl sy’n frwdfrydig am ffibr, oherwydd mae’n dangos popeth o ddillad a wnaethpwyd â llaw i grefftau cain. Mae’n adlewyrchiad bywiog o allu creadigol a thraddodiad, ac yn denu unigolion sy’n hoff o wlân o bedwar ban byd.
Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad CAFC
Dyddiad: 17-18/05/2025
Gwefan: https://rwas.wales/smallholding-and-countryside-festival/
Lleoliad: Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair ym Muallt, LD2 3SY
Tref agosaf: Llanfair ym Muallt
Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad Cymru, sy’n cael ei threfnu gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn ddathliad bywiog o fywyd gwledig, ac yn cynnwys da byw, crefftau, stondinau bwyd a gweithgareddau ar gyfer y teulu. Mae’n nodi dechrau tymor y sioeau amaethyddol, gyda gwledd o egni a chyffro’r gwanwyn.
Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC)
Dyddiad: 21-24/07/2025
Gwefan: https://rwas.wales/royal-welsh/
Lleoliad: Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair ym Muallt, LD2 3SY
Tref agosaf: Llanfair ym Muallt
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru’n enwog am ei digwyddiadau bendigedig, gan gynnwys Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad a’r Ffair Aeaf. Y digwyddiadau hyn yw rhai o uchafbwyntiau’r calendr amaethyddol, ac yn cynnwys cystadlaethau da byw, stondinau masnach, a gweithgareddau sy’n addas i’r teulu. Maent yn dystiolaeth o ragoriaeth amaethyddol a bywyd gwledig llewyrchus Cymru.
Cymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog
Dyddiad: tbc
Gwefan: https://www.breconcountyshow.co.uk/
Lleoiad: Maes y Sioe, Watton, Aberhonddu LD3 7PL
Tref agosaf: Aberhonddu
Mae Cymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog, sydd â’i gwreiddiau’n ddwfn yn y gymuned, yn trefnu un o sioeau amaethyddol mwyaf poblogaidd yr ardal. Mae’n dathlu ffermio lleol, ac yn cynnig arddangosfeydd o dda byw, digwyddiadau i geffylau ac amrywiaeth o stondinau sy’n dathlu cynnyrch a chrefftau lleol.