top of page
front cover .png

Celf a Chrefftau, Gweithdai a Gemau

Paper Art

Mae llu o gelfyddydau a chrefftau i’w darganfod ym Mhowys, lle mae gallu creadigol yn ffynnu, a doniau lleol yn llewyrchu.
Mae’r ardal yn gyfoeth o allu creadigol - o decstilau trawiadol i botiau, sydd yn llythrennol yn dal breuddwydion. Os hoffech weld gwlân yn cael ei drawsnewid yn ddillad i’w gwisgo yn sioe Gwyrthwlan Cymru, neu’n awyddus i gael darn o grochenwaith sy’n fwy cŵl na hen debot eich nain, mae Crochenwaith Alex Allpress Pottery, Powys yn cynnig y cyfan.
Neu beth am fentro i fyd ‘Textile Junkies’ ar gyfer hwyl gyda defnyddiau, neu i gael mwynhau doniau artistig yng Nghanolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crughywel.
Os taw cymysgedd o hanes a chreadigrwydd sy’n ddeniadol ichi, mae Gorsaf Erwyd yn cynnig popeth yn y maes yma – ac mae’r hen reilffordd yn hafan i grefftau newydd.
Felly beth am dorchi llewys, a manteisio ar ryfeddodau artistig Powys - mae cynfas newydd o gwmpas pob cornel, a phob crefft yn antur greadigol sy’n eich disgwyl i’w ddarganfod!

Fox

Cyswllt Celf


Gwefan: https://artsconnection.org.uk
Lleoliad:  Y, Dolydd, Llanfyllin SY22 5LD
Tref agosaf: Llanfyllin

 

Cyswllt Celf yw eich porth i gyfoeth llewyrchus o fynegiant celfyddydol. Mae’r sefydliad hwn yn meithrin sîn celf deinameg ledled Powys, ac yn cysylltu artistiaid â chyfleoedd a’r gymuned gyda phrofiadau celf unigryw. Boed hyn yn golygu mynd i weithdy, neu grwydro arddangosfeydd, dyma galon gallu creadigol lleol.

Art Class
textile junkies .png

Textile Junkies


Gwefan: www.textilejunkies.com
Lleoliad: 16 Sgwâr Hafren, Y Drenewydd SY16 2AQ

Tref agosaf: Y Drenewydd

 

Yn ‘Textile Junkies’, gellir teimlo’r angerdd ar gyfer defnydd. Mae’r hwb creadigol yma’n cynnig popeth o weithdai unigryw i ddarnau tecstilau pwrpasol. Gallwch fforio i fyd lle mae tecstilau’n fwy na defnydd yn unig, ond maent yn hytrach yn gynfas ar gyfer y dychymyg a sgiliau. Os taw celfyddydau ffabrig sy’n mynd â’ch bryd chi, bydd eich gallu creadigol yn wirioneddol ffynnu gyda ‘Textile Junkies’.

Canolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crughywel

Gwefan: https://visitcrickhowell.wales/cric-centre
Lleoliad:  1 Beaufort St, Crickhowell NP8 1BN
Tref agosaf: Crughywel

 

Nid hwb yn unig yw Canolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crughywel ar gyfer gwybodaeth leol, ond hefyd mae’n arddangos celfyddydau a chrefftau’r ardal. Yma ceir popeth o waith crefftwyr lleol i weithdai crefftau ac arddangosfeydd. Mae’n lle hynod fywiog lle mae’r gymuned a gallu creadigol yn dod ynghyd.

cric.png
carad .png

Carad
 

Gwefan: https://carad.org.uk/
Lleoliad: CARAD, Stryd y Dwyrain, Rhaeadr Gwy, Powys LD6 5ER
Tref agosaf: Rhaeadr Gwy

 

Mae CARAD sydd â’i gartref yng nghalon Powys, yn hyrwyddo ac yn dathlu celfyddydau a chrefftau lleol. Gydag amrediad o arddangosfeydd, gweithdai a digwyddiadau, mae CARAD yn cynnig llwyfan bywiog ar gyfer artistiaid a chrefftwyr i arddangos eu gwaith ac ymgysylltu â’r gymuned. Mae’r doniau artistig a diwylliant lleol yn dod ar draws ei gilydd yn hynod effeithiol yma.

Minerva
 

Gwefan: https://www.llanidloes.com/minerva-arts/
Lleoliad: Canolfan Celfyddydau Minerva, Stryd Fawr, Llanidloes, SY18 6BY

Tref agosaf: Llanidloes

 

Mae Minerva yn hafan ar gyfer unigolion sy’n caru’r celfyddydau a chrefftau. Mae’r oriel a’r stiwdio’n dangos ystod amrywiol o gelfyddydau a chrefftau cyfoes, ac yn cynnig llwyfan ar gyfer artistiaid sy’n datblygu a rhai sydd eisoes wedi sefydlu eu hunain. Gallwch fwynhau arddangosfeydd a gweithdai sy’n newid yn gyson, sy’n tynnu sylw at y doniau lleol a chenedlaethol gorau.

minerva.png
autumn fair .png

Ffair Hydref Canolbarth Cymru

Dyddiad: 5-6/10/2024
Gwefan: https://midwalesautumnfayre.co.uk/
Lleoliad: Maes y Sioe Frenhinol,
Tref agosaf: Llanfair ym Muallt

 

Mae Ffair Hydref Canolbarth Cymry’n dod â’r crefftau lleol a nwyddau crefftwyr lleol ynghyd. Ceir cyfle i ddarganfod trysorau a wneir â llaw, megis gemwaith, gwaith cerameg, a hefyd cyfle i gwrdd â’r unigolion creadigol sy’n eu creu. Mae’r ffair yn ddelfrydol i gael hyd i roddion unigryw, a chael blas ar allu creadigol Canolbarth Cymru.

Celf


Gwefan: https://www.celfogwmpas.org/
Lleoliad: Y Canolfan Celf, Ffordd Tremont, Llandrindod, Powys LD1 5EB
Tref agosaf: Llandrindod

 

Sefydliad celf deinameg yw Celf sydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo’r celfyddydau gweledol ledled Powys. Gyda detholiad o arddanosgfeydd, gweithdai a digwyddiadau creadigol mae Celf yn cynnig gofod bywiog i artistiaid ddangos eu gwaith ac i’r gymuned ymgysylltu â chelfyddydau gweledol mewn ffyrdd arwyddocaol.

celf.png
wonderwool.png

Gwyrthwlan Cymru Cyf

Dyddiad: 26-27/04/2025

Gwefan: https://www.wonderwoolwales.co.uk/

Lleoliad: Maes y Sioe Frenhinol

Tref agosaf: Llanfair ym Muallt

 

Cyfle i fwynhau rhyfeddodau Gwyrthwlan Cymru, lle mae gwlân defaid yn cael ei droi’n decstilau trawiadol. Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn dathlu popeth sy’n ymwneud â gwlân, o ddillad a wnaethpwyd â llaw i grefftau cain. Hanfodol ar gyfer unigolion sy’n frwdfrydig am ffibr, a’r sawl sydd am ddarganfod traddodiadau cyfoethog celfyddyd gwlân Cymru.

Gorsaf Erwyd


Gwefan: https://erwoodstationcraftcentre.co.uk
Lleoliad: Llandeilo Graban, Llanfair ym Muallt LD2 3SJ
Tref agosaf: Builth Wells

 

Mae Gorsaf Erwyd yn lleoliad celfyddydau unigryw a leolir mewn hen orsaf reilffordd; mae’n cynnig cefnlen hyfryd ar gyfer ystod o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd artistig. Gallwch ddarganfod cymysgedd o gelfyddydau gweledol, crefftau a gweithdai creadigol yn y lleoliad hollol unigryw yma, lle gellir mwynhau cyfuniad o hanes a chreadigrwydd cyfoes.

erwood .png
skynet.png

Skynet Wales
 

Gwefan: https://skynetwales.co.uk
Tref agosaf: Aberhonddu

 

O leoliad yn Aberhonddu, SkyNet Wales yw’r cyrchfan gorau ar gyfer unigolion sy’n frwdfrydig ynghylch chwarae gemau LAN. Mae’r hyn a gychwynnodd tua dechrau’r 2000au gydag ychydig o ffrindiau’n chwarae gemau mewn ystafell sbâr wedi esblygu’n lleoliad o’r radd flaenaf, sy’n cynnig y dechnoleg rhwydwaith ddiweddaraf a gweinyddwyr gemau pwrpasol. Erbyn hyn rydym yn cynnig cyfleoedd i dros 100 o unigolion sy’n chwarae, ac yn cyflwyno digwyddiadau penigamp lle mae’r cyffro a’r egni ar ei anterth bob tro.
Mae angerdd y tîm yn ymestyn tu hwnt i gemau hefyd; maent wedi ymrwymo i sicrhau y cynigir croeso cynnes i bawb sy’n chwarae, a bod pob unigolyn yn cael amser gwych. Gyda thîm sydd wedi ymrwymo i gynnig hwyl o’r radd flaenaf a chymorth llyfn, mae SkyNet Wales yn addo profiad gemau bythgofiadwy yng nghalon Powys.

 

Andrew Logan
 

Gwefan: https://www.andrewlogan.com/
Lleoliad: Aberriw, Y Trallwng SY21 8AH
Tref agosaf: Y Trallwng

 

Mae stiwdio Andrew Logan yn wledd ddisglair i fyd celf eclectig. Mae’n adnabyddus am ei gerfluniau bywiog, mosaig, a dyluniadau llachar, ac mae gwaith Logan yn wledd i’r llygaid. Mae ei stiwdio’n cynnig cipolwg ar y broses ddychmygol tu ôl i’w creadigaethau rhyfeddol, a rhaid i unigolion sy’n frwdfrydig am gelf ymweld â’r stiwdio yma.

andrew logan .png
pottery alex allpress.png

Crochenwaith Alex Allpress


Gwefan: https://www.alexallpress.co.uk
Lleoliad: Alex Allpress Pottery, Stryd yr Eglwys, Llanfair ym Muallt, Powys . LD2 3AP
Tref agosaf: Llanfair ym Muallt

 

Dewch i ddarganfod byd crochenwaith Alex Allpress, lle mae technegau traddodiadol yn toddi â dyluniadau cyfoes. Mae gwaith cerameg Allpress yn cael ei ddathlu ar gyfer eu hansawdd a’u harddull unigryw. Ewch i ymweld â’i stiwdio i weld yr artist wrth ei waith a darganfod darnau crochenwaith unigryw, a wnaethpwyd â llaw, sy’n ychwanegu gwychder i unrhyw sefyllfa.

bottom of page