top of page
Search

Darganfod Hud Powys yn ystod mis Gorffennaf: Digwyddiadau ac Atyniadau Clodwiw



Ym mis Gorffennaf eleni, bydd Powys yn llawn bwrlwm gydag amrywiaeth o weithgareddau a gwyliau sy’n addo swyno pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. O alawon cydseiniol gŵyl gôr i Sioe Frenhinol Cymru benigamp, dyma ganllaw i’r pethau gorau i’w gwneud a’u gweld ym Mhowys y mis hwn.


Mae yna rywbeth at ddant pawb. P’un a ydych chi’n hoff o gerddoriaeth, yn frwd dros chwaraeon, neu’n rhywun sy’n mwynhau dathliadau diwylliannol, Powys ym mis Gorffennaf yw’r lle i fod. Ewch ati i nodi’ch calendrau, pacio’ch bagiau, a pharatoi i greu atgofion bythgofiadwy yn y rhan swynol hon o Gymru.


Ydych chi wedi mynd i unrhyw un o’r digwyddiadau hyn o’r blaen? Rhannwch eich profiadau a rhowch wybod i ni at ba ddigwyddiad rydych chi’n edrych ymlaen eleni!





Heart of Wales 7s Dyddiadau: Gorffennaf 5-7, 2024

Roedd Gŵyl ‘Heart of Wales 7s’ (Creative Rugby 7s yn wreiddiol) yn deillio o’r awydd i ddod â phrofiad parti a chwarae o’r radd flaenaf i Gymru gyfan. Ers ei sefydlu yn 2015, mae’r ŵyl wedi tyfu’n sylweddol, gan ychwanegu chwaraeon ac adloniant newydd bob blwyddyn. Mae 2024 yn argoeli i fod yr ŵyl fwyaf a gorau eto, gydag amrywiaeth o ychwanegiadau newydd cyffrous:

Uchafbwyntiau: • Twrnameintiau rygbi saith bob ochr i ddynion a menywod, gan gynnwys categorïau elitaidd. • Rygbi Cyffwrdd Cymysg, Rygbi Gallu Cymysg, a Phencampwriaethau Cymru ar gyfer Tynnu’r Gelyn. • Chwaraeon newydd: Rownders, dartiau, a bydd hoci yn dychwelyd. • Gŵyl gerddoriaeth gyda rhaglen amrywiol (manylion ar gael ar gyfryngau cymdeithasol a gwefan yr ŵyl).• Atyniadau arbennig: Tîm Arddangos Parasiwt Jump Dogs, ac Oriel Anfarwolion •

Lleoliad: Llanidloes

Tocynnau: Ychydig o docynnau ar ôl, ar gael ar wefan Heart of Wales 7s.


Mae lleoliad Llanidloes bron union yng nghanol Cymru, yn gyfrifol am lawer o’i gymeriad. Tref a seilir ar groesffyrdd yw, yng nghanol gwlad odidog a mynyddog y gororau a ‘Chymru Wyllt’ gyda threftadaeth wledig - a diwydiannol, sydd yn dipyn o syrpreis.


Mae’r dylanwadau amrywiol hyn yn amlwg ym mhensaernïaeth y dref, sy’n amrywio o hanner coediog du a gwyn (sy’n nodweddiadol o wlad y gororau) i arddull addurnol Victoriaidd.

Dysgwch fwy am Lanidloes yma: https://www.midwalesmyway.com/cy/llanidloes





Carnifal Llanandras Dyddiad: Gorffennaf 13, 2024

Mae Carnifal Llanandras yn ddathliad bywiog a lliwgar sy’n dal ysbryd cymunedol Powys. Mae’r carnifal yn cynnwys gorymdaith, adloniant byw, a gweithgareddau amrywiol sy’n addas i’r teulu, gan ei wneud yn ddiwrnod perffaith i fwynhau mas draw.

Uchafbwyntiau: Parêd, gwerthwyr bwyd lleol, perfformiadau byw, a gweithgareddau i blant.

Lleoliad: Lleoliadau amrywiol o gwmpas Llanandras.

Tocynnau: Am ddim i bawb.


Mae lleoliad Llanandras ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr wedi bod yn safle terfysglyd dros y canrifoedd – er, y dyddiau hyn, mae’n sicr yn sefyll ar ochr Gymreig y ffin. Gyda’r hanes gwrthdaro ymhell yn y gorffennol, erbyn heddiw mae’n dref fach fywiog, gyda naws gelfyddydol unigryw yn perthyn iddi. Mae ei gorffennol fel canolfan masnachol a gweinyddol wedi gadael cyfoeth o adeiladau hanesyddol, sydd yn rhan o un o’r strydoedd mawr mwyaf pert y dewch ar eu traws ar hyd a lled y DU.

Dysgwch fwy am Lanandras yma: https://www.midwalesmyway.com/cy/presteigne





Gŵyl Gorawl Aberhonddu Dyddiadau: Gorffennaf 18 - 21, 2024

I’r rheiny sy’n caru cerddoriaeth gorawl, dyma’r digwyddiad i chi! Mae Gŵyl Gorawl Aberhonddu yn cynnwys cyfres o gyngherddau a gweithdai a gynhelir yn nhref hanesyddol Aberhonddu. Daw corau o bob rhan o Gymru a thu hwnt at ei gilydd er mwyn perfformio repertoire eang, o ddarnau clasurol i ganeuon cyfoes.

Uchafbwyntiau: Perfformiadau gan gorau lleol a rhyngwladol, gweithdai i’r llais, ac ymddangosiadau arbennig gan berfformwyr gwadd.

Lleoliad: Lleoliadau amrywiol o amgylch Aberhonddu.

Tocynnau: Ewch i wefan Gŵyl Gorawl Aberhonddu am fwy o wybodaeth ac i brynu tocynnau.


Tref farchnad hollol gyfoes yw Aberhonddu, sy’n sefyll yng nghalon Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ochr yn ochr â phensaernïaeth Sioraidd odidog, treftadaeth ganoloesol a hanes milwrol, yma ceir cymuned egnïol lle mae orielau, theatr, cerddoriaeth fyw ac amgueddfeydd yn rhan o’r bwrlwm diwylliannol. Dysgwch fwy am Aberhonddu yma: https://www.midwalesmyway.com/cy/brecon





Carnifal Rhaeadr Dyddiadau: 16-23 Gorffennaf, 2024

Un o uchafbwyntiau’r haf yn Rhaeadr Gwy yw Carnifal Rhaeadr, gan ddod â’r gymuned gyfan ynghyd am wythnos o hwyl a dathliadau. Mae’r carnifal yn cynnwys gorymdaith fywiog drwy’r dref, cerddoriaeth fyw, perfformiadau, ac amrywiaeth o stondinau a gweithgareddau.

Uchafbwyntiau: Gorymdaith fawr, adloniant byw, gemau, a gwerthwyr bwyd lleol. • Lleoliad: Lleoliadau amrywiol o amgylch Rhaeadr Gwy.

Tocynnau: Am ddim i bawb


Yn borth i Gwm Elan, ardal o harddwch eithriadol, mae Rhaeadr Gwy yn denu cerddwyr, beicwyr a phobl sy’n mwynhau’r awyr agored. Ond peidiwch â rhuthro o’ma. Mae’n dref llawn bywyd gyda naws wledig a bohemaidd, sy’n unigryw, ac mae’n werth treulio amser yn y dref ei hun.

Dysgwch fwy am Raeadr Gwy yma: https://www.midwalesmyway.com/cy/rhayader





Sioe Frenhinol Cymru Dyddiadau: Gorffennaf 22 - 25, 2024 Mae Sioe Frenhinol Cymru yn un o ddigwyddiadau amaethyddol mwyaf arwyddocaol y DU, gan ddenu ymwelwyr o bob rhan o’r byd. Mae’r digwyddiad, sy’n para pedwar diwrnod ac sy’n cael ei gynnal yn Llanfair-ym-muallt, yn cynnig cipolwg unigryw ar fywyd cefn gwlad, gyda llu o weithgareddau i bawb.

Uchafbwyntiau: Cystadlaethau da byw, digwyddiadau ceffylau, stondinau crefft, arddangosfeydd bwyd a diod, a cherddoriaeth fyw.

Lleoliad: Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-muallt,

Tocynnau: Tocynnau ‘diwrnod yn unig’ neu ‘aml-ddiwrnod ar gael ar-lein


Peidiwch â gadael i’r enw eich twyllo. Ar y cyd â threfi cyfagos eraill, ‘Y Ffynhonnau’ (Llandrindod, Llangammarch a Llanwrtyd), mae dyddiau Llanfair ym Muallt fel un o drefi’r ffynhonnau wedi hen fynd. Heddiw, tref fach brysur yw, sy’n gwasanaethu’r gymuned ffermio leol ac ymwelwyr, sy’n cael eu synnu i ddarganfod cyfleoedd siopa llewyrchus a llu o gaffis sy’n herio nifer o ardaloedd trefol, gyda’r bonws o deithiau cerdded bendigedig ar hyd glannau Afon Gwy.


Dysgwch fwy am Lanfair-ym-muallt yma: https://www.midwalesmyway.com/cy/builthwells


Darganfod harddwch Powys Wrth fynd i’r digwyddiadau gwych hyn, beth am gymryd yr amser i archwilio harddwch naturiol a safleoedd hanesyddol Powys. Dyma rai awgrymiadau:

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: Yn wych ar gyfer heicio, beicio a gwylio bywyd gwyllt.

Castell a Gerddi Powis: Castell godidog gyda gerddi hyfryd, perffaith ar gyfer diwrnod o archwilio.

Cwm Elan: Yn adnabyddus am ei dirweddau prydferth a’i argaeau – mae’n lle gwych ar gyfer ffotograffiaeth a bwyta picnic.

Llyn Efyrnwy: Mwynhewch hwylio, gwylio adar, a theithiau cerdded gwych o amgylch y llyn hardd hwn 






コメント


bottom of page