top of page
Untitled (Poster (A3 Landscape)) (27).png

Awyr agored ac antur

2.png

Ydych chi’n barod i snorcelu mewn cors, rhedeg a rasio ceffyl, neu ddilyn llwybrau sy’n ail-ddiffinio ystyr ‘llwybr golygfaol"? Mae Powys yn cynnig maes chwarae o wefrau sy’n achosi i hyd yn oed anturwyr mwyaf beiddgar godi ei haeliau. Felly paciwch eich pethau, gafaelwch yn yr anturiwr mewnol a byddwch yn barod ar gyfer reid wyllt trwy dirweddau sy’n cyfuno cyffro sy’n gwneud i’r galon guro a harddwch heb ei ail.

Ym Mhowys, yr unig beth mwy anturus na’r gweithgareddau yw ysbryd y sawl sy’n beiddio eu herio.

Gadewch i’r antur gychwyn

1.png

Cerdded Talgarth


Gwefan: https://www.talgarthwalkingfestival.org/
Tref agosaf: Talgarth

 

Caewch eich careiau, a byddwch yn barod i ddarganfod harddwch golygfaol Talgarth, tref sy’n gyfeillgar i gerddwyr gyda llwybrau ar gyfer unigolion ar bob lefel. Boed hynny’n golygu mynd am dro hamddenol neu heic i’ch herio, mae’r tirweddau trawiadol a’r gymuned sydd mor barod ei chroeso yn ei gwneud yn llecyn perffaith ar gyfer pobl sy’n frwdfrydig am yr awyr agored.

1.png
2.png

Adrenaline Sporting Events


Gwefan: https://www.adrenalinesportingevents.co.uk/
Tref agosaf: Llyn Efyrnwy

 

Bydd cyfle i’r galon guro diolch i ‘Adrenaline Sporting Events’, sy’n cynnig ystod o gystadlaethau egni uchel. O driathlon i redeg llwybrau, diben y digwyddiadau hyn yw eich gwthio i’r eithaf a chynnig rhuthr bythgofiadwy.

Limitless Trails


Gwefan: www.limitlesstrails.co.uk
Tref agosaf: Amrywiol 

 

Cyfle i gychwyn ar anturiaethau rhedeg llwybrau epig gyda ‘Limitless Trails’. Mae’r digwyddiadau hyn yn eich tywys trwy rai o ardaloedd mwyaf aruthrol a heriol ym Mhowys, perffaith ar gyfer rhedwyr sydd am brofi ei dygnwch a mwynhau’r awyr agored godidog.

3.png
4.png

Clwb Moduro Rhaeadr Gwy


Gwefan: https://www.rdmcc.co.uk/
Tref agosaf: Rhaeadr Gwy 

 

Ymunwch â gweithgareddau Clwb Moduro Rhaeadr Gwy, lle daw unigolion brwdfrydig ynghyd ar gyfer digwyddiadau a chystadlaethau gwefreiddiol. Gyda ffocws ar weithgareddau beiciau modur oddi ar y ffordd, mae’r clwb yn cynnig rasys cyffrous a chymuned beicio fywiog.

Drover Cycles


Gwefan: https://www.drovercycles.co.uk/
Tref agosaf: Y Gelli Gandryll 

 

Cyfle i feicio trwy dirweddau trawiadol Powys gyda ‘Drovers Cycles’. Os taw beiciwr profiadol ydych neu’n mwynhau beicio’n achlysurol, maent yn cynnig teithiau a llwybrau sy’n dangos harddwch naturiol a thirweddau heriol y rhanbarth.

5.png
6.png

Run Walk Crawl


Gwefan: https://www.runwalkcrawl.co.uk/
Tref agosaf: amrywiol 

 

Cyfle i herio’ch hunan gyda llwybrau gwydnwch eithafol gyda ‘Run Walk Crawl’. Mae’r digwyddiadau hyn yn cyfuno rhedeg, cerdded a chropian ar hyd llwybrau heriol, sy’n gwthio cyfranogwyr hyd eithaf eu trothwyon corfforol a meddyliol.

Dyn v Ceffyl


Gwefan: https://www.green-events.co.uk/?mvh_main
Tref agosaf: Llanwrtwd

 

Cyfle i brofi’ch stamina mewn ras unigryw Dyn v Ceffyl, lle bydd rhedwyr yn cystadlu yn erbyn ceffylau dros dir heriol. Mae’r digwyddiad anghyffredin a heriol hwn yn brawf gwirioneddol o wydnwch ac ysbryd.

7.png
8.png

Snorcelu Cors


Gwefan: https://www.green-events.co.uk/world-bog-snorkelling-championships
Tref agosaf: Llanwrtwd

 

Yn nhref Llanwrtyd, gallwch roi cynnig ar y gamp anarferol o snorcelu corsydd. Mae’r digwyddiad anghyffredin hwn yn golygu snorcelu trwy ffos llawn dŵr mewn cors mawn, sy’n cyfuno hwyl, llaid a bod ychydig yn wallgof!

Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt


Gwefan: https://www.montwt.co.uk/
https://www.rwtwales.org/
https://www.welshwildlife.org/
Tref agosaf: Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed, De a Gorllewin Cymru


Beth am ddarganfod rhyfeddodau Powys trwy’r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt. Gallwch gymryd rhan mewn gwylio bywyd gwyllt, teithiau cerdded ar thema natur, a gweithgareddau cadwraeth sy’n tynnu sylw at y cyfoeth o fioamrywiaeth yn yr ardal.

9.png
10.png

Prosiect Gweilch Dyfi


Gwefan: https://www.dyfiospreyproject.com/
Lleoliad: Gwarchodfa Natur Cors Dyfi, Derwenlas, Machynlleth, Powys, SY20 8SR
Tref agosaf: Machynlleth

 

Cyfle i ymweld â Phrosiect Gweilch Dyfi er mwyn gweld yr adar godidog hyn yn eu cynefin naturiol. Mae’r prosiect yn cynnig teithiau dan arweiniad a llwyfannau gwylio, sy’n darparu profiad unigryw ac addysgol ar gyfer pobl sy’n caru natur.

Gŵyl Gerdded Crughywel


Gwefan: https://www.crickhowellfestival.com/
Tref agosaf: Crughywel 

 

Ymunwch â Gŵyl Gerdded Crughywel er mwyn dathlu popeth sy’n gysylltiedig â heicio. Gyda theithiau cerdded dan arweiniad, cyflwyniadau a gweithgareddau mae’r ŵyl hon yn berffaith ar gyfer unigolion sy’n frwdfrydig am gerdded i archwilio’r ardal drawiadol yn ymyl Crughywel.

11.png
bottom of page