Llenyddiaeth Diwylliant a threftadaeth
Ymgolli’ch hunan yng Nghyfoeth Llenyddol a Diwylliannol Powys
Croeso i Bowys, lle mae straeon y canrifoedd yn llenwi’r mynyddoedd, ac ymddengys fod pob tref yn deillio o nofel hudolus. Nid yn unig gwledd i’r llygaid yw’r rhanbarth hon ond hefyd maes chwarae ar gyfer y meddwl a’r enaid, yn gyfoeth o sîn llenyddol a diwylliannol mor gynnes â siwmper merino Cymreig a dwywaith mor glyd.
Ym Mhowys mae llenyddiaeth yn fwy na gweithgaredd hamdden - mae’n ffordd o fyw. Yma gall caffi lleol fod hefyd yn glwb llyfrau, a lle mae sgyrsiau’n troi’n ddadleuon barddonol yn hollol ddiymdrech. Y naws yma yw cwmnïaeth ddeallusol gyda chymysgedd o flas lleol sy’n golygu fod pob cynulliad sy’n gysylltiedig â llyfrau yn teimlo fel parti hyfryd lle mae pawb yn cael gwahoddiad.
Mae’r sîn diwylliannol yr un mor hudolus, gyda naws o ddathlu a hiraeth. Gallwch fwynhau amrywiaeth o draddodiadau gydag agweddau cyfoes, lle mae chwinciad a gwên yn anrhydeddu’r gorffennol. Lle yw lle gallwch ddod ar draws ffair grefftau traddodiadol a chael eich ysbrydoli gan gyfuniad o sgiliau’r oesoedd a fu a chreadigrwydd cyfoes.
Ac ni ddylid anghofio hud hanesyddol Powys, sy’n teimlo fel camu i lyfr stori byw. Mae’r awyrgylch yn gyfoeth o hanesion y gorffennol, ond gyda naws bywiog, fel pe bai’r gorffennol a’r presennol yn cymryd rhan mewn sgwrs gyfeillgar. Yma, nid yw archwilio safleoedd treftadaeth yn brofiad addysgol yn unig — mae’n debyg i ymuno â helfa drysor hanesyddol gydag ychydig o hud lleol ar yr ochr.
Felly os byddwch am fentro i drafodaeth lenyddol, mwynhau dathliadau diwylliannol neu fanteisio ar yr awyrgylch hanesyddol, mae Powys yn estyn gwahoddiad ichi brofi cyfuniad unigryw o hwyl, y clyfar ac apêl ddiamser.
Penwythnos 1940au’r Trallwng
Gwefan: https://welshpool1940sweekend.co.uk/
Dyddiad: 27-29 Medi 2024
Lleoliad: Y Trallwng
Tref agosaf: Y Trallwng
Mae Penwythnos 1940au’r Trallwng yn gyfle i gamu nôl i’r cyfnod hwnnw, gŵyl unigryw sy’n trawsnewid y dref yn gipolwg bywiog ar Brydain adeg y rhyfel. Mae’r digwyddiad yn ddathliad bywiog o’r 1940au, sy’n cynnwys cerddoriaeth y cyfnod, dawns, ffasiwn ac ailgreadau sy’n dod â’r cyfnod hwnnw’n fyw. Gall ymwelwyr fwynhau marchnadoedd o dras, arddangosiadau o gerbydau milwrol, ac adloniant dilys o gyfnod y rhyfel. Mae’n ddigwyddiad hwyl ac addysgol sy’n tynnu sylw at wydnwch ac ysbryd y gymuned yn ystod y 1940au, gan gynnig ffordd unigryw i gysylltu â’r gorffennol a mwynhau hud Y Trallwng.
Ymddiriedolaeth Castell Y Gelli
Gwefan: https://www.haycastletrust.org/
Dyddiadau: Amrywiol
Lleoliad: Castell Y Gelli, Heol Rhydychen, Y Gelli Gandryll, HR3 5DG
Tref agosaf: Hay on Wye
Mae Ymddiriedolaeth Castell Y Gelli wrth galon diogelu ac adfywio un o dirnodau hanesyddol mwyaf arwyddocaol Cymru. Yng nghanol tref Y Gelli Gandryll sy’n enwog am ei chysylltiad gyda llyfrau, mae’r castell yn sefyll yn dystiolaeth o ganrifoedd o hanes, ac erbyn hyn mae wedi bod yn destun gwaith adfer ac ailwampio rhagorol fel hwb diwylliannol. Mae’r Ymddiriedolaeth yn cynnig ystod o weithgareddau, gan gynnwys arddangosfeydd, teithiau a digwyddiadau i ddarganfod treftadaeth gyfoethog y castell a’r dref ei hun. Gyda chyfuniad o hanes, pensaernïaeth a rhaglennu diwylliannol cyfoes, mae Ymddiriedolaeth Castell Y Gelli’n cynnig profiad unigryw a hynod ddiddorol i ymwelwyr o bob oed.
Rhwydwaith Stori Aberhonddu
Lleoliad: Amrywiol - Aberhonddu
Gwefan: https://breconstory.wales/home
Tref agosaf: Aberhonddu
Menter wych yw Rhwydwaith Stori Aberhonddu sy’n canolbwyntio ar gelfyddyd dweud straeon, ac yn dod â bywyd i’r cyfoeth o hanes lleol a chwedlau. Lleolir y fenter yng nghanol Aberhonddu, ac mae’r rhwydwaith yn dod â storïwyr, haneswyr ac unigolion brwdfrydig at ei gilydd er mwyn rhannu straeon sy’n gafael yn y dychymyg. Trwy gyfres o ddigwyddiadau, gweithdai a chynulliadau, mae Rhwydwaith Stori Aberhonddu’n diogelu ac yn hyrwyddo’r traddodiadau llafar a drosglwyddwyd o genhedlaeth i genhedlaeth. Mae’n ffordd wych i gysylltu â threftadaeth ddiwylliannol Aberhonddu, ac i glywed y straeon sy’n troi’r gorffennol yn fyw.
Gwyrthwlan Cymru
Gwefan: https://wonderwoolwales.co.uk/
Dyddiad: 26-27 Ebrill 2025
Lleoliad: Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd, Llanfair ym Muallt LD2 3SY
Tref agosaf: Llanfair ym Muallt
Gwyrthwlan Cymru yw’r dathliad gorau oll o bopeth a wneir o wlân ac yn achlysur gwych, a gynhelir yn flynyddol ar safle bendigedig Maes y Sioe Frenhinol tu allan i Lanfair ym Muallt. Mae’r ŵyl fywiog hon yn dangos y gorau o ran cynnyrch a ffibrau naturiol gwlân Cymreig a Phrydeinig, sy’n denu nyddwyr, gwehyddwyr, pobl sy’n gweu ac yn ffeltio o bell ac agos. Gydag amrediad anhygoel o stondinau, arddangosiadau a gweithdai, gall ymwelwyr ymgolli yn y cyfoeth o dreftadaeth o ran crefftau gwlân. Boed yn grefftwr profiadol neu ar gychwyn eich gweithgaredd, mae Gwyrthwlan Cymru’n cynnig ysbrydoliaeth, addysg a naws cymunedol clyd i bawb sy’n bresennol.
Gŵyl y Gelli
Gwefan: https://www.hayfestival.com
Dyddiad: 22 May–1 June 2025
Lleoliad: Y Gelli Gandryll
Tref agosaf: Y Gelli Gandryll
Mae Gŵyl y Gelli, a gyfeirir ato hefyd yn aml fel "Woodstock y meddwl," yn ŵyl lenyddol fyd-enwog a gynhelir yn flynyddol yn nhref swynol Y Gelli. Mae’r achlysur bywiog yn denu llenorion, meddylwyr a darllenwyr o bedwar ban byd er mwyn cymryd rhan mewn trafodaethau, darlleniadau a dadleuon sy’n delio gydag ystod eang o bynciau. O ffuglen a gweithiau ffeithiol i farddoniaeth a gwleidyddiaeth, mae Gŵyl y Gelli’n cynnig rhywbeth i ddant pawb. Gyda chefnlen cefn gwlad fendigedig Cymru, mae’n ddathliad o syniadau a chreadigrwydd sy’n ysbrydoli ac yn swyno cynulleidfaoedd o bob oed.
Gŵyl Lenyddol Trefaldwyn
Dyddiad: 6-8 Mehefin 2025,
Lleoliad: Trefaldwyn
Gwefan: https://montylitfest.com/
Tref agosaf: Trefaldwyn
Mae Gŵyl Lenyddol Trefaldwyn yn ddathliad swynol o lenyddiaeth a leolir yn nhref hanesyddol Trefaldwyn. Mae’r ŵyl yn dod ag awduron, beirdd a darllenwyr at ei gilydd ar gyfer penwythnos o bleserau llenyddol, megis darlleniadau, gweithdai a thrafodaethau sy’n darparu ar gyfer pobl o bob oed a diddordeb. Cynhelir yr ŵyl mewn lleoliadau henaidd amrywiol o gwmpas y dref, ac mae’n cynnig lleoliad clos i bobl sy’n caru llyfrau ymgysylltu â llenorion a’i gilydd. Mae’n ddigwyddiad ysbrydoledig sy’n meithrin cariad tuag at lenyddiaeth a naws cymunedol, a hynny oll gyda chefnlen hudolus tref Trefaldwyn.