gŵyl gerddoriaeth a chelfyddydau
Darganfod Curiad calon Cerddorol ac Artistig Powys
Croeso i Bowys, lle mae tirweddau trawiadol Cymru’n cyfateb i guriadau bywiog a chreadigrwydd y gerddoriaeth a’r sîn celfyddydau perfformio. Yng nghanol bryniau bendigedig, cestyll hynafol a threfi hudolus, mae Powys yn fwy na gwledd i’r llygaid yn unig; mae’n symffoni i’r enaid yn ogystal - ac weithiau’n glwb comedi ar gyfer y penelin.
Ardal lle gall cynlluniau’r penwythnos gynnwys unrhyw beth o chwerthin nes byddwch yn crïo mewn gŵyl gomedi yn y Mynyddoedd Duon, i gael eich cludo i’r gorffennol gan Ŵyl Fale Aberhonddu a’i symudiadau gosgeiddig. Yma ym Mhowys, mae creadigrwydd i’w ddarganfod ar gornel pob stryd, ac mae pob gŵyl yn gyfle i brofi rhywbeth bythgofiadwy.
Mae pob gŵyl unigol yn ddathliad unigryw, sy’n dod â doniau lleol a sêr rhyngwladol ynghyd. Os taw jazz sy’n mynd â’ch bryd, neu gerddoriaeth glasurol, neu rywun sy’n mwynhau chwerthin llond eich bol ydych chi, mae Powys yn cynnig digwyddiad i’ch diddanu. Beth am fwynhau’r seidr yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, gan ymlacio i alawon indi, neu ystyried cwestiynau mawr bywyd yn HowTheLightGetsIn, gŵyl fwyaf y byd ym maes athroniaeth a cherddoriaeth.
Nid mater o gael eich diddanu’n unig yw’r ffocws ym Mhowys, ond yn hytrach dod yn rhan o gymuned sy’n ffynnu ar brofiadau cyffredin a phleser y darganfod. Mae rhyfeddod artistig a hwyl wirioneddol yn dod ynghyd ym Mhowys, boed hynny’n golygu dawnsio yn y caeau, chwerthin yn yr eiliau, neu gael eich swyno gan berfformiad dramatig.
Felly bachwch eich calendr a’ch naws am fentro, ac ymunwch â ni ar gyfer taith ddiwylliannol fythgofiadwy. Mae’r llwyfan yn barod, mae’r goleuadau wedi’u cynnau, yr unig beth sydd ei eisiau yw chi!
Canolfan Celfyddydau Wyeside
Gwefan: https://www.wyeside.co.uk/
Dyddiad: Amrywiol
Lleoliad: Canolfan Celfyddydau Wyeside, Stryd y Castell, Llanfair ym Muallt LD2 3BN
Tref agosaf: Llanfair ym Muallt
Yng Nghanolfan Celfyddydau Wyeside, mae diwylliant a chreadigrwydd yn dod yn fyw yn lleoliad hudolus Llanfair ym Muallt. Mae’r lleoliad poblogaidd hwn yn cynnig cymysgedd eclectig o gerddoriaeth a gwyliau celfyddydau perfformio trwy gydol y flwyddyn. Os taw drama ddramatig, cyngerdd sy’n gwneud lles i’r enaid, neu ffilm sy’n gwneud ichi feddwl
sy’n mynd â’ch bryd chi, mae Canolfan Celfyddydau Wyeside yn cynnig rhywbeth i bob unigolyn sy’n frwdfrydig am ddiwylliant. Mae’r awyrgylch glos a hud hanesyddol y ganolfan yn golygu fod pob digwyddiad yn achlysur bythgofiadwy, sy’n denu artistiaid a chynulleidfaoedd o bell ac agos.
Neuadd Albert
Gwefan: https://thealberthall.co.uk/
Dyddiad: Amrywiol
Lleoliad: Neuadd Albert, Heol Eithon, Llandrindod LD1 6AS
Tref agosaf: Llandrindod
Mae Neuadd Albert Llandrindod yn llwyfan urddasol ar gyfer amrywiaeth o wyliau cerddorol a chelfyddydau perfformio. Mae’n enwog am ei phensaernïaeth drawiadol a’r acwsteg ragorol, mae’r lleoliad hanesyddol hwn yn hwb diwylliannol sy’n cynnal popeth o gyngherddau clasurol i berfformiadau dawns cyfoes. Mae pob gŵyl a gynhelir yn Neuadd Albert yn dystiolaeth i’w ymrwymiad i ragoriaeth artistig ac ymgysylltu â’r gymuned. Os byddwch wedi hen arfer mynd i gyngherddau, neu ar fin darganfod yr adloniant yma, mae’r rhaglenni bywiog a’r perfformiadau o’r radd flaenaf yn eich diddanu ac yn eich llenwi gydag ysbrydoliaeth.
Jazz Aberhonddu
Gwefan: https://breconjazz.org/
Dyddiad: Dydd Gwener 9 Awst - Sul 11 Awst 2024
Lleoliad: Aberhonddu
Tref agosaf: Aberhonddu
Jazz Aberhonddu yw un o gonglfeini cylch gwyliau jazz y DU, sy’n denu cerddorion diguro a phobl sy’n frwdfrydig am jazz i dref ddeniadol Aberhonddu. Mae’r ŵyl eiconig yma, a gynhelir bob mis Awst, yn trawsnewid y dref yn hafan ar gyfer pobl sy’n caru jazz, gyda pherfformiadau’n cynnwys jazz traddodiadol, dehongliadau cyfoes a phopeth yn y canol. Bydd y strydoedd yn dod yn fyw i sain sacsoffonau hudolus, trympedi bywiog a lleisiau llawn enaid. Mae gweithdai, sesiynau jamio a gigs hwyr y nos yn ychwanegu at yr awyrgylch fywiog, sy’n golygu bod Jazz Aberhonddu’n un o hanfodion unrhyw un sy’n angerddol am y genre yma.
Gŵyl y Dyn Gwyrdd
Gwefan: https://www.greenman.net/
Dyddiad: 15-18 Awst
Lleoliad: Crughywel
Tref agosaf: Crughywel
Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn ŵyl gerddorol a chelfyddydol sydd wedi ennill llwyth o wobrau a leolir yng ngwlad odidog Bannau Brycheiniog. Mae’n enwog ar gyfer yr artistiaid eclectig a’r lleoliad trawiadol, ac yn cynnig cyfuniad o gerddoriaeth, llenyddiaeth, ffilm, comedi a gweithgareddau llesiant. O roc indi a chanu gwerin i alawon electronig a seicedelig, mae’r arlwy cerddorol yn amrywiol ac yn fywiog. Tu hwnt i’r gerddoriaeth, mae’r ŵyl yn cynnig gosodiadau celf, gweithdai ac ardal benodol ar gyfer teuluoedd, sy’n golygu ei fod yn brofiad diwylliannol holistaidd sy’n dathlu creadigrwydd a chymuned.
Gŵyl Llanandras
Gwefan: https://presteignefestival.com/
Dyddiad: 22-26th Awst 2024
Lleoliad: Llanandras a’r ardal
Tref agosaf: Llanandras
Mae Gŵyl Llanandras yn dathlu cerddoriaeth glasurol a’r celfyddydau, a hynny yn nhref hyfryd Llanandras ar y gororau. Mae’r ŵyl hon yn enwog ar gyfer ei rhaglen arloesol, sy’n cynnwys cyfuniad o gyfansoddiadau cyfoes a champweithiau clasurol. Bob blwyddyn bydd Gŵyl Llanandras yn comisiynu gweithiau newydd ac yn cynnal perfformiadau cyntaf
trwy’r byd, sy’n golygu ei fod yn un o uchafbwyntiau’r calendr diwylliannol ar gyfer pobl
sy’n caru cerddoriaeth. Ochr yn ochr â’r cyngherddau, mae’r ŵyl yn cynnig cyflwyniadau, arddangosfeydd a digwyddiadau i’r gymuned, gan greu profiadau cyfoethog a diwylliannol i ymgolli ynddynt.
Gŵyl Sbringfwrdd Llanandras
Gwefan: https://www.eatsleepliveherefordshire.co.uk/event-pro/presteigne-springboard-festival/
Dyddiad: i’w gadarnhau 2025
Lleoliad: Llanandras a’r ardal
Tref agosaf: Llanandras
Croeso i Ŵyl Sbringfwrdd Llanandras, dathliad bywiog o gerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio yng nghanol tref Llanandras. Mae’r ŵyl yn ffrwydrad greadigrwydd ac yn cynnig llwyfan i ddoniau sy’n datblygu ac artistiaid sefydledig fel ei gilydd. O ddatganiadau clasurol swynol i berfformiadau cyfoes deinameg, mae’r ŵyl yn dangos amrywiaeth eang o arddulliau a genres. Gyda gweithdai, dosbarthiadau meistr a sesiynau rhyngweithiol mae Gŵyl Sbringfwrdd Llanandras yn meithrin twf artistig ac yn brofiad hyfryd i gynulleidfaoedd o bob oed.
Gŵyl Fale Aberhonddu
Gwefan: https://www.breconfestivalballet.com/
Dyddiad: Amrywiol
Lleoliad: BFB, Theatr Brycheiniog, Glanfa’r Gamlas, Aberhonddu LD3 7EW
Tref agosaf: Aberhonddu
Mae Gŵyl Fale Aberhonddu’n dod â byd hudol Bale i dref hyfryd Aberhonddu. Mae’r ŵyl yn cynnwys perfformiadau trawiadol gan ddawnswyr dawnus, sy’n cyflwyno bale clasurol a gweithiau cyfoes. Mae’r symudiadau gosgeiddig, gwisgoedd cain a cherddoriaeth swynol yn brofiad gwyrthiol i gynulleidfaoedd. Os ydych chi wedi dilyn bale ers tro, neu’n ei wylio am y tro cyntaf, mae Gŵyl Fale Aberhonddu’n cynnig cyfle ichi brofi harddwch a chelfyddyd y math yma o ddawnsio a hynny mewn lleoliad syfrdanol.
Baróc Aberhonddu
Gwefan: https://www.breconbaroquefestival.com/
Dyddiad: 11-14 Hydref 2024
Lleoliad: Amrywiol yn Aberhonddu
Tref agosaf: Aberhonddu
Mae Baróc Aberhonddu’n ŵyl a seilir ar harddwch cain cerddoriaeth Faróc. Ar ôl cael ei sefydlu gan y feiolinydd Rachel Podger, mae’r ŵyl yn dod â rhai o gerddorion Baróc gorau’r byd i gyd ynghyd. Cynhelir yr ŵyl yn nhref hanesyddol Aberhonddu, ac mae’n cynnwys cyngherddau clos mewn lleoliadau llawn awyrgylch, gan gludo cynulleidfaoedd i geinder yr 17 a’r 18fed ganrif. Gyda ffocws ar ddilysrwydd a chelfyddyd, rhaid i bobl sy’n caru’r traddodiad cerddorol cyfoethog ychwanegu Baróc Aberhonddu i’w calendr.
Gŵyl Gomedi’r Mynydd Du
Gwefan: https://bmfestivals.com/
Dyddiad: IONAWR 30 – CHWEFROR 1 2025Lleoliad: Crughywel
Tref agosaf: Crughywel
Byddwch yn barod ar gyfer chwerthin a mwynhad yng Ngŵyl Gomedi’r Mynydd Du. Gyda chefnlen drawiadol y Mynydd Du, mae’r ŵyl hon yn hafan i bobl sy’n caru comedi. Mae’n cynnwys rhaglen o sêr byd comedi, o enwau cyfarwydd i sêr sy’n dod i’r amlwg, mae’r ŵyl yn addo perfformiadau sy’n gwneud ichi grïo chwerthin. Gyda sioeau stand-yp, perfformiadau byrfyfyr a dramâu doniol, mae Gŵyl Gomedi’r Mynydd Du’n ddathliad llawn llawenydd o hiwmor a ffraethineb - perffaith i godi’r galon a gwella’ch diwrnod.
HowTheLightGetsIn Festival
Gwefan: https://howthelightgetsin.org/festivals
Dyddiad: i’w gadarnhau 2025
Lleoliad: Y Gelli Gandryll
Tref agosaf: Y Gelli Gandryll
Gŵyl athroniaeth a cherddorol fwyaf y byd yw HowTheLightGetsIn a gynhelir yn nhref hudolus Y Gelli Gandryll. Mae’r ŵyl unigryw hon yn cyfuno dadleuon a thrafodion sy’n ysgogi’r meddwl gyda chymysgedd eclectig o gerddoriaeth fyw, comedi a chelfyddyd perfformio. Mae’n cynnwys athronyddion, gwyddonwyr, artistiaid a cherddorion enwog, ac yn cynnig amgylchedd llawn cymhelliant lle mae syniadau a chreadigrwydd yn ffynnu. Felly os ydych chi’n awyddus i drafod cwestiynau athronyddol dwys neu fwynhau cyngerdd glos, mae’r ŵyl yn addo profiad deallus sy’n cyfoethogi o safbwynt diwylliannol.
Gŵyl Gomedi Machynlleth
Gwefan: https://machcomedyfest.co.uk/
Dyddiad : Dydd Gwener 2 May – dydd Sul 4 Mai 2025
Tref agosaf: Machynlleth
Mae Gŵyl Gomedi Machynlleth, a gynhelir yn y dref farchnad fendigedig hon, yn berl ymhlith gwyliau comedi’r wlad, ac yn enwog am yr awyrgylch glos a rhyfedd. Bob gwanwyn mae’r ŵyl yn trawsnewid y dref yn hafan lawn chwerthin wrth ddenu’r comedïwyr gorau a doniau sy’n dod i’r amlwg fel ei gilydd i berfformio mewn lleoliadau clyd ar hyd a lled y dref. Gyda natur gyfeillgar a hamddenol a chymysgedd eclectig o berfformiadau stand-yp, sgetshis a pherfformiadau byrfyfyr, mae Gŵyl Gomedi Machynlleth yn cynnig profiadau unigryw ond braf i bobl sy’n caru comedi a chefnogwyr achlysurol fel ei gilydd.
Gŵyl Gorawl Aberhonddu
Gwefan: https://www.breconchoirfestival.co.uk/
Dyddiad: 17-20 Gorffennaf 2025
Tref agosaf: Aberhonddu
Ysbryd cymunedol a chyfoethogi diwylliannol yw diben CBC Brecon Buzz. Mae’r sefydliad deinameg hwn yn dod â gŵyl fywiog i Aberhonddu, sy’n canolbwyntio ar gerddoriaeth, y celfyddydau a doniau lleol.
Ymhlith uchafbwyntiau gŵyl 2024 roedd ‘The Armed Man’ ar y nos Iau trwodd i’r Gymanfa Ganu ar y nos Sul, roedd yr angerdd ar gyfer cerddoriaeth gorawl yn ddwys ynghyd ag ysbryd cymunedol unigryw’r Ŵyl. Mae’r gwyliau hyn yn dystiolaeth o’r gymuned artistig fywiog sy’n bodoli yn Aberhonddu, ac yn cynnig llwyfan i artistiaid serennu. Gallwch ddisgwyl croeso cynnes, awyrgylch gynhwysol a digonedd o gyfleoedd i ymgolli yn y sîn celfyddydau lleol yn 2025.