top of page
9.png

Lleoliadau

Rock gig

O theatrau anghyffredin a mannau perfformio celfyddydol i lwyfannau urddasol lle cynhelir sioeau anhygoel, Powys yw’r lle lle mae diwylliant a chefn gwlad yn taro ei gilydd yn y ffordd orau bosibl.

Awydd ychydig o ddrama? Cymerwch gip ar raglenni’r Hafren a Theatr Brycheiniog ar gyfer perfformiadau sy’n amrywio o sioeau i gynhesu’r galon i rai sy’n achosi cyffro mawr i’r galon. Os taw cerddoriaeth fyw sy’n mynd â’ch bryd, Y Glôb yn Y Gelli a Lost Arc yw’r llefydd ichi gyda gigs i wneud ichi ddawnsio.
Bydd pobl sy’n caru celf wrth eu bodd yn MoMA ym Machynlleth, lle mae’r ffocws ar greadigrwydd cyfoes Cymreig.

A fedrwn ni ddim anghofio achlysur mwyaf y flwyddyn – Sioe Frenhinol Cymru, lle bydd amaeth ochr yn ochr ag adloniant ar gyfer strafagansa o dda byw, crefftau lleol a digon o stondinau bywyd ichi gael mwynhau bwyta trwy’r dydd.

Barod i fwynhau profiadau byw, celf i’ch swyno, a dogn calonnog o hud lleol? Estynnwch am eich tocynnau, byddwch yn barod ar gyfer antur a chael eich diddanu — mae sedd gyda’ch enw chi arno’n eich disgwyl ym Mhowys!

Orchestra Conductor

Canolfan Celfyddydau Wyeside


Gwefan: https://www.wyeside.co.uk/
Lleoliad: Stryd y Castell | Llanfair ym Muallt | Powys | LD2 3BN
Tref agosaf: Llanfair ym Muallt

 

Yng nghalon tref Llanfair ym Muallt, mae Canolfan Celfyddydau Wyeside yn berl diwylliannol sy’n gyfuniad o hanes a modernedd. O ddangos ffilmiau i berfformiadau byw, mae’r lleoliad hwn yn cynnig cymysgedd eclectig o adloniant. Mae ei leoliad unigryw ar lan yr afon, a phensaernïaeth swynol cyfnod Victoria yn creu awyrgylch i’ch swyno, perffaith i fwynhau’r celfyddydau.

3.png
4.png

Neuadd Albert


Gwefan: https://thealberthall.co.uk/
Lleoliad: Neuadd Albert, Heol Eithon, Llandrindod LD1 6AS
Tref agosaf: Llandrindod
 

Mae Neuadd Albert, a leolir yn Llandrindod, yn enghraifft drawiadol o geinder Fictoraidd. Mae’r lleoliad hanesyddol hwn yn cynnal ystod eang o ddigwyddiadau, yn amrywio o gyngherddau a chynyrchiadau theatr i ddigwyddiadau cymunedol. Gyda’r addurniadau cain a’r acwsteg ragorol, mae’n cynnig lleoliad bythgofiadwy i berfformwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd.

Pafiliwn Canolbarth Cymru


Gwefan: https://www.pavilionmidwales.org.uk/
Lleoliad: Pafiliwn Canolbarth Cymru, Heol y Sba, Llandrindod LD1 5EY
Tref agosaf: Llandrindod

 

Mae Pafiliwn Canolbarth Cymru yn Llandrindod yn hwb deinameg ar gyfer gweithgareddau diwylliannol. Mae’r lleoliad hyblyg hwn yn darparu ar gyfer digwyddiadau amrywiol, gan gynnwys cyngherddau, arddangosfeydd a chynadleddau. Mae ei ddyluniad cyfoes a’r cyfleusterau o’r radd flaenaf yn ei wneud yn gyrchfan pwysig ar gyfer trigolion lleol ac ymwelwyr sy’n chwilio am adloniant heb ei debyg.

2.png
1.png

Theatr Brycheiniog


Gwefan: https://www.brycheiniog.co.uk/en
LLeoliad: Theatr Brycheiniog, Glanfa’r Gamlas, Aberhonddu, Powys LD3 7EW
Tref agosaf: Aberhonddu

 

Yn edrych dros y Gamlas hyfryd yn Aberhonddu, mae Theatr Brycheiniog yn cynnig cefnlen drawiadol ar gyfer y rhaglen amrywiol o berfformiadau a geir yma. O ddrama a dawns i gerddoriaeth a chomedi, mae’r theatr hon yn dangos amrywiaeth eang o ddoniau. Mae’r bensaernïaeth gyfoes a’r awyrgylch groesawgar yn golygu ei fod yn gyrchfan poblogaidd gyda phobl sy’n hoff o ddiwylliant.

Glôb Y Gelli


Gwefan: https://www.theglobeathay.org/
Lleoliad: Stryd Casnewydd, Y Gelli Gandryll, Henffordd HR3 5BG
Tref agosaf: Y Gelli Gandryll

 

Canolfan celfyddydau bywiog yn nhref lenyddol Y Gelli Gandryll, mae Glôb Y Gelli yn hafan greadigol ar gyfer artistiaid a chynulleidfaoedd. Mae’n enwog ar gyfer digwyddiadau eclectig, gan gynnwys cerddoriaeth fyw, darlleniadau barddonol, ac arddangosfeydd celf, mae’r lleoliad yn meithrin naws cymunedol ac ysbrydoliaeth. Mae’r naws bohemaidd a’r swyn hanesyddol yn ychwanegu at ei apêl unigryw.

3.png
4.png

Yr Hafren
Gwefan:
https://www.thehafren.co.uk/
Lleoliad: Yr Hafren, Ffordd Llanidloes, Y Drenewydd, Powys SY16 4HU
Tref agosaf: Y Drenewydd

 

Mae’r Hafren, a leolir yn Y Drenewydd, yn gyrchfan o fywyd diwylliannol yng Nghanolbarth Cymru. Mae’r lleoliad hyblyg hwn yn cynnig ystod eang o berfformiadau, megis dramâu gafaelgar a sioeau cerdd llawn egni, i gyngherddau i’ch swyno a digwyddiadau cymunedol. Mae cyfleusterau cyfoes Yr Hafren a’r awyrgylch groesawgar yn golygu ei fod yn lle deniadol ar gyfer perfformwyr a chynulleidfaoedd. Gydag ymrwymiad i feithrin doniau lleol a dod â pherfformiadau o’r radd flaenaf i’r rhanbarth, mae’n hwb diwylliannol hollbwysig, sy’n cyfoethogi tirwedd artistig Y Drenewydd a thu hwnt. Mae’r Hafren yn addo profiad llawn diddordeb a bythgofiadwy i unigolion brwdfrydig am y theatr neu ymwelwyr achlysurol.

Y Glôb Helyg


Gwefan: https://www.shakespearelink.org.uk/about-willow-globe
Lleoliad: Penlanole, Llandrindod LD1 6NN
Tref agosaf: Llandrindod

 

Mae’r Glôb Helyg yn Llandrindod yn theatr awyr agored unigryw, a grëwyd o goed helyg byw yn unig. Mae’r lleoliad cyfareddol hwn yn dod â hud Shakespeare a gweithiau clasurol eraill yn fyw mewn sefyllfa awyr agored, naturiol. Mae’r dyluniad ecogyfeillgar a’r awyrgylch lonydd yn ei wneud yn lle neilltuol ar gyfer perfformwyr a chynulleidfaoedd.

5.png
6.png

Lost Arc
Gwefan:
https://thelostarc.co.uk/
Lleoliad: Yr Hen Neuadd Ymarfer, Stryd y Bont, Rhaeadr Gwy LD6 5AG.
Tref agosaf: Rhaeadr Gwy

 

Mewn lleoliad cudd yn nhref Rhaeadr Gwy, mae’r Lost Arc yn lleoliad diwylliannol bywiog sy’n enwog am gymysgedd eclectig o gerddoriaeth, theatr a digwyddiadau celf. Mae’r gofod anghyffredin a chlos yn cynnig llwyfan i artistiaid sy’n datblygu eu doniau ac actau sefydledig fel ei gilydd. Mae’r naws wledig a’r awyrgylch fywiog yn golygu fod pob ymweliad yn antur gofiadwy.

MoMa (Amgueddfa Celf Gyfoes)


Gwefan: https://moma.cymru/en/
Lleoliad: Y Tabernacl, Heol Penrallt, Machynlleth, SY20 8AJ,
Tref agosaf: Machynlleth

 

Amgueddfa celf gyfoes yw MoMA Cymru a leolir ym Machynlleth, sy’n dathlu gweithiau artistiaid Cymreig cyfoes. Gyda rhaglen arddangosfeydd sy’n newid yn gyson a digwyddiadau diddorol, mae’n cynnig gofod deinameg o ran archwiliad artistig. Mae ymrwymiad MoMA i arloesi a chreadigrwydd yn golygu ei fod yn un o gonglfeini’r sin celf yng Nghymru.

7.png
8.png

Neuadd Les Ystrad
Gwefan:
https://thewelfare.co.uk/
Lleoliad: Y Neuadd Les, Heol Aberhonddu, Ystradgynlais, Powys, SA9 1JJ 
Tref agosaf: Ystradgynlais

 

Mae’r Neuadd Les yn Ystradgynlais yn ganolfan gymunedol llawn bwrlwm sy’n cynnal digwyddiadau amrywiol, megis ffeiriau lleol a marchnadoedd i berfformiadau theatr a digwyddiadau cymdeithasol. Mae’r awyrgylch groesawgar a’r gofod hyblyg yn ei wneud yn hwb canolog ar gyfer bywyd y gymuned a gweithgareddau diwylliannol.

Maes y Sioe Frenhinol


Gwefan: https://rwas.wales/showground/
Lleoliad: CAFC Llanelwedd, Llanfair ym Muallt LD2 3SY
Tref agosaf: Llanfair ym Muallt

 

Mae Maes y Sioe Frenhinol yn lleoliad deinameg sy’n darparu ar gyfer amrywiaeth sylweddol o ddigwyddiadau. O urddas priodasau a phroffesiynoldeb cyfarfodydd busnes i gyffro cyngherddau a chreadigrwydd arddangosfeydd, mae’r gofod hyblyg hwn yn delio gyda hyn oll yn ddawnus. Felly os ydych chi’n cynllunio cynhadledd, digwyddiad cyhoeddus mawr neu achlysur teulu, mae maes y sioe yn cynnig cefnlen berffaith, sy’n sicrhau fod pob achlysur yn llwyddiant bythgofiadwy.

royal welsh show .png
bottom of page