top of page
Garden Party

Cymuned a Theulu ym Mhowys

Newtown Play Park dolerw-28.jpg

Yma ceir cymysgedd hyfryd o ddigwyddiadau a gweithgareddau gyda’r nod o ddod â phobl ynghyd ac i ddathlu hynodrwydd a swyn ein rhanbarth.
Ein cynghorau tref sydd tu ôl i lawer o fentrau lleol, gan sicrhau bod rhywbeth hwyl ar y gweill o hyd. O garnifalau bywiog i wyliau hudolus sy’n dangos ein treftadaeth amaethyddol, Powys yw’r lle perffaith i deuluoedd greu cysylltiadau ac atgofion bythgofiadwy.
Beth am ddarganfod ein hybiau cymunedol sydd llawn bwrlwm, neu fanteisio ar weithdai ymarferol, a mwynhau’r traddodiadau sydd mor gynhenid i Bowys. Boed hynny’n golygu ras defaid mewn ffair leol (ie, defaid yn cystadlu yn erbyn ei gilydd) neu flasu danteithion mewn un o’r gwyliau bwyd, mae croeso cynnes a chwerthin di-ri’n disgwyl ymwelwyr o bob oed.
Felly, paciwch eich natur anturus a’ch jôcs gorau - mae Powys yn barod i ddangos amser da ichi! Ymunwch â ni i fwynhau ysbryd cymunedol a hwyl i’r teulu cyfan, y ddau’n mynd law yn llaw, a byddwch yn teimlo eich bod yn dychwelyd adref bob tro y byddwch yn dod atom.

Hay Festival Family - Hay On Wye - OC.jpg

CFfI Maesyfed


Gwefan: https://www.radnoryfc.org.uk/
Lleoliad: Llandrindod
Tref agosaf: Llandrindod

 

Clybiau Ffermwyr Ifainc Maesyfed (CFfI) sydd wrth galon y gymuned amaethyddol, ac yn cynnig cyfle i bobl ifanc fagu sgiliau, gwneud ffrindiau a chyfrannu at fywyd gwledig. Trwy gystadlaethau, digwyddiadau cymdeithasol a phrosiectau cymunedol, mae CFfI Maesyfed yn helpu meithrin y genhedlaeth nesaf o ffermwyr ac arweinyddion yn y gymuned.

radnoryfc.png
1 20.png

Cyngor Tref Aberhonddu


Gwefan: https://brecontowncouncil.org.uk
Lleoliad: Neuadd y Dref, Stryd Fawr, Aberhonddu LD3 7AL

Tref agosaf: Aberhonddu

 

Mae Cyngor Tref Aberhonddu wrth galon bywyd cymunedol y dref. Mae wedi ymrwymo i gyfoethogi swyn y dref a sicrhau awyrgylch gynnes a chroesawgar ar gyfer trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. O drefnu digwyddiadau sy’n addas i deuluoedd i gefnogi mentrau lleol, mae Cyngor Tref Aberhonddu yn chwarae rhan hollbwysig o ran cynnal ysbryd cymunedol bywiog y dref.

Rhwydwaith Stori Aberhonddu


Gwefan: https://breconstory.wales/home
Lleoliad: Rhwydwaith Stori Aberhonddu, Canolfan Esgobol Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, LD3 9DP
Tref agosaf: Aberhonddu

 

Diben Rhwydwaith Stori Aberhonddu yw dod â phobl ynghyd trwy ddweud straeon. Mae’r fenter hon yn cysylltu storïwyr, haneswyr, a’r gymuned er mwyn dathlu treftadaeth gyfoethog Aberhonddu. Trwy gynnal digwyddiadau a gweithdai ar gyfer pob oed, mae’n ffordd wych i deuluoedd ddarganfod straeon sy’n gwneud Aberhonddu’n dref unigryw.

2.png
3.png

Canolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crughywel


Gwefan: https://visitcrickhowell.wales/cric-centre
Lleoliad: Canolfan CRiC, Stryd Beaufort, Crughywel, Powys, NP8 1BN
Tref agosaf: Crughywel

 

Hwb gweithgareddau llawn bwrlwm yw Canolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crughywel, sy’n cynnig cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau ar gyfer pobl leol a thwristiaid. Dyma’r lle delfrydol i ddarganfod manylion digwyddiadau cymunedol, dysgu rhagor ynghylch hanes yr ardal, a chael mynediad at adnoddau sy’n golygu taw pleser pur yw byw yn neu ymweld â Chrughywel.

Cyngor Tref Rhaeadr Gwy


Gwefan: https://rhayader.gov.wales/
Lleoliad: Rhaeadr Gwy
Tref agosaf: Rhaeadr Gwy

 

Mae Cyngor Tref Rhaeadr Gwy wedi ymrwymo i feithrin cymuned glos a bywiog. Maent yn trefnu digwyddiadau sy’n dod â theuluoedd a chymdogion ynghyd, yn cefnogi busnesau lleol, ac yn gweithio i gyfoethogi mannau cyhoeddus. Mae ymdrechion y cyngor yn sicrhau fod Rhaeadr Gwy’n parhau’n dref sy’n ffynnu ac yn estyn croeso cynnes i bawb.

4 6.png
5 4.png

Cyngor Tref Y Trallwng

Gwefan: https://www.welshpooltowncouncil.gov.uk/
Lleoliad: Cyngor Tref Y Trallwng, Tŷ Triongl, Stryd yr Undeb, Y Trallwng, Powys, SY21 7PG
Tref agosaf: Y Trallwng

 

Lles y gymuned sydd wrth galon Cyngor Tref Y Trallwng. Maent yn trefnu digwyddiadau ar gyfer teuluoedd, yn cynnal a chadw parciau hardd, ac yn cefnogi mentrau lleol i sicrhau fod Y Trallwng yn lle gwych i fyw ynddo ac ymweld ag ef. Mae gwaith y cyngor yn helpu cryfhau cysylltiadau cymunedol a chyfoethogi ansawdd bywyd i’w holl drigolion.

Grŵp Cymunedol Materion Aberllynfi

Gwefan: https://www.facebook.com/Three.Cocks.Matters
Lleoliad: Aberllynfi LD3 Aberhonddu
Tref agosaf: Aberhonddu

 

Sefydliad deinameg yw Grŵp Cymunedol Materion Aberllynfi sydd wedi ymrwymo i wella bywyd yn Aberllynfi. Trwy ddigwyddiadau, mentrau ac ymdrechion amrywiol gwirfoddolwyr, maent yn gweithio i feithrin naws cymunedol ac i fynd i’r afael â materion lleol, gan sicrhau fod Aberllynfi yn lle gwych i fyw ynddo.

6 3.png
7 5.png

Gŵyl Lenyddol Trefaldwyn


Gwefan: https://montylitfest.com/
Lleoliad: Stryd Lydan, Trefaldwyn, Powys, SY15 6PH
Tref agosaf: Trefaldwyn

 

Dathliad o eiriau a syniadau yw Gŵyl Lenyddol Trefaldwyn, sy’n dod ag awduron, beirdd ac unigolion sy’n caru llenyddiaeth o bob oed, at ei gilydd. Trwy ddarlleniadau, gweithdai a thrafodaethau mae’r ŵyl yn cynnig rhywbeth at ddant pawb. Mae’n gyfle gwych i deuluoedd fwynhau rhyfeddodau dweud straeon a llenyddiaeth gyda’i gilydd.
 

Grŵp Fforwm Calon Cymru

Gwefan:
https://www.heart-of-wales.co.uk/
Lleoliad: Llandrindod
Tref agosaf: Llandrindod

 

Mae Grŵp Fforwm Calon Cymru (HoFW) yn hyrwyddo ac yn cefnogi’r cymunedau ar hyd rheilffordd Calon Cymru. Mae eu prosiectau a’u mentrau’n cyfoethogi lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y cymunedau hyn, gan sicrhau eu bod yn parhau’n fywiog ac yn gynaliadwy. Mae teuluoedd ac aelodau’r gymuned fel ei gilydd yn elwa o’u hymdrechion neilltuol.

8 4.png
9 2.png

Carnifal Llanandras


Gwefan: https://www.facebook.com/Presteignecarnival/?locale=en_GB
Lleoliad: Wents Meadow LD8 2BW Llanandras
Tref agosaf: Llanandras

 

Mae Carnifal Llanandras yn un o uchafbwyntiau’r calendr lleol, ac yn dod â’r gymuned ynghyd ar gyfer diwrnod o hwyl, adloniant a dathlu. Gyda gorymdeithiau, cerddoriaeth fyw, gemau a stondinau, mae’r carnifal yn cynnig rhywbeth at ddant pawb, ac yn dangos ysbryd cymunedol bywiog Llanandras ei hun.

Gŵyl Fwyd Y Drenewydd

Gwefan: https://www.newtownfoodfestival.org.uk/home
Lleoliad: 16 Stryd Hafren, Y Drenewydd, Powys, Wales, SY16 2AQ
Tref agosaf: Y Drenewydd

 

Mwynhad o’r mwyaf a gynigir gan Ŵyl Fwyd Y Drenewydd, sy’n cynnig gwledd o flasau lleol a hwyl i’r teulu cyfan. Gyda stondinau bwyd amrywiol, arddangosfeydd coginio ac adloniant, mae’n rhaid ei chynnwys ar galendr unigolion sy’n caru bwyd, ac mae’n ddathliad hefyd o dreftadaeth goginiol gyfoethog Y Drenewydd. Diwrnod allan delfrydol i deuluoedd ei fwynhau gyda’i gilydd.
 

10 2.png
5.png

Carnifal Rhaeadr Gwy


Gwefan: https://www.rhayadercarnival.co.uk/
Lleoliad: Rhaeadr Gwy
Tref agosaf: Rhaeadr Gwy

 

Dathliad bywiog o ysbryd cymunedol yw Carnifal Rhaeadr Gwy, sy’n cynnwys gorymdaith liwgar, adloniant byw a gweithgareddau i bobl o bob oed. Mae’r carnifal yn dod â’r dref yn fyw, gydag awyrgylch llawn hwyl ac mae’n dystiolaeth o’r naws cymunedol cryf sy’n bodoli yn y dref. Digwyddiad i’w fwynhau gan y teulu cyfan.

Hwb Gemau KDM


Gwefan: https://www.facebook.com/KDMCollectables/?locale=en_GB
Lleoliad: Stryd y Deml LD1 5DL Llandrindod
Tref agosaf: Llandrindod

 

Mae Hwb Gemau KDM yn baradwys ar gyfer pobl o bob oed sy’n frwdfrydig am gemau; mae’n cynnig lle i chwarae, cystadlu a chysylltu. Gyda gemau, twrnameintiau a digwyddiadau amrywiol mae’r hwb yn gymuned fywiog lle gall teuluoedd a phobl sy’n chwarae gemau ddod ynghyd i fwynhau eu hangerdd tuag at chwarae gemau.

KDM.jpg
horticulture.png

Sioe Arddwriaethol a Chwaraeon Llanfechain

Dyddiad: 26/08/2024

Gwefan: https://llanfyllin.org/events/llanfyllin-agricultural-horticultural-show/?doing_wp_cron=1722611438.8520491123199462890625

Lleoliad: Parc Bodfach Llanfyllin

Tref agosaf: Llanfyllin

 

Mae Sioe Arddwriaethol a Chwaraeon Llanfechain yn ddathliad blynyddol o ddoniau lleol a balchder y gymuned. Mae’n cynnwys cystadlaethau, arddangosfeydd a champau amrywiol, ac yn ddiwrnod llawn hwyl ar gyfer y teulu cyfan. Ffordd wych i brofi ysbryd y gymuned a rhagoriaeth arddwriaethol Llanfechain.

bottom of page